YouVersion Logo
Search Icon

Y Salmau 142

142
SALM 142
Maschil Dafydd; Gweddi pan oedd efe yn yr ogof.
1Gwaeddais â’m llef ar yr Arglwydd; â’m llef yr ymbiliais â’r Arglwydd.
2Tywelltais fy myfyrdod o’i flaen ef; a mynegais fy nghystudd ger ei fron ef.
3Pan ballodd fy ysbryd o’m mewn, tithau a adwaenit fy llwybr. Yn y ffordd y rhodiwn, y cuddiasant i mi fagl.
4Edrychais ar y tu deau, a deliais sylw, ac nid oedd neb a’m hadwaenai: pallodd nodded i mi; nid oedd neb yn ymofyn am fy enaid.
5Llefais arnat, O Arglwydd; a dywedais, Ti yw fy ngobaith, a’m rhan yn nhir y rhai byw.
6Ystyr wrth fy ngwaedd: canys truan iawn ydwyf: gwared fi oddi wrth fy erlidwyr; canys trech ydynt na mi.
7Dwg fy enaid allan o garchar, fel y moliannwyf dy enw: y rhai cyfiawn a’m cylchynant: canys ti a fyddi da wrthyf.

Currently Selected:

Y Salmau 142: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in