YouVersion Logo
Search Icon

Y Salmau 34

34
SALM 34
Salm Dafydd, pan newidiodd efe ei wedd o flaen Abimelech; yr hwn a’i gyrrodd ef ymaith, ac efe a ymadawodd.
1Bendithiaf yr Arglwydd bob amser: ei foliant fydd yn fy ngenau yn wastad.
2Yn yr Arglwydd y gorfoledda fy enaid: y rhai gostyngedig a glywant hyn, ac a lawenychant.
3Mawrygwch yr Arglwydd gyda mi; a chyd-ddyrchafwn ei enw ef.
4Ceisiais yr Arglwydd, ac efe a’m gwrandawodd; gwaredodd fi hefyd o’m holl ofn.
5Edrychasant arno, a hwy a oleuwyd; a’u hwynebau ni chywilyddiwyd.
6Y tlawd hwn a lefodd, a’r Arglwydd a’i clybu, ac a’i gwaredodd o’i holl drallodau.
7Angel yr Arglwydd a gastella o amgylch y rhai a’i hofnant ef, ac a’u gwared hwynt.
8Profwch, a gwelwch mor dda yw yr Arglwydd: gwyn ei fyd y gŵr a ymddiriedo ynddo.
9Ofnwch yr Arglwydd, ei saint ef: canys nid oes eisiau ar y rhai a’i hofnant ef.
10Y mae eisiau a newyn ar y llewod ieuainc: ond y sawl a geisiant yr Arglwydd, ni bydd arnynt eisiau dim daioni.
11Deuwch, blant, gwrandewch arnaf: dysgaf i chwi ofn yr Arglwydd.
12Pwy yw y gŵr a chwennych fywyd, ac a gâr hir ddyddiau, i weled daioni?
13Cadw dy dafod rhag drwg, a’th wefusau rhag traethu twyll.
14Cilia oddi wrth ddrwg, a gwna dda; ymgais â thangnefedd, a dilyn hi.
15Llygaid yr Arglwydd sydd ar y cyfiawn: a’i glustiau sydd yn agored i’w llefain hwynt.
16Wyneb yr Arglwydd sydd yn erbyn y rhai a wna ddrwg, i dorri eu coffa oddi ar y ddaear.
17Y rhai cyfiawn a lefant; a’r Arglwydd a glyw, ac a’u gwared o’u holl drallodau.
18Agos yw yr Arglwydd at y rhai drylliedig o galon; ac efe a geidw y rhai briwedig o ysbryd.
19Aml ddrygau a gaiff y cyfiawn: ond yr Arglwydd a’i gwared ef oddi wrthynt oll.
20Efe a geidw ei holl esgyrn ef: ni thorrir un ohonynt.
21Drygioni a ladd yr annuwiol: a’r rhai a gasânt y cyfiawn, a anrheithir.
22Yr Arglwydd a wared eneidiau ei weision: a’r rhai oll a ymddiriedant ynddo ef, nid anrheithir hwynt.

Currently Selected:

Y Salmau 34: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in