YouVersion Logo
Search Icon

Ioan 3

3
PENNOD III.
Christ yn dysgu Nicodemus mor angenrheidiol yw ad-enedigaeth. Am ffydd yn ei farwolaeth ef. Mawr gariad Duw tu ag at y byd. Bedydd, tystiolaeth, ac athrawiaeth Ioan am Ghrist.
1AC yr oedd dyn o’r Pharisai, a’i enw Nicodemus, pennaeth yr Iudaion: 2Hwn a ddaeth at yr Iesu liw nos, ac a ddywedodd wrtho, Athraw, ni a wyddom mai dysgawdwr ydwyt ti wedi dyfod oddi wrth Dduw: canys ni allai neb wneuthur y gwŷrthiau yr wyt ti yn eu gwneuthur, oni bai fod Duw gyd ag ef. 3Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Yn wir, yn wir, meddaf i ti, oddi eithr geni dyn oddi fynu, ni ddichon efe weled breniniaeth Duw. 4Nicodemus a ddywedodd wrtho, Pa fodd y dichon dyn ei eni, ac efe yn hen? ni all efe fyned i groth ei fam eilwaith, a’i eni. 5Iesu a attebodd ac a ddywedodd, Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Pob un ni enir o ddwfr ac o’r Yspryd, ni ddichon fyned i mewn i freniniaeth Duw. 6Yr hyn a aned o’r cnawd, sydd gnawd; a’r hyn a aned o’r Yspryd, sydd yspryd. 7Na ryfedda ddywedyd o honof fi wrthyt, Y mae yn rhaid eich geni chwi oddi fynu. 8Y mae’r gwŷnt yn chwythu lle y mynno; a thi a glywi ei swn ef, ond ni wyddost o ba le y mae yn dyfod, nac i ba le y mae yn myned: felly mae pob un a’r a aned o’r Yspryd. 9Nicodemus a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Pa fodd y dichon y pethau hyn fod? 10Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn ddysgawdwr yn Israel, ac ni wyddost y pethau hyn? 11Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Mai yr hyn a wyddom yr ydym yn ei lefaru, a’r hyn a welsom yr ydym yn ei dystiolaethu; a’n tystiolaeth ni nid ydych yn ei derbyn. 12Os dywedais i chwi bethau daearol, a chwithau nid ydych yn credu; pa fodd y credwch, os dywedaf i chwi bethau nefol? 13Ac ni esgynodd neb i’r nef, oddi eithr yr hwn a ddisgynodd o’r nef, sef Mab y dyn, yr hwn sydd yn y nef. 14Ac megis y dyrchafodd Moses y sarph yn yr anialwch, felly y mae yn rhaid dyrchafu Mab y dyn: 15Fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef, ond caffael o hono fywyd tragywyddol. 16Canys felly y carodd Duw y byd, fel y rhoddodd efe ei unig-anedig Fab, fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef, ond caffael o hono fywyd tragywyddol. 17Oblegyd ni ddanfonodd Duw ei Fab i’r byd, i goll-farnu y byd, ond fel yr achubid y byd trwyddo ef. 18Yr hwn sydd yn credu ynddo ef, ni fernir: eithr yr hwn nid yw yn credu, a farniwyd eisoes; o herwydd na chredodd yn enw unig-anedig Fab Duw. 19A hon yw y farn: ddyfod goleuni i’r byd, a charu o ddynion y tywyllwch yn fwy nâ’r goleuni: canys yr oedd eu gweithredoedd yn ddrwg. 20O herwydd pob un a’r sydd yn gwneuthur drwg, sydd yn casâu y goleuni, ac nid yw yn dyfod i’r goleuni, fel nad argyhoedder ei weithredoedd ef. 21Ond yr hwn sydd yn gwneuthur gwirionedd, sydd yn dyfod i’r goleuni, fel yr eglurhaer ei weithredoedd, mai yn Nuw y gwnaed hwynt. 22Wedi y pethau hyn, daeth yr Iesu a’i ddisgyblion i wlad Iudaia, ac a arhosodd yno gyd â hwynt, ac a fedyddiodd. 23Ac yr oedd Ioan hefyd yn bedyddio yn Ainon, yn agos i Salim; canys dyfroedd lawer oedd yno: a hwy a ddaethant ac a’u bedyddiwyd. 24Canys ni fwriasid Ioan etto yngharchar. 25Yna y bu ymofyn rhwng rhai o ddisgyblion Ioan a’r Iudaion, ynghylch puredigaeth. 26A hwy a ddaethant at Ioan, ac a ddywedasant wrtho, Athraw, wele y mae’r hwn oedd gyd â thi y tu hwynt i’r Iordan, am ba un y tystiolaethaist yn bedyddio, a phawb yn dyfod atto ef. 27Ioan a attebodd ac a ddywedodd, Ni ddichon dyn dderbyn dim, oni bydd wedi ei roddi iddo o’r nef. 28Chwi eich hunain ydych dystion i mi, ddywedyd o honof fi, Nid myfi yw y Christ, eithr fy mod wedi fy anfon o’i flaen ef. 29Yr hwn sydd ganddo y brïod-ferch, yw y prïod-fab: ond cyfaill y prïod-fab, yr hwn sydd yn sefyll ac yn ei glywed ef, sydd yn llawenychu yn ddirfawr oblegyd llef y prïod-fab: fy llawenydd hwn gan hynny a gyflawnwyd. 30Rhaid ydyw iddo ef gynnyddu, ac i minnau leihâu. 31Yr hwn a ddaeth oddi uchod, sydd goruwch pawb oll: yr hwn sydd o’r ddaear, sydd o’r ddaear, ac am y ddaear mae yn llefaru; yr hwn sydd yn dyfod o’r nef, sydd goruwch pawb. 32A’r hyn a welodd efe ac a glywodd, hynny y mae efe yn ei dystiolaethu: ond nid oes neb yn derbyn ei dystiolaeth ef. 33Yr hwn a dderbyniodd ei dystiolaeth ef, a seliodd mai gwir yw Duw. 34Canys yr hwn a anfonodd Duw, sydd yn llefaru geiriau Duw; oblegyd nid wrth fesur y mae Duw yn rhoddi iddo ef yr Yspryd. 35Y mae y Tad yn caru y Mab, ac efe a roddodd bob peth yn ei law ef. 36Yr hwn sydd yn credu yn y Mab, y mae ganddo fywyd tragywyddol: a’r hwn sydd heb gredu i’r Mab, ni wêl fywyd: eithr y mae digofaint Duw yn aros arno ef.

Currently Selected:

Ioan 3: JJCN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in