YouVersion Logo
Search Icon

Y Salmau 140

140
SALM 140
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
1Gwared fi, O Arglwydd, oddi wrth y dyn drwg: cadw fi rhag y gŵr traws:
2Y rhai sydd yn bwriadu drygioni yn eu calon: ymgasglant beunydd i ryfel.
3Golymasant eu tafodau fel sarff: gwenwyn asb sydd dan eu gwefusau. Sela.
4Cadw fi, O Arglwydd, rhag dwylo’r annuwiol; cadw fi rhag y gŵr traws: y rhai a fwriadasant fachellu fy nhraed.
5Y beilchion a guddiasant faglau i mi, ac a estynasant rwyd wrth dannau ar ymyl y llwybrau: gosodasant hoenynnau ar fy medr. Sela.
6Dywedais wrth yr Arglwydd, Fy Nuw ydwyt ti: clyw, O Arglwydd, lef fy ngweddïau.
7 Arglwydd Dduw, nerth fy iachawdwriaeth, gorchuddiaist fy mhen yn nydd brwydr.
8Na chaniatâ, Arglwydd, ddymuniad yr annuwiol: na lwydda ei ddrwg feddwl; rhag eu balchïo hwynt. Sela.
9Y pennaf o’r rhai a’m hamgylchyno, blinder eu gwefusau a’u gorchuddio.
10Syrthied marwor arnynt: a bwrier hwynt yn tân; ac mewn ceuffosydd, fel na chyfodant.
11Na sicrhaer dyn siaradus ar y ddaear: drwg a hela y gŵr traws i’w ddistryw.
12Gwn y dadlau yr Arglwydd ddadl y truan, ac y barna efe y tlodion.
13Y cyfiawn yn ddiau a glodforant dy enw di: y rhai uniawn a drigant ger dy fron di.

Currently Selected:

Y Salmau 140: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in