Y Salmau 133
133
SALM 133
Caniad y graddau, o’r eiddo Dafydd.
1Wele mor ddaionus ac mor hyfryd yw trigo o frodyr ynghyd!
2Y mae fel yr ennaint gwerthfawr ar y pen, yn disgyn ar hyd y farf, sef barf Aaron; yr hwn oedd yn disgyn ar hyd ymyl ei wisgoedd ef:
3Fel gwlith Hermon, ac fel y gwlith yn disgyn ar fynyddoedd Seion: canys yno y gorchmynnodd yr Arglwydd y fendith, sef bywyd yn dragywydd.
Currently Selected:
Y Salmau 133: BWM
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.