YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 7

7
Salm VII.
Awdl grwydrol#7:0 Awdl grwydrol, sef yr un a wnaeth pan yn crwydro o herwydd erlidigaeth Saul, fel ag y mae debycaf. Ond barna rhai mai enw rhyw fath o gynghanedd, neu o dôn, yw y gair. Nid yw yn awr o fawr bwys beth yw ei ystyr. Barn gyffredin yw mai Saul yn fwyaf neillduol yw yr erlidiwr. o eiddo Dafydd, yr hon a ganodd o herwydd geiriau Cws, fab Jemini.
1 Iehova fy Nuw, ynot yr ymddiriedais;
Achub fi rhag pob un a’m herlid#7:1 Pob un a’m herlid— nid oes achos i olygu y gair yn y rhif luosog; agwedda’n well yn y rhif unigol a’r adnod a ganlyn., a gwared fi:
2Rhag y llarpio, fel llew, fy enaid;
Gan rwygo, pan na bo gwaredydd.
3 Iehova fy Nuw, os gwnaethum hyn,
Od oes gormes#7:3 gormes, camrwysg, gorthrymiad, oppression; yr hyn a wneir gan un a fyddo yn traws-lywodraethu ar ereill. yn fy nwylaw,
4Os telais i’r hwn oedd heddychol â mi ddrwg,
A rhyddhau#7:4 A rhyddhau; neu, Ac “os” rhyddheais; ond rhoddir yr ystyr yn well yn y ffordd gyntaf. Nid oes un modd cysson arall o gyfieithu y lle; a rhydd ystyr dda yn y modd hyn. Gwada iddo wneuthur y ddau beth a sonia, sef talu drwg i’w heddwr, rhyddhau ei orthrymydd yn ddiachos. Cyfieitha Aquila y gair am ryddhau, difetha, dinystrio, ει ανηρπασα, os difethais, neu, os difrodais. Cyssona yr ystyr hyn a’r lle. fy ngorthrymydd heb achos, —
5Erlidied y gelyn fy enaid, a goddiwedded;
Ië, sathred i’r ddaear fy mywyd;
A’m gogoniant pabelled yn y llwch. Selah.
6Cyfod, Iehova, yn dy ddig;
Ymddyrcha o herwydd llid fy ngorthrymydd,
A deffroa#7:6 deffroa; par i ddeffroi. Golyga y farn neu ddedfryd a gyhoeddodd Duw o’i blaid megys yn cysgu. Glyn wrth air Duw. Ar orchymyn, gosodiad, trefn, nen ddeddf Duw yr ymddibyna. erof y farn a orchymynaist.
7Yna cyfarfod pobloedd a’th amgylchyna;#7:7 Rhagdraetha yr hyn a gymmer le pan amddiffyno Duw y cyfiawn: amgylchyna pobloedd ef. Yr oedd ymweliadau Duw, dan yr hen oruchwyliaeth, yn amlygu ei fawredd, ei allu, a’i ffyddlondeb. Caffai hyn effaith fawr ar bobloedd yn gyffredin.
Ac erddynt i’r uchelfa#7:7 i’r uchelfa, sef y frawdle, gorsedd barn. Dywed am Dduw mewn iaith briodol i farnwyr daearol. Pan weinyddont farn, maent yn esgyn y frawdle. dychwel.
8 Iehova a farn y bobloedd; — Barn fi#7:8 Barn fi; hyny yw, mewn perthynas i’r achwynion ag oeddent yn ei erbyn. Galwa am gyfiawnder, a sonia am ei berffeithrwydd; canys nid oedd yn euog o’r pethau ei cyhuddir gan ei erlidwyr, megys Saul ac ereill.,
Iehova, yn ol fy nghyfiawnder,
Yn ol fy mherffeithrwyd “sydd” ynof.
9Darfydded, atolwg, ddrwg yr annuwiolion;
Ond cadarnha di y cyfiawn:
Canys profwr y galon a’r arenau “Yw” y Duw cyfiawn.
10Fy ymddiffyn, ar Dduw “y mae,”
Achubydd yr uniawn o galon —
11Duw, barnydd#7:11 barnydd; ei ystyr yw rhyddfarnydd, a chollfarnydd. Rhyddfarnydd, neu amddiffynydd, a feddylir yma, Mae Duw yn amddiffyn, yn rhyddhau y cyfiawn, ond yn ddigllon wrth yr an annuwiol. Ni osodir y gair annuwiol i lawr, ond cesglir hyn oddiwrth y cyssylltiad, y cyfiawn, a Duw digllon beunydd.
12Os na thry,#7:12 Os na thry,sef yr annuwiol; os na chyfnewid ac edifarhau, y pethau a ganlyn ydynt ar ei gyfer. Mae gan Dduw offerynau wedi eu parotoi i’w ddinystrio. ei gleddyf a hoga;
Ei fwa a anelodd, ïe, cyfeiriodd ef,
13Ac ato y cyfeiriodd arfau angeuol;
Ei saethau yn erbyn difrodwyr a lunia.
14Wele, ymddwg anwiredd;#7:14 anwiredd;LXX, αδικιαν anghyfiawnder.
Ië, beichiogodd ar ddrygioni#7:14 drygioni; â yn ol at wraidd anwiredd, neu waith anghywir, sef bwriad drwg, greddf elynol., ac esgor ar gelwydd#7:14 gelwydd, sef twyll, ymddygiad twyllodrus; dyma y ffordd y gwnaethai anwiredd neu anghyfiawnder. Trwy gelwydd a thwyll y gwna dynion yn aml bethau anghyfiawn; a thardd yr anwiredd a’r celwydd o reddf ddrwg oddi mewn, naill ai balchder, nwyd, neu hunan-les..
15Pwll a gloddiodd, ïe, dyfnhaodd ef;
Ond syrth i’r clawdd a wna.
16Try ei ddrygioni ar ei ben ei hun,
Ac ar ei goppa y disgyn ei gamwedd.#7:16 Denai arno ei hun y drwg a fwriadai, a’r cam a wnaethai.
17Clodforaf,#7:17 Clodforaf,sef trwy addef a chyhoeddi ei fawr allu a’i ffyddlondeb. Iehova, yn ol#7:17 yn ol, am, neu o herwydd, mewn tri o gopïau Kennicott, a rhydd well synwyr. Clodforaf Iehova o herwydd ei gyfiawnder, yn ei gadw rhag gormes a thrais ei elynion. Peth cyfiawn yw amddiffyn diniweidrwydd. Mae gan y gorthrymedig gyfiawnder a ffyddlondeb Duw yn sail i’w ffydd. Caniata Duw iddynt yn aml oddef dros amser, er dibenion doeth; ond bydd yn yr amser goreu. ei gyfiawnder,
Ië, canmolaf enw Iehova goruchaf.

Currently Selected:

Salmau 7: TEGID

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in