YouVersion Logo
Search Icon

Y Salmau 111

111
SALM 111
1Molwch yr Arglwydd. Clodforaf yr Arglwydd â’m holl galon, yng nghymanfa y rhai uniawn, ac yn y gynulleidfa.
2Mawr yw gweithredoedd yr Arglwydd, wedi eu ceisio gan bawb a’u hoffant.
3Gogoniant a harddwch yw ei waith ef; a’i gyfiawnder sydd yn parhau byth.
4Gwnaeth gofio ei ryfeddodau: graslon a thrugarog yw yr Arglwydd.
5Rhoddodd ymborth i’r rhai a’i hofnant ef: efe a gofia ei gyfamod yn dragywydd.
6Mynegodd i’w bobl gadernid ei weithredoedd, i roddi iddynt etifeddiaeth y cenhedloedd.
7Gwirionedd a barn yw gweithredoedd ei ddwylo ef: ei holl orchmynion ydynt sicr:
8Wedi eu sicrhau byth ac yn dragywydd, a’u gwneuthur mewn gwirionedd ac uniawnder.
9Anfonodd ymwared i’w bobl: gorchmynnodd ei gyfamod yn dragwyddol: sancteiddiol ac ofnadwy yw ei enw ef.
10Dechreuad doethineb yw ofn yr Arglwydd: deall da sydd gan y rhai a wnânt ei orchmynion ef: y mae ei foliant ef yn parhau byth.

Currently Selected:

Y Salmau 111: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in