YouVersion Logo
Search Icon

Luk 20

20
PENNOD XX.
Christ yn profi ei awdurdod, trwy ymofyn am fedydd Ioan. Dammeg y winllan. Am roddi teyrn-ged i Kæsar. Y mae efe yn gorchfygu y Sadukai, y rhai a wadent yr adgyfodiad. Y mae efe yn rhybuddio ei ddisgyblion i ochelyd yr ysgrifenyddion.
1A DIGWYDDODD ar un o’r dyddiau pan oedd efe yn dysgu y bobl yn y deml, ac yn pregethu yr efengyl, ddyfod arno yr arch-offeiriaid a’r ysgrifenyddion, gyd â’r henuriaid, 2A llefaru wrtho, gan ddywedyd, Dywed i ni, Trwy ba awdurdod yr wyt yn gwneuthur y pethau hyn? a pwy yw yr hwn a roddodd i ti yr awdurdod hon? 3Ac efe a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, A minnau a ofynaf i chwi un gair; a dywedwch i mi: 4A oedd bedydd Ioan o’r nef, ai o ddynion? 5Eithr hwy a ymresymmasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, O’r nef; efe a ddywed, Paham gan hynny na chredech ef? 6Ac os dywedwn, O ddynion; yr holl bobl a’n llabyddiant ni: canys y maent yn cwbl-gredu fod Ioan yn brophwyd. 7A hwy a attebasant, na’s gwyddent o ba le. 8A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Ac nid wyf finnau yn dywedyd i chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn. 9Ac efe a ddechreuodd ddywedyd y ddammeg hon wrth y bobl: Rhyw ŵr a blannodd winllan, ac a’i gosododd i lafurwŷr, ac a aeth oddi cartref dros dalm. 10Ac mewn amser efe a anfonodd was at y llafurwŷr, fel y rhoddent iddo o ffrwyth y winllan: eithr y llafurwyr a’i curasant ef, ac a’i hanfonasant ymaith yn wag-law. 11Ac efe a chwanegodd anfon gwas arall: eithr hwy a gurasant ac a ammharchasant hwnnw hefyd, ac a’i hanfonasant ymaith yn wag-law. 12Ac efe a chwanegodd anfon y trydydd: a hwy a glwyfasant hwn hefyd, ac a’i bwriasant ef allan. 13Yna y dywedodd arglwydd y winllan, Pa beth a wnaf? Mi a anfonaf fy anwyl fab: fe allai pan welant ef, y parchant ef. 14Eithr y llafurwŷr, pan welsant ef, a ymresymmasant â’u gilydd, gan ddywedyd, hwn yw yr etifedd: deuwch, lladdwn ef, fel y byddo yr etifeddiaeth yn eiddom ni. 15A hwy a’i bwriasant ef allan o’r winllan, ac a’i lladdasant. Pa beth gan hynny a wna arglwydd y winllan iddynt? 16Efe a ddaw ac a ddifetha y llafurwŷr hyn, ac a rydd ei winllan i eraill. A phan glywsant hyn, hwy a ddywedasant, Na fydded felly? 17Ac efe a edrychodd arnynt, ac a ddywedodd, Beth gan hynny yw hyn a ysgrifenwyd, Y maen a wrthododd yr adeiladwŷr, hwn a wnaethpwyd yn ben y gongl? 18Pwy bynnag a syrthio ar y maen hwnnw, a ddryllir ac ar bwy bynnag y syrthio, efe a’i lletha ef. 19A’r arch-offeiriaid a’r ysgrifenyddion a geisiasant roddi dwylaw arno yr awr honno; ond yr oedd arnynt ofn y bobl: canys gwybuant mai yn eu herbyn hwynt y dywedasai efe y ddammeg hon. 20A hwy a’i gwyliasant ef, ac a yrrasant gynllwynwŷr, y rhai a gymmerent arnynt eu bod yn gyfiawn; fel y dalient ef yn ei ymadrodd, i’w draddodi i afael ac awdurdod y llywodraethwr. 