YouVersion Logo
Search Icon

Y Salmau 96

96
SALM 96
1Cenwch i’r Arglwydd ganiad newydd; cenwch i’r Arglwydd, yr holl ddaear.
2Cenwch i’r Arglwydd, bendigwch ei enw; cyhoeddwch o ddydd i ddydd ei iachawdwriaeth ef.
3Datgenwch ymysg y cenhedloedd ei ogoniant ef, ymhlith yr holl bobloedd ei ryfeddodau.
4Canys mawr yw yr Arglwydd, a chanmoladwy iawn: ofnadwy yw efe goruwch yr holl dduwiau.
5Canys holl dduwiau y bobloedd ydynt eilunod: ond yr Arglwydd a wnaeth y nefoedd.
6Gogoniant a harddwch sydd o’i flaen ef; nerth a hyfrydwch sydd yn ei gysegr.
7Tylwythau y bobl, rhoddwch i’r Arglwydd, rhoddwch i’r Arglwydd ogoniant a nerth.
8Rhoddwch i’r Arglwydd ogoniant ei enw: dygwch offrwm, a deuwch i’w gynteddoedd.
9Addolwch yr Arglwydd mewn prydferthwch sancteiddrwydd: yr holl ddaear, ofnwch ger ei fron ef.
10Dywedwch ymysg y cenhedloedd, Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu; a’r byd a sicrhaodd efe, fel nad ysgogo: efe a farna y bobl yn uniawn.
11Llawenhaed y nefoedd, a gorfoledded y ddaear; rhued y môr a’i gyflawnder.
12Gorfoledded y maes, a’r hyn oll y sydd ynddo: yna holl brennau y coed a ganant.
13O flaen yr Arglwydd; canys y mae yn dyfod, canys y mae yn dyfod i farnu y ddaear: efe a farna y byd trwy gyfiawnder, a’r bobloedd â’i wirionedd.

Currently Selected:

Y Salmau 96: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in