YouVersion Logo
Search Icon

Y Salmau 37

37
SALM 37
Salm Dafydd.
1Nac ymddigia oherwydd y rhai drygionus, ac na chenfigenna wrth y rhai a wnânt anwiredd.
2Canys yn ebrwydd y torrir hwynt i’r llawr fel glaswellt, ac y gwywant fel gwyrddlysiau.
3Gobeithia yn yr Arglwydd, a gwna dda; felly y trigi yn y tir, a thi a borthir yn ddiau.
4Ymddigrifa hefyd yn yr Arglwydd; ac efe a ddyry i ti ddymuniadau dy galon.
5Treigla dy ffordd ar yr Arglwydd, ac ymddiried ynddo; ac efe a’i dwg i ben.
6Efe a ddwg allan dy gyfiawnder fel y goleuni, a’th farn fel hanner dydd.
7Distawa yn yr Arglwydd, a disgwyl wrtho: nac ymddigia oherwydd yr hwn a lwyddo ganddo ei ffordd, wrth y gŵr sydd yn gwneuthur ei ddrwg amcanion.
8Paid â digofaint, a gad ymaith gynddaredd: nac ymddigia er dim i wneuthur drwg.
9Canys torrir ymaith y drwg ddynion: ond y rhai a ddisgwyliant wrth yr Arglwydd, hwynt-hwy a etifeddant y tir.
10Canys eto ychydigyn, ac ni welir yr annuwiol: a thi a edrychi am ei le ef, ac ni bydd dim ohono.
11Eithr y rhai gostyngedig a etifeddant y ddaear; ac a ymhyfrydant gan liaws tangnefedd.
12Yr annuwiol a amcana yn erbyn y cyfiawn, ac a ysgyrnyga ei ddannedd arno.
13Yr Arglwydd a chwardd am ei ben ef: canys gwêl fod ei ddydd ar ddyfod.
14Yr annuwiolion a dynasant eu cleddyf, ac a anelasant eu bwa, i fwrw i lawr y tlawd a’r anghenog, ac i ladd y rhai uniawn eu ffordd.
15Eu cleddyf a â yn eu calon eu hunain, a’u bwâu a ddryllir.
16Gwell yw yr ychydig sydd gan y cyfiawn na mawr olud annuwiolion lawer.
17Canys breichiau yr annuwiolion a dorrir: ond yr Arglwydd a gynnal y rhai cyfiawn.
18Yr Arglwydd a edwyn ddyddiau y rhai perffaith: a’u hetifeddiaeth hwy fydd yn dragywydd.
19Nis gwaradwyddir hwy yn amser drygfyd: ac yn amser newyn y cânt ddigon.
20Eithr collir yr annuwiolion, a gelynion yr Arglwydd fel braster ŵyn a ddiflannant: yn fwg y diflannant hwy.
21Yr annuwiol a echwynna, ac ni thâl adref: ond y cyfiawn sydd drugarog, ac yn rhoddi.
22Canys y rhai a fendigo efe, a etifeddant y tir; a’r rhai a felltithio efe, a dorrir ymaith.
23Yr Arglwydd a fforddia gerddediad gŵr da: a da fydd ganddo ei ffordd ef.
24Er iddo gwympo, ni lwyr fwrir ef i lawr: canys yr Arglwydd sydd yn ei gynnal ef â’i law.
25Mi a fûm ieuanc, ac yr ydwyf yn hen; eto ni welais y cyfiawn wedi ei adu, na’i had yn cardota bara.
26Bob amser y mae efe yn drugarog, ac yn rhoddi benthyg; a’i had a fendithir.
27Cilia di oddi wrth ddrwg, a gwna dda; a chyfanhedda yn dragywydd.
28Canys yr Arglwydd a gâr farn, ac ni edy ei saint; cedwir hwynt yn dragywydd: ond had yr annuwiol a dorrir ymaith.
29Y rhai cyfiawn a etifeddant y ddaear, ac a breswyliant ynddi yn dragywydd.
30Genau y cyfiawn a fynega ddoethineb, a’i dafod a draetha farn.
31Deddf ei Dduw sydd yn ei galon ef; a’i gamre ni lithrant.
32Yr annuwiol a wylia ar y cyfiawn, ac a gais ei ladd ef.
33Ni ad yr Arglwydd ef yn ei law ef, ac ni ad ef yn euog pan ei barner.
34Gobeithia yn yr Arglwydd, a chadw ei ffordd ef, ac efe a’th ddyrchafa fel yr etifeddech y tir: pan ddifether yr annuwiolion, ti a’i gweli.
35Gwelais yr annuwiol yn gadarn, ac yn frigog fel y llawryf gwyrdd.
36Er hynny efe a aeth ymaith, ac wele, nid oedd mwy ohono: a mi a’i ceisiais, ac nid oedd i’w gael.
37Ystyr y perffaith, ac edrych ar yr uniawn: canys diwedd y gŵr hwnnw fydd tangnefedd.
38Ond y troseddwyr a gyd-ddistrywir: diwedd yr annuwiolion a dorrir ymaith.
39A iachawdwriaeth y cyfiawn sydd oddi wrth yr Arglwydd: efe yw eu nerth yn amser trallod.
40A’r Arglwydd a’u cymorth hwynt, ac a’u gwared: efe a’u gwared hwynt rhag yr annuwiolion, ac a’u ceidw hwynt, am iddynt ymddiried ynddo.

Currently Selected:

Y Salmau 37: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in