YouVersion Logo
Search Icon

Luk 2

2
PENNOD II.
Augustus yn trethu holl ymerodraeth Rhufain. Genedigaeth Christ. Angel yn ei fynegi i’r bugeiliaid. Enwaedu Christ. Puredigaeth Maria. Simeon ac Anna yn prophwydo am Ghrist: ac yntau yn cynnyddu mewn doethineb: ac yn ufudd i’w rïeni.
1BU hefyd yn y dyddiau hynny, fyned gorchymyn allan oddi wrth Augustus Kæsar, i gofrestru’r holl fyd. 2(Y cofrestriad yma a wnaethpwyd gyntaf pan oedd Kyrenius yn rhaglaw ar Syria). 3A phawb a aethant i’w cofrestru, bob un i’w ddinas ei hun. 4A Ioseph hefyd a aeth i fynu o Galilaia, o ddinas Nazaret, i Iudaia, i ddinas Dafydd, yr hon a elwir Bethlehem (am ei fod o dŷ a thylwyth Dafydd) 5I’w gofrestru gyd â Maria, yr hon a ddyweddïasid yn wraig iddo, yr hon oedd yn feichiog. 6A tra yr oeddynt hwy yno, cyflawnwyd y dyddiau i esgor o honi. 7A hi a esgorodd ar ei mab cyntaf-anedig, ac a’i rhwymodd ef, ac a’i dododd ef yn y preseb; am nad oedd iddynt le yn y lletty. 8Ac yr oedd yn y wlad honno fugeiliaid yn aros yn y maes, ac yn gwylied eu praidd o hyd nos. 9Ac wele, angel yr Arglwydd a safodd ger llaw iddynt, a gogoniant yr Arglwydd a ddisgleiriodd o’u hamgylch: a hwy a ofnasant yn ddirfawr. 10A’r angel a ddywedodd wrthynt, Nac ofnwch: canys wele yr wyf fi yn mynegi i chwi newyddion da o lawenydd mawr, yr hwn a fydd i’r holl bobl. 11Canys ganwyd i chwi heddyw yn ninas Dafydd geidwad, yr hwn yw Christ yr Arglwydd. 12A hyn fydd arwydd i chwi; Chwi a gewch dyn bach wedi ei rwymo, a’i osod yn y preseb. 13Ac yn ddisymmwth yr oedd gyd â’r angel lïaws o lu nefol, yn moliannu Duw, ac yn dywedyd, 14Gogoniant yn y nefoedd i Dduw, ac ar y ddaear tangnefedd, i ddynion meddwl da. 15A bu, pan aeth yr angylion ymaith oddi wrthynt i’r nef, y bugeiliaid a ddywedasant wrth eu gilydd, Awn hyd Bethlehem, a gwelwn y peth hwn a wnaethpwyd, yr hwn a hyspysodd yr Arglwydd i ni. 16A hwy a ddaethant ar frys; ac a gawsant Maria a Ioseph, a’r dyn bach yn gorwedd yn y preseb. 17A phan welsant, hwy a gyhoeddasant y gair a ddywedasid wrthynt am y bachgen hwn. 18A phawb a’r a’i clywsant, a ryfeddasant am y pethau a ddywedasant y bugeiliaid wrthynt. 19Eithr Maria a gadwodd y pethau hyn oll, gan eu hystyried yn ei chalon. 20A’r bugeiliaid a ddychwelasant, gan ogoneddu a moliannu Duw am yr holl bethau a glywsent ac a welsent, fel y dywedasid wrthynt. 21A phan gyflawnwyd wyth diwrnod i enwaedu ar y dyn bach, galwyd ei enw ef IESU, yr hwn a enwasid gan yr angel cyn ei ymddwŷn ef yn y groth. 22Ac wedi cyflawni dyddiau ei phuredigaeth hi, yn ol deddf Moses, hwy a’i dygasant ef i Ierusalem, i’w gyflwyno i’r Arglwydd; 23(Fel yr ysgrifenwyd yn neddf yr Arglwydd, Pob gwrryw cyntafanedig a elwir yn sanctaidd i’r Arglwydd) 24Ac i roddi aberth, yn ol yr hyn a ddywedwyd yn neddf yr Arglwydd, Pâr o durturod, neu ddau gyw colommen. 25Ac wele, yr oedd gwr yn Ierusalem, a’i enw Simeon; a’r gwr hwn oedd gyfiawn a duwiol, yn disgwyl am ddiddanwch yr Israel; a’r Yspryd Glân oedd arno. 26Ac yr oedd wedi ei hyspysu iddo gan yr Yspryd Glân, na welai efe angau, cyn iddo weled Christ yr Arglwydd. 