YouVersion Logo
Search Icon

Y Salmau 93

93
SALM 93
1Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu, efe a wisgodd ardderchowgrwydd; gwisgodd yr Arglwydd nerth, ac ymwregysodd: y byd hefyd a sicrhawyd, fel na syflo.
2Darparwyd dy orseddfainc erioed: ti wyt er tragwyddoldeb.
3Y llifeiriaint, O Arglwydd, a ddyrchafasant, y llifeiriaint a ddyrchafasant eu twrf; y llifeiriaint a ddyrchafasant eu tonnau.
4Yr Arglwydd yn yr uchelder sydd gadarnach na thwrf dyfroedd lawer, na chedyrn donnau y môr.
5Sicr iawn yw dy dystiolaethau: sancteiddrwydd a weddai i’th dŷ, O Arglwydd, byth.

Currently Selected:

Y Salmau 93: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in