21A hwy a ofynnasant iddo, gan ddywedyd, Athraw, ni a wyddom mai uniawn yr ydwyt ti yn dywedyd, ac nad wyt yn derbyn wyneb, eithr yn dysgu ffordd Duw mewn gwirionedd. 22Ai cyfreithlon i ni roi teyrnged i Kæsar, ai nid yw? 23Ac efe a ddeallodd eu cyfrwysdra hwy, ac a ddywedodd wrthynt, Paham y profwch fi? 24Dangoswch i mi geiniog. Llun ac argraph pwy sydd arni? A hwy a attebasant ac a ddywedasant, Kæsar. 25Ac efe a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch chwithau yr eiddo Kæsar i Kæsar, a’r eiddo Duw i Dduw. 26Ac ni allasent feio ar ei eiriau ef ger bron y bobl: a chan ryfeddu wrth ei atteb ef, hwy a dawsant â son. 27A rhai o’r Sadwkai (y rhai sydd yn gwadu yr adgyfodiad) a ddaethant atto ef, ac a ofynasant iddo, 28Gan ddywedyd, Athraw, Moses a ysgrifenodd i ni, Os byddai farw brawd neb, ac iddo wraig, a marw o hono yn ddi-blant, ar gymmeryd o’i frawd ei wraig ef, a chodi had i’w frawd. 29Yr oedd gan hynny saith o frodyr: a’r cyntaf a gymmerodd wraig, ac a fu farw yn ddi-blant. 30A’r ail a gymmerth y wraig, ac a fu farw yn ddiblant. 31A’r trydydd a’i cymmerth hi: ac yr un modd y saith hefyd, ac ni adawsant blant, ac a fuont feirw. 32Ac yn ddiweddaf oll bu farw y wraig hefyd. 33Yn yr adgyfodiad gan hynny gwraig i bwy un o honynt yw hi? canys y saith a’i cawsant hi yn wraig. 34A’r Iesu gan atteb a ddywedodd wrthynt, Plant y byd hwn sydd yn gwreica, ac yn gwra: 35Eithr y rhai a gyfrifir yn deilwng i gael y byd hwnnw, a’r adgyfodiad oddi wrth y meirw, nid ydynt nac yn gwreica, nac yn gwra. 36Canys ni’s gallant farw mwy: oblegyd ydynt cyd â’r angylion; a phlant Duw ydynt, gan eu bod yn blant yr adgyfodiad. 37Ac y cyfyd y meirw, Moses hefyd a hyspysodd wrth y llwyn, pan yw efe yn galw yr Arglwydd yn Dduw Abraham, ac yn Dduw Isaac, ac yn Dduw Iakob. 38Ac nid yw efe Dduw y meirw, ond y byw: canys pawb sydd fyw iddo ef. 39Yna rhai o’r ysgrifenyddion gan atteb a ddywedasant, Athraw, da y dywedaist. 40Ac ni feiddiasant mwyach ofyn dim iddo ef. 41Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa fodd y maent yn dywedyd fod Christ yn fab i Ddafydd? 42Ac y mae Dafydd ei hun yn dywedyd yn llyfr y Psalmau, Yr Arglwydd a ddywedodd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheu-law, 43Hyd oni osodwyf dy elynion yn droed-faingc i’th draed di. 44Y mae Dafydd gan hynny yn ei alw ef yn Arglwydd; a pha fodd y mae efe yn fab iddo? 45Ac a’r holl bobl yn clywed, efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, 46Ymogelwch rhag yr ysgrifenyddion, y rhai a ewyllysiant rodio mewn dillad lleision, ac a garant gyfarchiadau yn y marchnadoedd, a’r prif-gadeiriau yn y synagogau, ar prif-eisteddleoedd yn y gwleddoedd; 47Y rhai sydd yn llwyr fwytta tai gwragedd gweddwon, ac mewn rhith yn hir-weddïo: y rhai hyn a dderbyniant farn bwysa.

Currently Selected:

Luk 20: JJCN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in