YouVersion Logo
Search Icon

Luk 10

10
PENNOD X.
Christ yn anfon allan ar unwaith ddeg disgybl a thrugain; yn eu rhybuddio i fod yn ostyngedig, ac ym mha beth y gorfoleddent: yn mawrygu dedwydd gyflwr ei eglwys: yn dysgu y cyfreithiwr y modd i gael bywyd tragywyddol: ac yn argyhoeddi Martha, ac yn canmol Maria.
1WEDI y pethau hyn, yr ordeiniodd yr Arglwydd ddeg a thrugain eraill, ac a’u danfonodd hwynt bob yn ddau o flaen ei wyneb i bob dinas a man lle yr oedd efe ar fedr dyfod. 2Am hynny efe a ddywedodd wrthynt, Y cynhauaf yn wir sydd fawr, ond y gweithwŷr ychydig: gweddïwch gan hynny ar Arglwydd y cynhauaf, am ddanfon allan weithwyr i’w gynhauaf. 3Ewch: wele, yr wyf fi yn eich danfon chwi fel ŵyn ym mysg bleiddiaid. 4Na ddygwch god, nac ysgrepan, nac esgidiau; ac na sisialwch a neb ar y ffordd. 5Ac i ba dŷ bynnag yr eloch i mewn, yn gyntaf dywedwch, Tangnefedd i’r tŷ hwn. 6Ac o bydd yno fab tangnefedd, eich tangnefedd a orphwys arno: os amgen, hi a ddychwel attoch chwi. 7Ac yn y tŷ hwnnw arhoswch, gan fwytta ac yfed y cyfryw bethau ag a gaffoch ganddynt: canys teilwng yw i’r gweithiwr ei wobr. Na threiglwch o dŷ i dŷ. 8A pha ddinas bynnag yr eloch iddi, a hwy yn eich derbyn, bwyttêwch y cyfryw bethau ag a rodder ger eich bronnau: 9Ac iachêwch y cleifion a fyddo ynddi, a dywedwch wrthynt, Y mae breniniaeth Duw yn nessau arnoch. 10Eithr pa ddinas bynnag yr eloch iddi, a hwy heb eich derbyn, ewch allan i’w heolydd, a dywedwch, 11Hyd yn oed y llwch, yr hwn a lynodd wrthym o’ch dinas, yr ydym yn ei sychu ymaith i chwi: er hynny gwybyddwch hyn, y mae breniniaeth Duw yn nessau arnoch. 12Eithr dywedaf wrthych, mai esmwythach fydd i Sodom yn y dydd hwnnw, nag i’r ddinas honno. 13Gwae di, Korazin; gwae di, Bethsaida: canys pe gwnaethid yn Tyrus a Sidon y gweithredoedd nerthol a wnaethpwyd yn eich plith chwi, hwy a edifarhasent er ys talm, gan eistedd mewn sachlïain a lludw. 14Eithr esmwythach fydd i Tyrus a Sidon yn y farn, nag i chwi. 15A thithau, Kapernaum, yr hon a ddyrchafwyd hyd y nef, a dynnir i lawr hyd y bêdd. 16Y neb sydd yn eich gwrandaw chwi, sydd yn fy ngwrandaw i; a’r neb sydd yn eich dirmygu chwi, sydd yn fy nirmygu i; a’r neb sydd yn fy nirmygi i, sydd yn dirmygu yr hwn a’m hanfonodd i. 17A’r deg a thrugain a ddychwelasant gyd â llawenydd, gan ddywedyd, Arglwydd, hyd yn oed y cythreuliaid a ddarostyngir i ni, yn dy enw di. 18Ac efe a ddywedodd wrthynt, Mi a welais Satan megis mellten, yn syrthio o’r nef. 19Wele, yr ydwyf fi yn rhoddi i chwi awdurdod i sathru ar seirph, ac ysgorpionau, ac ar holl gryfder y gelyn; ac nid oes dim a wna niwed i chwi. 20Eithr yn hyn na lawenhêwch, fod yr ysprydion wedi eu darostwng i chwi; ond llawenhêwch yn hytrach, am fod eich enwau yn ysgrifenedig yn y nefoedd. 