YouVersion Logo
Search Icon

Y Salmau 49

49
SALM 49
I’r Pencerdd, Salm i feibion Cora.
1Clywch hyn, yr holl bobloedd; gwrandewch hyn, holl drigolion y byd:
2Yn gystal gwreng a bonheddig, cyfoethog a thlawd ynghyd.
3Fy ngenau a draetha ddoethineb; a myfyrdod fy nghalon fydd am ddeall.
4Gostyngaf fy nghlust at ddihareb; fy nameg a ddatguddiaf gyda’r delyn.
5Paham yr ofnaf yn amser adfyd, pan y’m hamgylchyno anwiredd fy sodlau?
6Rhai a ymddiriedant yn eu golud, ac a ymffrostiant yn lluosowgrwydd eu cyfoeth.
7Gan waredu ni wared neb ei frawd, ac ni all efe roddi iawn drosto i Dduw:
8(Canys gwerthfawr yw pryniad eu henaid, a hynny a baid byth:)
9Fel y byddo efe byw byth, ac na welo lygredigaeth.
10Canys efe a wêl fod y doethion yn meirw, yr un ffunud y derfydd am ffôl ac ynfyd, gadawant eu golud i eraill.
11Eu meddwl yw, y pery eu tai yn dragywydd, a’u trigfeydd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth: enwant eu tiroedd ar eu henwau eu hunain.
12Er hynny dyn mewn anrhydedd, nid erys: tebyg yw i anifeiliaid a ddifethir.
13Eu ffordd yma yw eu hynfydrwydd: eto eu hiliogaeth ydynt fodlon i’w hymadrodd. Sela.
14Fel defaid y gosodir hwynt yn uffern; angau a ymborth arnynt; a’r rhai cyfiawn a lywodraetha arnynt y bore; a’u tegwch a dderfydd yn y bedd, o’u cartref.
15Eto Duw a wared fy enaid i o feddiant uffern: canys efe a’m derbyn i. Sela.
16Nac ofna pan gyfoethogo un, pan ychwanego gogoniant ei dŷ ef:
17Canys wrth farw ni ddwg efe ddim ymaith, ac ni ddisgyn ei ogoniant ar ei ôl ef.
18Er iddo yn ei fywyd fendithio ei enaid: canmolant dithau, o byddi da wrthyt dy hun.
19Efe a â at genhedlaeth ei dadau, ac ni welant oleuni byth.
20Dyn mewn anrhydedd, ac heb ddeall, sydd gyffelyb i anifeiliaid a ddifethir.

Currently Selected:

Y Salmau 49: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in