YouVersion Logo
Search Icon

Diarhebion 4

4
1Gwrandewch, blant, addysg tad, ac erglywch i ddysgu deall. 2Canys yr ydwyf fi yn rhoddi i chwi addysg dda: na wrthodwch fy nghyfraith. 3Canys yr oeddwn yn fab i’m tad, yn dyner ac yn annwyl yng ngolwg fy mam. 4Efe a’m dysgai, ac a ddywedai wrthyf, Dalied dy galon fy ngeiriau: cadw fy ngorchmynion, a bydd fyw. 5Cais ddoethineb, cais ddeall: na ad dros gof, ac na ŵyra oddi wrth eiriau fy ngenau. 6Nac ymâd â hi, a hi a’th geidw: câr hi, a hi a’th wared di. 7Pennaf peth yw doethineb: cais ddoethineb; ac â’th holl gyfoeth cais ddeall. 8Dyrchafa di hi, a hithau a’th ddyrchafa di: hi a’th ddwg di i anrhydedd, os cofleidi hi. 9Hi a rydd ychwaneg o ras i’th ben di: ie, hi a rydd i ti goron gogoniant. 10Gwrando, fy mab, a derbyn fy ngeiriau; a blynyddoedd dy fywyd a amlheir. 11Yr ydwyf yn dy ddysgu yn ffordd doethineb; ac yn dy dywys yn llwybrau uniondeb. 12Pan rodiech, dy gerddediad ni bydd gyfyng; a phan redech, ni thramgwyddi. 13Ymafael mewn addysg, ac na ollwng hi: cadw hi; canys dy fywyd di yw hi.
14Na ddos i lwybr yr annuwiolion, ac na rodia ar hyd ffordd y drygionus. 15Gochel hi, na ddos ar hyd-ddi; cilia oddi wrthi hi, a dos heibio. 16Canys ni chysgant nes gwneuthur drwg; a’u cwsg a gollant, nes iddynt gwympo rhyw ddyn. 17Canys y maent yn bwyta bara annuwioldeb, ac yn yfed gwin trais. 18Ond llwybr y cyfiawn sydd fel y goleuni, yr hwn a lewyrcha fwyfwy hyd ganol dydd. 19Eithr ffordd y drygionus sydd fel y tywyllwch: ni wyddant wrth ba beth y tramgwyddant.
20Fy mab, gwrando ar fy ngeiriau: gogwydda dy glust at fy ymadroddion. 21Na ad iddynt fyned ymaith o’th olwg: cadw hwynt yng nghanol dy galon. 22Canys bywyd ydynt i’r neb a’u caffont, ac iechyd i’w holl gnawd.
23Cadw dy galon yn dra diesgeulus; canys allan ohoni y mae bywyd yn dyfod. 24Bwrw oddi wrthyt enau taeogaidd, a gwefusau trofaus ymhell oddi wrthyt. 25Edryched dy lygaid yn uniawn; ac edryched dy amrantau yn uniawn o’th flaen. 26Ystyria lwybr dy draed: a threfner dy holl ffyrdd yn uniawn. 27Na thro ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy; symud dy droed oddi wrth ddrygioni.

Currently Selected:

Diarhebion 4: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in