YouVersion Logo
Search Icon

Y Salmau 61

61
SALM 61
I’r Pencerdd ar Neginoth, Salm Dafydd.
1Clyw, O Dduw, fy llefain; gwrando ar fy ngweddi.
2O eithaf y ddaear y llefaf atat, pan lesmeirio fy nghalon: arwain fi i graig a fyddo uwch na mi.
3Canys buost yn noddfa i mi, ac yn dŵr cadarn rhag y gelyn.
4Preswyliaf yn dy babell byth: a’m hymddiried fydd dan orchudd dy adenydd. Sela.
5Canys ti, Dduw, a glywaist fy addunedau: rhoddaist etifeddiaeth i’r rhai a ofnant dy enw.
6Ti a estynni oes y Brenin; ei flynyddoedd fyddant fel cenedlaethau lawer.
7Efe a erys byth gerbron Duw; darpar drugaredd a gwirionedd, fel y cadwont ef.
8Felly y canmolaf dy enw yn dragywydd, fel y talwyf fy addunedau beunydd.

Currently Selected:

Y Salmau 61: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in