YouVersion Logo
Search Icon

Ioan 21:15-17

Ioan 21:15-17 JJCN

Yna gwedi iddynt giniawa, yr Iesu a ddywedodd wrth Simon Pedr, Simon mab Iona, a wyt ti yn fy ngharu i yn fwy nâ’r pethau hyn? Dywedodd yntau wrtho, Ydwyf, Arglwydd; ti a wyddost fy mod yn dy garu di. Dywedodd yntau wrtho, Portha fy ŵyn. Efe a ddywedodd wrtho drachefn yr ail waith, Simon mab Iona, a wyt ti yn fy ngharu i? Dywedodd yntau wrtho, Ydwyf, Arglwydd; ti a wyddost fy mod yn dy garu di. Dywedodd yntau wrtho, Bugeilia fy nefaid. Efe a ddywedodd wrtho y drydedd waith, Simon mab Iona, a wyt ti yn fy ngharu i? Pedr a dristaodd, am iddo ddywedyd wrtho y drydedd waith, A wyt ti yn fy ngharu i? Ac efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd, ti a wyddost bob peth: ti a wyddost fy mod i yn dy garu di. Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Portha fy nefaid.

Video for Ioan 21:15-17