YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 2

2
Salm II.
1Pam y cynddeirioga’r#2:1 cynddeirioga, Saesneg, rage, yma ac yn Act. 4:25. Felly y LXX, εφρυαξαν. Arwydda’r gair Hebraeg, tyrfu, neu ymgasglu yn derfysglyd. Cyfieithir ef yn Dan. 6:6, 11. aethant ynghyd, a, daethant ynghyd; h. y. tyrfasant. Ni cheir ef ond mewn dau fan arall, a hyny megys enw cadarn, Salm 55:14. a 64:2. dan yr ystyr o ymgyunull, nen dyrfu. Os cymmerir y gair yn ei ystyr cyffredin, dylid cyfieithu fel hyn, ‘Pam y tyrfa’r cenhedloedd?’ — Beth ofer, bethau ofer, yn Act. 4:25. Felly y LXX, κενα. Bwriad, ymdrech, neu fwriadau, ymdrechiadau ofer, diles, na lwyddent, a feddylir. Er cynddeiriogi, a myfyrio dan y fath duedd, ofer fydd y cwbl a wna gelynion Duw yn ei erbyn. cenhedloedd,
A’r bobloedd, y myfyriant beth ofer?
2Ymgyfyd brenhinoedd y ddaear,
A phenaethiaid, ymosodant ynghyd,
Yn erbyn Iehova, ac yn erbyn ei Fessia.#2:2 Messia, Crist, neu Eneiniog. Nis gwaeth lawer pa un o’r geiriau hyn a gymmerir. Gwell, ef allai, yma ac yn Actau, gadw’r gair Messia. Dafydd frenin a feddylir gyntaf, ac yna yr Arglwydd Iesu, yr hwn a gysgodai Dafydd. Mae’r Salm yn lythyrenol yn gosod allan amgylchiadau Dafydd: ond perthyn yn sylweddol i Grist Iesu,
3‘Drylliwn,’ “meddynt,” ‘eu rhwymau,
A thaflwn oddi wrthym eu cadwynau.’
4Preswylydd y nefoedd a chwardd,
Yr Arglwydd a’u gwatwar hwynt.
5Yna y llefara wrthynt yn ei lid,
Ac yn ei ddig y dychryna hwynt.
6‘Myfi a enneiniais fy Mrenin
Ar Sion fy mynydd sanctaidd.’
7Traethaf “hyn” am ddeddf#2:7 deddf, gosodiad, trefn, arfaeth, penderfyniad. LXX, προσταγμα κυριου, order or precept of the Lord, sefydliad neu orchymyn yr Arglwydd. Junius a Thremelius, decretium, decree, arfaeth. Arwydda’r gair y peth a osodir neu a sefydlir gan Dduw megys deddf i’w chadw. Dynoda yn gyffredin y defodau Iuddewig. Iehova, dywedodd wrthyf,
‘Fy Mab wyt ti, myfi heddyw a’th genhedlais.
8Gofyn genyf, a rhoddaf y cenhedloedd yn etifeddiaeth i ti,
Ac i’th feddiant, eithafoedd y ddaear.
9Drylli hwynt â gwïalen haiarn,
Fel llestri pridd y maluri hwynt.’
10Ac yn awr, frenhinoedd, byddwch ddoeth,#2:10 byddwch ddoeth,LXX, συνετε, deallwch. Ystyr briodol y gair gwreiddiol yw, bod yn gall, ymddwyn yn gall, bod yn ddeallus i wybod yr hyn sydd dda ac yn ddefnyddiol, ac yn fuddiol. — Cymmerwch addysg, neu, dysgwch. LXX, παιδευθητε, be instructed. Mae eisiau dysg ar y mawrion yn gystal ag ar y tlodion.
Cymmerwch addysg, farnwyr y ddaear.
11Gwasanaethwch Iehofa mewn ofn,
A gorfoleddwch mewn dychryn,
12Cusenwch#2:12 Cusenwch, h. y. parchwch, anrhydeddwch. — Mab, y mab a enwir yn adn. 8. Y gair a arferir yma a ddynoda anwyldeb. Diar. 31:2 — Ebrwydd, neu, o’r ffordd: ond ystyr y gair yma yn ol Parkhurst, yw ebrwydd, yr hyn a rydd well synwyr. — Ymddiriedant, neu ymgysgodant dano. Cyfieithir y gair fel enw cadarn, diddosrwydd, Job 24:8. a noddfa, Salm 61:3. Ymddiried ynddo, yw ei wneuthur yn ddiddosrwydd, neu yn noddfa, neu yn gysgod i ni. y Mab rhag y digia,
Ac y difether chwi yn ebrwydd,
Pan gyneuo ond ychydig ei lid:
Dedwydd pawb a ymddiriedant ynddo.

Currently Selected:

Salmau 2: TEGID

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in