YouVersion Logo
Search Icon

Luk 14

14
PENNOD XIV.
Christ yn iachâu y dyfrglwyf ar y sabbath: yn dysgu gostyngeiddrwydd; a gwneuthur ciniawau i’r tlodion: yn dangos pa fodd y cauir dynion â meddyliau bydol, allan o’r nef. Rhaid i’r rhai a fynnai fod yn ddisgyblion iddo, i ddwyn eu groes, a gwneuthur eu cyfrifon ymlâen llaw, rhag iddynt syrthio oddi wrtho, a myned yn gwbl ddilês.
1A BU, pan ddaeth efe i dŷ un o bennaethiaid y Pharisai ar y sabbath, i fwytta bara, iddynt ei wylied ef. 2Ac wele, yr oedd ger ei fron ef ryw ddyn yn glaf o’r dyfrglwyf. 3A’r Iesu gan atteb a lefarodd wrth y cyfreithwyr a’r Pharisai, gan ddywedyd, Ai rhŷdd iachâu ar y sabbath? 4A thewi a wnaethant. Ac efe a’i cymmerodd atto, ac a’i hiachaodd ef, ac a’i gollyngodd ymaith; 5Ac a attebodd iddynt hwythau, ac a ddywedodd, Pwy asyn neu ŷch i un o honoch a syrth i bwll, ac yn ebrwydd ni’s tynu ef allan ar y dydd sabbath? 6Ac ni allent roi atteb iddo am y pethau hyn. 7Ac efe a ddywedodd wrth y gwahoddedigion ddammeg, pan ystyriodd fel yr oeddynt yn dewis yr eisteddleoedd uchaf; gan ddywedyd wrthynt, 8Pan y’th wahodder gan neb i neithior, nac eistedd yn y lle uchaf; rhag bod un anrhydeddusach nâ thi wedi ei wahodd ganddo; 9Ac i hwn a’th wahoddodd di ac yntau, ddyfod a dywedyd wrthyt, Dyro le i hwn; ac yna dechreu o honot ti trwy gywilydd gymmeryd y lle isaf. 10Eithr pan y’th wahodder, dos ac eistedd yn y lle isaf; fel pan ddelo yr hwn a’th wahoddodd di, y gallo efe ddywedyd wrthyt, Y cyfaill, eistedd yn uwch i fynu. Yna y bydd i ti glod yngŵydd y rhai a eisteddant gyd â thi ar y bwrdd. 11Canys pob un a’r a’i dyrchafo ei hun, a ostyngir; a’r hwn sydd yn ei ostwng ei hun, a ddyrchefir. 12Ac efe a ddywedodd hefyd wrth yr hwn a’i gwahoddasai ef, Pan wnelych pryd-fwyd neu giniaw, na alw dy gyfeillion, na’th frodyr, na’th geraint, na’th gymmydogion goludog; rhag iddynt hwythau eilchwyl dy wahodd dithau, a gwneuthur taledigaeth i ti. 13Eithr pan wnelych wledd, galw y tlodion, yr efryddion, y cloffion, y deillion: 14A dedwydd fyddi; am nad oes ganddynt ddim i dalu i ti: canys fe a dêlir i ti yn adgyfodiad y rhai cyfiawn. 15A phan glywodd rhyw un o’r rhai oedd yn eistedd ar y bwrdd y pethau hyn, efe a ddywedodd wrtho, Gwŷn ei fyd y neb a fwyttao fara yn freniniaeth Duw. 16Ac yntau a ddywedodd wrtho, Rhyw wr a wnaeth giniaw fawr, ac a wahoddodd lawer: 17Ac a ddanfonodd ei was bryd ciniaw, i ddywedyd wrth y rhai a wahoddasid, Deuwch; canys weithian y mae pob peth yn barod. 18A hwy oll a ddechreuasant yn un-fryd ymesgusodi. Y cyntaf a ddywedodd wrtho, Mi a brynais dyddyn, ac y mae yn rhaid i mi fyned a’i weled: attolwg i ti, cymmer fi yn esgusodol. 19Ac arall a ddywedodd, Mi a brynais bum iau o ychain, ac yr ydwyf yn myned i’w profi hwynt: attolwg i ti, cymmer fi yn esgusodol. 20Ac arall a ddywedodd, Mi a brïodas wraig; ac am hynny, ni’s gallaf fi ddyfod. 21A’r gwas hwnnw, pan ddaeth adref, a fynegodd y pethau hyn i’w arglwydd. Yna gwr y tŷ, wedi digio, a ddywedodd wrth ei was, Dos allan ar frys i’r farchnadleodd â heolydd y ddinas, a dwg i mewn yma y tlodion, a’r anafus, a’r cloffion, a’r deillion. 22A’r gwas a ddywedodd, Arglwydd, gwnaethpwyd fel y gorchymynaist; ac etto y mae lle. 23A’r arglwydd a ddywedodd wrth y gwas, Dos allan i’r ffyrdd a’r caeau, a chymmell i ddyfod i mewn, fel y llanwer fy nhŷ. 24Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, na chaiff yr un o’r gwyr hynny a wahoddwyd, brofi o’m ciniaw. 25A llawer o bobl a gydgerddodd ag ef: ac efe a droes, ac a ddywedodd wrthynt, 26Os daw neb attaf fi, ac ni adawo ei dad, a’i fam, a’i wraig, a’i blant, a’i frodyr, a’i chwiorydd, ïe, a’i einioes ei hun hefyd, ni all efe fod yn ddisgybl i mi. 27A phwy bynnag ni ddycco ei groes, a dyfod ar fy ol i, ni all efe fod yn ddisgybl i mi. 28Canys pwy o honoch chwi a’i fryd ar adeiladu tŵr, nid eistedd yn gyntaf, a bwrw y draul, a oes ganddo a’i gorpheno? 29Rhag wedi iddo osod y sail, ac heb allu ei orphen, ddechreu o bawb a’i gwelant ei watwar ef. 30Gan ddywedyd, Y dyn hwn a ddechreuodd adeiladu, ac ni allodd ei orphen. 31Neu pa frenin yn myned i ryfel yn erbyn brenin arall, nid eistedd yn gyntaf, ac ymgynghori a all efe â deng mil gyfarfod â’r hwn sydd yn dyfod yn ei erbyn ef ag ugain mil? 32Ac os amgen, tra byddo efe ym mhell oddi wrtho, efe a enfyn gennadwri, ac a ddeisyf ammodau heddwch. 33Felly hefyd, pob un o honoch chwithau nid ymwrthodo â chymmaint oll ag a feddo, ni all fod yn ddisgybl i mi. 34Da yw’r halen: eithr o bydd yr halen yn ddiflas, â pha beth blaseuir ef? 35Nid yw efe gymmwys nac i’r tir, nac i’r dommen; ond ei fwrw ef allan. Y neb sydd ganddo glustiau i wrandaw, gwrandawed.

Currently Selected:

Luk 14: JJCN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in