21Yr awr honno yr Iesu a lawenychodd yn yr yspryd, ac a ddywedodd, Yr wyf yn dïolch i ti, O Dad, Arglwydd nef a daear, am guddio o honot y pethau hyn oddi wrth y doethion a’r deallus, a’u datguddio o honot i rai bychain: ïe, O Dad; canys felly y gwelid yn dda yn dy olwg di. 22Pob peth a roddwyd i mi gan fy Nhad: ac ni wyr neb pwy yw y Mab, ond y Tad; na phwy yw y Tad, ond y Mab, a’r neb y mynno y Mab ei ddatguddio iddo. 23Ac efe a drodd at ei ddisgyblion, ac a ddywedodd o’r neilldu, Gwyn fyd y llygaid sydd yn gweled y pethau yr ydych chwi yn eu gweled. 24Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, ewyllysio o lawer o brophwydi a brenhinoedd weled y pethau yr ydych chwi yn eu gweled, ac ni’s gwelsant; a chlywed y pethau yr ydych chwi yn eu clywed, ac ni’s clywsant. 25Ac wele, rhyw gyfreithwr a gododd, gan ei brofi ef, a dywedyd, Athraw, pa beth a wnaf i gael etifeddu bywyd tragywyddol? 26Yntau a ddywedodd wrtho, Pa beth sydd ysgrifenedig yn y gyfraith? pa fodd y darlleni? 27Ac efe gan atteb a ddywedodd, Ti a geri yr Arglwydd dy Dduw a’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl nerth, ac â’th holl feddwl; a’th gymmydog fel ti dy hun. 28Yntau a ddywedodd wrtho, Ti a attebaist yn uniawn: gwna hyn, a byw fyddi. 29Eithr efe, yn ewyllysio ei gyfiawnhâu ei hun, a ddywedodd wrth yr Iesu, A phwy yw fy nghymmydog? 30A’r Iesu gan atteb a ddywedodd, Rhyw ddyn oedd yn myned i wared o Ierusalem i Iericho; ac a syrthiodd ym mysg lladron, y rhai wedi ei ddiosg ef, a’i archolli, a aethant ymaith, gan ei adael yn hanner marw. 31Ac ar ddamwain rhyw offeiriad a ddaeth i wared y ffordd honno: a phan ei gwelodd, efe a aeth heibio o’r tu arall. 32A’r un modd Lefiad hefyd, wedi dyfod i’r fan, a’i weled ef, a aeth heibio o’r tu arall. 33Eithr rhyw Samariad, wrth ymdaith, a ddaeth atto ef: a phan ei gwelodd, a dosturiodd, 34Ac a aeth, ac a rwymodd ei archollion ef, gan dywallt ynddynt olew a gwin; ac a’i gosododd ef ar ei anifail ei hun, ac a’i dug ef i’r lletty, ac a’i hamgeleddodd. 35Ac ar y foru wrth fyned ymaith, efe a dynnodd allan ddwy geiniog, ac a’u rhoddes i’r llettywr, ac a ddywedodd wrtho, Cymmer ofal drosto: a pha beth bynnag a dreuliech yn ychwaneg, pan ddelwyf drachefn, mi a’i talaf i ti. 36Pwy gan hynny o’r tri hyn, yr ydwyt ti yn tybied ei fod yn gymmydog i’r hwn a syrthiasai ym mhlith y lladron? 37Ac efe a ddywedodd, Yr hwn a wnaeth drugaredd ag ef. A’r Iesu am hynny a ddywedodd wrtho, Dos, a gwna dithau yr un modd. 38A bu, a hwy yn ymdeithio, ddyfod o hono i ryw dref: a rhyw wraig a’i henw Martha a’i derbyniodd ef i’w thŷ. 39Ac i hon yr oedd chwaer a elwid Maria yr hon hefyd a eisteddodd wrth draed yr Iesu, ac a wrandawodd ar ei ymadrodd ef. 40Ond Martha oedd drafferthus ynghylch llawer o wasanaeth: a chan sefyll ger llaw, hi a ddywedodd, Arglwydd, onid oes ofal gennynt am i’m chwaer fy ngadael i fy hun i wasanaethu? dywed wrthi gan hynny am fy nghynorthwyo. 41A’r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthi, Martha, Martha, yr wyt yn ngofalus a thrafferthus ynghylch llawer o bethau: 42Ac nid oes eisiau onid un peth. A Maria ddewisodd y rhan dda, yr hon ni ddygir oddi arni.

Currently Selected:

Luk 10: JJCN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in