27Ac efe a ddaeth trwy yr yspryd i’r deml: a phan ddug ei rïeni y dyn bach Iesu, i wneuthur ag ef yn ol defod y gyfraith; 28Yna efe a’i cymmerth ef yn ei freichiau, ac a fedithiodd Dduw, ac a ddywedodd, 29Yr awr hon, Arglwydd Goruchaf, y gollyngi dy was mewn tangnefedd, yn ol dy air: 30Canys fy llygaid a welsant dy iechawdwriaeth, 31Yr hon a baratoaist ger bron yr holl bobloedd; 32Goleuni i oleuo y Cenhedloedd, a gogoniant dy bobl Israel. 33Ac yr oedd Ioseph a’i fam ef yn rhyfeddu am y pethau a ddywedwyd am dano ef. 34A Simeon a’u bendithiodd hwynt, ac a ddywedodd wrth Maria ei fam ef, Wele, hwn a osodwyd yn gwymp ac yn gyfodiad i lawer yn Israel, ac yn arwydd yr hwn y dywedir yn ei erbyn; 35(A thrwy dy enaid di dy hun hefyd yr â cleddyf dwylawig) fel y datguddir meddyliau o amrhyw galonnau. 36Ac yr oedd Anna brophwydes, merch Phanuel, o lwyth Aser: hon oedd oedrannus iawn, ac a fuasai yn briod saith mlynedd o’i morwyndod; 37Ac a fuasai yn weddw ynghŷlch pedwar ugain a phedair blynedd, yr hon nid ai allan o’r deml, ond oedd yn gwasanaethu Duw mewn unprydiau a gweddïau ddydd a nos. 38Hon hefyd yn yr awr honno, gan sefyll ger llaw, a foliannodd yr Arglwydd, ac a lefarodd am dano ef wrth y rhai oll oedd yn disgwyl ymwared yn Ierusalem. 39Ac wedi iddynt orphen pob peth yn ol deddf yr Arglwydd, hwy a ddychwelasant i Galilaia, i’w dinas eu hun Nazaret. 40A’r bachgen a gynnyddodd, ac a gryfhaodd yn yr yspryd yn gyflawn o ddoethineb: a gras Duw oedd arno ef. 41A’i rïeni ef a aent i Ierusalem bob blwyddyn ar wledd y Pasg. 42A phan oedd efe yn ddeuddeg mlwydd oed, hwy a aethant i fynu i Ierusalem yn ol defod y wledd. 43Ac wedi gorphen y dyddiau, a hwy yn dychwelyd, arhosodd y bachgen Iesu yn Ierusalem; ac ni wyddai Ioseph a’i fam ef. 44Eithr gan dybied ei fod ef yn y fintai, hwy a aethant daith diwrnod; ac a’i ceisiasant ef ym mhlith eu cenedl a’u cydnabod. 45A phryd na chawsant ef, hwy a ddychwelasant i Ierusalem, gan ei geisio ef. 46Ac ar ol tridiau, hwy ai cawsant ef yn y deml, yn eistedd y’nghanol y dysgedigion, yn gwrandaw arnynt, ac yn eu holi hwynt. 47A synnu a wnaeth ar bawb a’r a’i clywsant ef, o herwydd ei ddeall ef a’i attebion. 48A phan welsant ef, bu aruthr ganddynt. A’i fam a ddywedodd wrtho, Fy mab, paham y gwnaethost felly â ni? wele, dy dad a minnau yn ofidus a’th geisiasom di. 49Ac efe a ddywedodd wrthynt, Paham y ceisiech fi? oni wyddech fod yn rhaid i mi fod ynghŷlch y pethau a berthyn i’m Tad? 50A hwy ni ddeallasant y gair a ddywedasai efe wrthynt. 51Ac efe a aeth i wared gyd â hwynt, ac a ddaeth i Nazaret, ac a fu ostyngedig iddynt. A’i fam ef a gadwodd yr holl eiriau hyn yn ei chalon. 52A’r Iesu a gynnyddodd mewn doethineb a chorpholaeth, a chariad gyd â Duw a dynion.

Currently Selected:

Luk 2: JJCN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in