YouVersion Logo
Search Icon

Diarhebion 28

28
1Yr annuwiol a ffy heb neb yn ei erlid: ond y rhai cyfiawn sydd hy megis llew. 2Oherwydd camwedd gwlad, aml fydd ei phenaethiaid: ond lle y byddo gŵr pwyllog synhwyrol, y pery hi yn hir. 3Gŵr tlawd yn gorthrymu tlodion, sydd debyg i lifddwfr yr hwn ni ad luniaeth. 4Y rhai a ymadawant â’r gyfraith, a ganmolant yr annuwiol: ond y neb a gadwant y gyfraith, a ymladd â hwynt. 5Dynion annuwiol ni ddeallant farn: ond y neb a geisiant yr Arglwydd, a ddeallant bob peth. 6Gwell yw y tlawd a rodio yn ei uniondeb, na’r traws ei ffyrdd, er ei fod yn gyfoethog. 7Y neb a gadwo y gyfraith, sydd fab deallus: ond y neb a fyddo gydymaith i loddestwyr, a gywilyddia ei dad. 8Y neb a chwanego ei gyfoeth trwy usuriaeth ac ocraeth, sydd yn casglu i’r neb a fydd trugarog wrth y tlawd. 9Y neb a dry ei glust ymaith rhag gwrando’r gyfraith, fydd ffiaidd ei weddi hefyd. 10Y neb a ddeno y cyfiawn i ffordd ddrwg, a syrth yn ei bydew ei hun: ond y cyfiawn a feddianna ddaioni. 11Gŵr cyfoethog sydd ddoeth yn ei olwg ei hun: ond y tlawd deallus a’i chwilia ef allan. 12Pan fyddo llawen y cyfiawn, y mae anrhydedd mawr: ond pan ddyrchafer yr annuwiolion, y chwilir am ddyn. 13Y neb a guddio ei bechodau, ni lwydda: ond y neb a’u haddefo, ac a’u gadawo, a gaiff drugaredd. 14Gwyn ei fyd y dyn a ofno yn wastadol: ond y neb a galedo ei galon, a ddigwydda i ddrwg. 15Fel y llew rhuadus, a’r arth wancus, yw llywydd annuwiol i bobl dlodion. 16Penadur heb ddeall sydd yn fawr ei drawsedd: ond y neb a gasao gybydd-dra, a estyn ei ddyddiau. 17Dyn a wnelo drawsedd i waed neb, a ffy i’r pwll; nac atalied neb ef. 18Y neb a rodio yn uniawn, a waredir: ond y neb a fyddo traws ei ffyrdd, a syrth ar unwaith. 19Y neb a lafurio ei dir, a ddigonir o fara: ond y neb a ganlyno oferwyr, a gaiff ddigon o dlodi. 20Gŵr ffyddlon a fydd aml ei fendithion: ond y neb a brysuro i fod yn gyfoethog, ni bydd digerydd. 21Nid da derbyn wyneb: canys y cyfryw ŵr am damaid o fara a wna gam. 22Gŵr drwg ei lygad a brysura i ymgyfoethogi: ond bychan y gŵyr efe y daw tlodi arno. 23Y neb a geryddo ddyn, a gaiff yn y diwedd fwy o ffafr na’r neb a draetho weniaith â’i dafod. 24Y neb a ysbeilio ei dad neu ei fam, ac a ddywed, Nid yw hyn gamwedd, sydd gymar i ddinistriwr. 25Gŵr uchel ei feddwl a ennyn gynnen: ond y neb a ymddiriedo yn yr Arglwydd, a wneir yn fras. 26Y neb a ymddiriedo yn ei galon ei hun, sydd ffôl: ond y neb a rodio yn bwyllog, a achubir. 27Y neb a roddo i’r tlawd, ni bydd angen arno: ond y neb a guddio ei lygaid, a gaiff lawer o felltithion. 28Pan ddyrchafer yr annuwiol, dynion a ymguddia: ond wedi darfod amdanynt, yr amlheir y cyfiawn.

Currently Selected:

Diarhebion 28: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy