YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 13

13
SALM XIII.
8.7.
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
1Pa hyd, Arglwydd, y’m hanghofi?
Ai’n dragywydd? O! pa hyd,
Cuddi oddi wrthyf wedd dy wyneb,
Ddyn truanaf yn y byd!
2Pryder mawr sydd yn fy enaid,
Blinder lon’d fy nghalon brudd,
Gan y gelyn ymfawryga
Yn fy erbyn nos a dydd.
3Edrych arnaf, Arglwydd grasol,
Gostwng glust drugarog, clyw —
Rhag im’ huno yn yr angeu,
Rho’th oleuni, O! fy Nuw;
4Rhag i’m gelyn gael ei wynfyd,
A dyweyd, Gorchfygais e’,
A’m gwrth’nebwyr lawenychu,
Os gogwyddaf o fy lle.
5Minnau ymddigrifaf beunydd
Yn nhrugaredd rad fy Nuw,
A fy nghalon lawenycha
Yn dy iachawdwriaeth wiw;
Herwydd iti synio wrthyf,
Fry oddi ar dy orsedd wen,
Canaf glod a mawl i’th enw
Tra fo tafod yn fy mhen.
Nodiadau.
“Oddi allan yr oedd ymladdau, oddi mewn ofnau;” felly y dywedodd Paul am dano ei hun unwaith; ac felly yr ydym yn cael Dafydd yn y salm hon — gelynion oddi allan yn ei wylio, ac yn disgwyl yn awyddus am ei gwymp, ac ofnau yn ei galon, rhag iddo gael ei adael i ewyllys ei elynion. Cwyna’n drwm ei fod wedi ei adael yn hir yn amddifad o ymweliadau grasol Duw â’i enaid; a gweddïa’n daer am adnewyddol fwynhâd a phrofiad o’r ffafr ddwyfol; ac yn y diwedd cysura ei hun â’r sicrwydd y gwrandewid ei weddi, ac y caniateid ei ddymuniad hwn iddo. Felly, y mae ei ffydd yn buddugoliaethu ar ei ofnau.

Currently Selected:

Salmau 13: SC1875

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in