YouVersion Logo
Search Icon

Y Salmau 22

22
SALM 22
I’r Pencerdd ar Aieleth-hasahar, Salm Dafydd.
1Fy Nuw, fy Nuw, paham y’m gwrthodaist? paham yr ydwyt mor bell oddi wrth fy iachawdwriaeth, a geiriau fy llefain?
2Fy Nuw, llefain yr ydwyf y dydd, ac ni wrandewi; y nos hefyd, ac nid oes osteg i mi.
3Ond tydi wyt sanctaidd, O dydi yr hwn wyt yn cyfanheddu ym moliant Israel.
4Ein tadau a obeithiasant ynot: gobeithiasant, a gwaredaist hwynt.
5Arnat ti y llefasant, ac achubwyd hwynt: ynot yr ymddiriedasant, ac nis gwaradwyddwyd hwynt.
6A minnau, pryf ydwyf, ac nid gŵr; gwarthrudd dynion, a dirmyg y bobl.
7Pawb a’r a’m gwelant, a’m gwatwarant: llaesant wefl, ysgydwant ben, gan ddywedyd,
8Ymddiriedodd yn yr Arglwydd; gwareded ef: achubed ef, gan ei fod yn dda ganddo.
9Canys ti a’m tynnaist o’r groth: gwnaethost i mi obeithio pan oeddwn ar fronnau fy mam.
10Arnat ti y’m bwriwyd o’r bru: o groth fy mam fy Nuw ydwyt.
11Nac ymbellha oddi wrthyf; oherwydd cyfyngder sydd agos: canys nid oes cynorthwywr.
12Teirw lawer a’m cylchynasant: gwrdd deirw Basan a’m hamgylchasant.
13Agorasant arnaf eu genau, fel llew rheibus a rhuadwy.
14Fel dwfr y’m tywalltwyd, a’m hesgyrn oll a ymwahanasant: fy nghalon sydd fel cwyr; hi a doddodd yng nghanol fy mherfedd.
15Fy nerth a wywodd fel priddlestr; a’m tafod a lynodd wrth daflod fy ngenau: ac i lwch angau y’m dygaist.
16Canys cŵn a’m cylchynasant: cynulleidfa y drygionus a’m hamgylchasant: trywanasant fy nwylo a’m traed.
17Gallaf gyfrif fy holl esgyrn: y maent yn tremio ac yn edrych arnaf.
18Y maent yn rhannu fy nillad yn eu mysg, ac ar fy ngwisg yn bwrw coelbren.
19Ond tydi, Arglwydd, nac ymbellha: fy nghadernid, brysia i’m cynorthwyo.
20Gwared fy enaid rhag y cleddyf, fy unig enaid o feddiant y ci.
21Achub fi rhag safn y llew: canys o blith cyrn unicorniaid y’m gwrandewaist.
22Mynegaf dy enw i’m brodyr: yng nghanol y gynulleidfa y’th folaf.
23Y rhai sydd yn ofni yr Arglwydd, molwch ef: holl had Jacob, gogoneddwch ef; a holl had Israel, ofnwch ef.
24Canys ni ddirmygodd, ac ni ffieiddiodd gystudd y tlawd; ac ni chuddiodd ei wyneb rhagddo: ond pan lefodd efe arno, efe a wrandawodd.
25Fy mawl sydd ohonot ti yn y gynulleidfa fawr: fy addunedau a dalaf gerbron y rhai a’i hofnant ef.
26Y tlodion a fwytânt, ac a ddiwellir: y rhai a geisiant yr Arglwydd, a’i moliannant ef: eich calon fydd byw yn dragywydd.
27Holl derfynau y ddaear a gofiant, ac a droant at yr Arglwydd: a holl dylwythau y cenhedloedd a addolant ger dy fron di.
28Canys eiddo yr Arglwydd yw y deyrnas: ac efe sydd yn llywodraethu ymhlith y cenhedloedd.
29Yr holl rai breision ar y ddaear a fwytânt, ac a addolant: y rhai a ddisgynnant i’r llwch, a ymgrymant ger ei fron ef; ac nid oes neb a all gadw yn fyw ei enaid ei hun.
30Eu had a’i gwasanaetha ef: cyfrifir ef i’r Arglwydd yn genhedlaeth.
31Deuant, ac adroddant ei gyfiawnder ef i’r bobl a enir, mai efe a wnaeth hyn.

Currently Selected:

Y Salmau 22: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in