YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 4

4
Salm IV.
I’r Pencerdd#4:0 Pencerdd, arolygydd, blaenor, llywydd, penaeth; un ag oedd yn ben ar y cantorion, a chwareuent ar tanau, megys y delyn, &c. Cân ag oedd i’w chwareu ar y fath offerynau cerdd oedd hon. Dyma’r eglurhad goreu, yn ol barn Calfin, ac ereill, er bod amryw wedi rhoddi golwg wahanol. ar y tanau: Cerdd o eiddo Dafydd,
1Pan alwyf, ateb fi, fy Nuw#4:1 Fy Nuw, etc. neu, O Dduw fy nghyfiawnder. Wrth “fy nghyfiawnder,” y meddylir, fy nghyfiawnydd, yr hwn sydd yn fy nghyfiawnhau, neu yn fy amddiffyn yn wyneb camgyhuddiad; megys wrth “fy iachawdwriaeth,” y meddylir, fy Iachawdwr. Geilw Dafydd ar Dduw fel ei amddiffynydd, fel un a wna gyfiawnder rhwng y gorthrymedig a’r gorthrymydd. Bydd raslawn. Mae tri gair yn yr Hebraeg a gymmysgir yn aml yn ein cyfieithiad cyffredin, sef, רחם הסד הן gras, trugaredd, tosturi: ond dylid cadw y gwahaniaeth rhyngddynt. Ystyr y gair yma yw, rhad, rhodd heb haeddiant i’w theilyngu, ac heb werth i’w phrynu neu i roddi am dani., fy nghyfiawnder;
Mewn cyfyngder#4:1Mewn cyfyngder, etc. Sonia am yr hyn a wnaethai Duw yn barod drosto fel sail i’w arch am yr hyn oedd eisieu arno y pryd hwn. — ehengaist arnaf:
Bydd raslawn wrthyf, a gwrando fy ngweddi.
2Meibion dynion! pa hyd “y bydd” fy ngogoniant#4:2 fy ngogoniant, &c. Ei ogoniant oedd ei dduwioldeb. Gwarth yw hyn gan lawer. Rhaid bod dyn yn dywyll iawn, ac yn llygredig iawn, cyn y byddo iddo gyfrif yn warth yr hyn sydd yn ogoniant penaf. — yn warth —
Y cerwch oferedd#4:2 oferedd, peth diles, difudd, di-ffrwyth, gwael, ac ynfyd. Pethau o’r fath hyn yw’r cwbl a gâr annuwiolion — — y ceisiwch#4:2 y ceisiwch, &c. Ceisiant trwy bob modd celwyddog ei enllibio a’i sarhau — arfer dynion gelyniaethol i wir grefydd ym mhob oes. gelwydd! Selah.
3Ond gwybyddwch neillduo o Iehova y duwiol#4:3 y duwiol; tra amrywiol y cyfieithir y gair hwn — trugarog, sant, duwiol, &c. LXX, τον οσιον, yr un santaidd. Junius a Thremelius, quem benigne accepit, yr hwn a hael dderbyn (Duw), sef y trugaredig, Ei ystyr yw, hynaws, tirion, haelionus, yn ol Calvin. Tebyg yw mai’r gair mwyaf priodol am dano, yw trugarog. Y rhai a dderbyniant drugaredd a ddylent fod yn drugarog, ac y maent felly mewn rhan. Trugarog yw Duw, a thrugarog yw ei bobl: dyma un nodwedd arbenig y duwiol. iddo ei hun:
Iehova a wrendy pan alwyf arno.
4Dychrynwch,#4:4 Dychrynwch,cyffroi yw’r ystyr wreiddiol, yma gan ddychryn, mewn lleoedd ereill, gan ddigofaint. Braw oedd yn addas iddynt, o herwydd eu drygioni. ac na phechwch;
Ymddiddanwch â’ch calon ar eich gwely, a thewch. Selah.
5Aberthwch ebyrth cyfiawnder,#4:5 ebyrth cyfiawnder,sef y cyfryw ag y mae Duw yn ofyn; y rhai hyny sy gyfiawn.
Ac hyderwch yn Iehova.
6Llawer a ddywedant —
‘Pwy a ddengys i ni ddaioni?’ —
Dyrcha arnom lewyrch dy wyneb, Iehova#4:6 Cynnwys yr adnod hon ofyniad ac ateb: y daioni penaf yw llewyrch gwyneb Duw; hyny yw, mwynhad o’i ewyllys da, a theimlad tufewnol o’i gariad, Gwell yw hyn na’r cyfan a all y byd roddi, na’i holl gyfoeth a’i fwyniant..
7Rhoddaist lawenydd yn fy nghalon i,
Rhagor na’r pryd yr amlhaodd eu hŷd a’u gwin hwynt.#4:7 Gwelwn yma effaith llewyrch ei wyneb, sef llawenydd yn y galon, a hyny yn rhagor na’r llawenydd a rydd amlder o bethau bydol.
8Mewn hedd y gorweddaf, ac yr hunaf hefyd#4:8 hefyd, yn lythyrenol, ynghyd; gwna y ddau beth, sef gorwedd a huno. ;
Canys ti, Iehova, yn unig a wnei i’m drigo yn ddiogel#4:8 ddiogel, neu, hyderus. Pe yn amddifad o bob peth arall, ac yn amgylchedig gan lu o elynion; etto gorweddai a hunai mewn tawelwch, gan fod Iehova yn geidwad iddo. Nid oes un diogelwch heb Dduw; a’i gael, yw bod yn llwyr ddiogel yn y cyfyngderau mwyaf..

Currently Selected:

Salmau 4: TEGID

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in