YouVersion Logo
Search Icon

Ioan 21

21
PENNOD XXI.
Ei ddisgyblion yn adnabod Christ, ar ei ail-ymddangosiad, wrth y ddalfa fawr o bysgod: yntau yn ciniawa gyd â hwynt: yn rhoddi gorchymyn mawr ar Pedr, i borthi ei wyn ef a’i ddefaid: yn ei rybuddio ef o’i farwolaeth: yn ceryddu ei brysurdeb ef ynghylch Ioan. Y diben.
1GWEDI y pethau hyn, yr Iesu a ymddangosodd drachefn i’w ddisgyblion wrth lyn Tiberias; ac fel hyn yr ymddangosodd. 2Yr oedd ynghŷd Simon Pedr, a Thomas yr hwn a elwir Didymus, a Nathanaël o Cana yn Galilaia, a meibion Zebedëus, a dau eraill o’i ddisgyblion ef. 3Dywedodd Simon Pedr wrthynt, Yr wyf fi yn myned i bysgotta. Dywedasant wrtho, Yr ydym ninnau hefyd yn dyfod gyd â thi. A hwy a aethant allan, ac a aethant i fâd yn y man: a’r nos honno ni ddaliasant ddim. 4A phan ddaeth y bore, safodd yr Iesu ar y lan: eithr y disgyblion ni wyddent mai yr Iesu ydoedd. 5Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt, O Blant, a oes gennych ddim bwyd? Hwythau a attebasant iddo, Nac oes. 6Yntau a ddywedodd wrthynt, Bwriwch y rhwyd i’r tu dehau i’r bâd, a chwi a gewch. Hwy a fwriasant gan hynny; ac ni allent bellach ei thynnu, gan y llïaws pysgod. 7Am hynny y disgybl hwnnw yr oedd yr Iesu yn ei garu a ddywedodd wrth Pedr, Yr Arglwydd yw. Yna Simon Pedr, pan glybu mai yr Arglwydd oedd, a wregysodd ei amwisg (canys noeth oedd efe) ac a’i bwriodd ei hun i’r llyn. 8Eithr y disgyblion eraill a ddaethant mewn bâd (oblegyd nid oeddynt bell oddi wrth dir, ond megis dau can cufydd) dan lusgo y rhwyd â’r pysgod. 9A chyn gynted ag y daethant i dir, hwy a welent dân glo wedi ei osod, a physgod wedi eu dodi arno, a bara. 10Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Dygwch o’r pysgod a ddaliasoch yr awrhon. 11Simon Pedr a esgynodd, ac a dynnodd y rhwyd i dir, yn llawn o bysgod mawrion, cant a thri ar ddeg a deugain; ac er bod cymmaint, ni thorrodd y rhwyd. 12Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Deuwch, ciniawwch. Eithr ni feiddiai neb o’r disgyblion ofyn iddo, Pwy wyt ti? am eu bod yn gwybod mai yr Arglwydd oedd. 13Yna y daeth yr Iesu, ac a gymmerth fara, ac a’i rhoddes iddynt, a’r pysgod yr un modd. 14Y drydedd waith hon yn awr yr ymddangosodd yr Iesu i’w ddisgyblion, wedi iddo gyfodi o feirw. 15Yna gwedi iddynt giniawa, yr Iesu a ddywedodd wrth Simon Pedr, Simon mab Iona, a wyt ti yn fy ngharu i yn fwy nâ’r pethau hyn? Dywedodd yntau wrtho, Ydwyf, Arglwydd; ti a wyddost fy mod yn dy garu di. Dywedodd yntau wrtho, Portha fy ŵyn. 16Efe a ddywedodd wrtho drachefn yr ail waith, Simon mab Iona, a wyt ti yn fy ngharu i? Dywedodd yntau wrtho, Ydwyf, Arglwydd; ti a wyddost fy mod yn dy garu di. Dywedodd yntau wrtho, Bugeilia fy nefaid. 17Efe a ddywedodd wrtho y drydedd waith, Simon mab Iona, a wyt ti yn fy ngharu i? Pedr a dristaodd, am iddo ddywedyd wrtho y drydedd waith, A wyt ti yn fy ngharu i? Ac efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd, ti a wyddost bob peth: ti a wyddost fy mod i yn dy garu di. Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Portha fy nefaid. 18Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Pan oeddit ieuangc, ti a’th wregysaist dy hun, ac a rodiaist i le y mynnaist: eithr pan elech yn hen ti a estyni dy ddwylaw, ac arall a’th wregysa, ac a’th arwain lle ni fynnit. 19A hyn a ddywedodd efe, gan arwyddo trwy ba fath angau y gogoneddai efe Dduw. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a, ddywedodd wrtho, Canlyn fi. 20A Phedr a drodd, ac a welodd y disgybl yr oedd yr Iesu yn ei garu, yn canlyn (yr hwn hefyd a bwysasai ar ei ddwyfron ef ar swpper, ac a ddywedasai, Pwy, Arglwydd, yw yr hwn a’th fradycha di?) 21Pan welodd Pedr hwn, efe a ddywedodd wrth yr Iesu, Arglwydd, ond beth a wna hwn? 22Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Os mynnaf iddo aros hyd oni ddelwyf, beth yw hynny i ti? canlyn di fyfi. 23Am hynny yr aeth y gair yma allan ym mhlith y brodyr, na fyddai y disgybl hwnnw farw: ac ni ddywedasai yr Iesu wrtho na fyddai efe farw: ond, Os mynnaf iddo aros hyd oni ddelwyf, beth yw hynny i ti? 24Hwn yw y disgybl sydd yn tystiolaethu am y pethau hyn, ac a ysgrifenodd y pethau hyn; ac ni a wyddom fod ei dystiolaeth ef yn wir. 25Ac y mae hefyd lawer o bethau eraill a wnaeth yr Iesu, y rhai ped ysgrifenid hwy bob yn un ac un, nid wyf yn tybied y cynhwysai y byd y llyfrau a ysgrifenid. Amen.
DIWEDD.

Currently Selected:

Ioan 21: JJCN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in