YouVersion Logo
Search Icon

Y Salmau 102

102
SALM 102
Gweddi’r cystuddiedig, pan fyddo mewn blinder, ac yn tywallt ei gŵyn gerbron yr Arglwydd
1Arglwydd, clyw fy ngweddi, a deled fy llef atat.
2Na chudd dy wyneb oddi wrthyf yn nydd fy nghyfyngder, gostwng dy glust ataf: yn y dydd y galwyf, brysia, gwrando fi.
3Canys fy nyddiau a ddarfuant fel mwg, a’m hesgyrn a boethasant fel aelwyd.
4Fy nghalon a drawyd, ac a wywodd fel llysieuyn; fel yr anghofiais fwyta fy mara.
5Gan lais fy nhuchan y glynodd fy esgyrn wrth fy nghnawd.
6Tebyg wyf i belican yr anialwch: ydwyf fel tylluan y diffeithwch.
7Gwyliais, ac ydwyf fel aderyn y to, unig ar ben y tŷ.
8Fy ngelynion a’m gwaradwyddant beunydd: y rhai a ynfydant wrthyf, a dyngasant yn fy erbyn.
9Canys bwyteais ludw fel bara, a chymysgais fy niod ag wylofain;
10Oherwydd dy lid di a’th ddigofaint: canys codaist fi i fyny, a theflaist fi i lawr.
11Fy nyddiau sydd fel cysgod yn cilio; a minnau fel glaswelltyn a wywais.
12Tithau, Arglwydd, a barhei yn dragwyddol, a’th goffadwriaeth hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.
13Ti a gyfodi, ac a drugarhei wrth Seion: canys yr amser i drugarhau wrthi, ie, yr amser nodedig, a ddaeth.
14Oblegid y mae dy weision yn hoffi ei meini, ac yn tosturio wrth ei llwch hi.
15Felly y cenhedloedd a ofnant enw yr Arglwydd, a holl frenhinoedd y ddaear dy ogoniant.
16Pan adeilado yr Arglwydd Seion, y gwelir ef yn ei ogoniant.
17Efe a edrych ar weddi y gwael, ac ni ddiystyrodd eu dymuniad.
18Hyn a ysgrifennir i’r genhedlaeth a ddêl: a’r bobl a grëir a foliannant yr Arglwydd.
19Canys efe a edrychodd o uchelder ei gysegr: yr Arglwydd a edrychodd o’r nefoedd ar y ddaear;
20I wrando uchenaid y carcharorion; ac i ryddhau plant angau;
21I fynegi enw yr Arglwydd yn Seion, a’i foliant yn Jerwsalem:
22Pan gasgler y bobl ynghyd, a’r teyrnasoedd i wasanaethu yr Arglwydd.
23Gostyngodd efe fy nerth ar y ffordd; byrhaodd fy nyddiau.
24Dywedais, Fy Nuw, na chymer fi ymaith yng nghanol fy nyddiau: dy flynyddoedd di sydd yn oes oesoedd.
25Yn y dechreuad y seiliaist y ddaear; a’r nefoedd ydynt waith dy ddwylo.
26Hwy a ddarfyddant, a thi a barhei: ie, hwy oll a heneiddiant fel dilledyn; fel gwisg y newidi hwynt, a hwy a newidir.
27Tithau yr un ydwyt, a’th flynyddoedd ni ddarfyddant.
28Plant dy weision a barhânt, a’u had a sicrheir ger dy fron di.

Currently Selected:

Y Salmau 102: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in