Philipiaid 4
4
1Am hynny, fy mrodyr annwyl a hoff, fy llawenydd a’m coron, felly sefwch yn yr Arglwydd, anwylyd. 2Yr ydwyf yn atolwg i Euodias, ac yn atolwg i Syntyche, synied yr un peth yn yr Arglwydd. 3Ac yr ydwyf yn dymuno arnat tithau, fy ngwir gymar, cymorth y gwragedd hynny y rhai yn yr efengyl a gydlafuriasant â mi, ynghyd â Chlement hefyd, a’m cyd-weithwyr eraill, y rhai y mae eu henwau yn llyfr y bywyd. 4Llawenhewch yn yr Arglwydd yn wastadol: a thrachefn meddaf, Llawenhewch. 5Bydded eich arafwch yn hysbys i bob dyn. Y mae’r Arglwydd yn agos. 6Na ofelwch am ddim: eithr ym mhob peth mewn gweddi ac ymbil gyda diolchgarwch, gwneler eich deisyfiadau chwi yn hysbys gerbron Duw. 7A thangnefedd Duw, yr hwn sydd uwchlaw pob deall, a geidw eich calonnau a’ch meddyliau yng Nghrist Iesu. 8Yn ddiwethaf, frodyr, pa bethau bynnag sydd wir, pa bethau bynnag sydd onest, pa bethau bynnag sydd gyfiawn, pa bethau bynnag sydd bur, pa bethau bynnag sydd hawddgar, pa bethau bynnag sydd ganmoladwy, od oes un rhinwedd, ac od oes dim clod, meddyliwch am y pethau hyn. 9Y rhai a ddysgasoch, ac a dderbyniasoch, ac a glywsoch, ac a welsoch ynof fi, y pethau hyn gwnewch: a Duw’r heddwch a fydd gyda chwi. 10Mi a lawenychais hefyd yn yr Arglwydd yn fawr, oblegid i’ch gofal chwi amdanaf fi yr awr hon o’r diwedd adnewyddu; yn yr hyn y buoch ofalus hefyd, ond eisiau amser cyfaddas oedd arnoch. 11Nid am fy mod yn dywedyd oherwydd eisiau: canys myfi a ddysgais ym mha gyflwr bynnag y byddwyf, fod yn fodlon iddo. 12Ac mi a fedraf ymostwng, ac a fedraf ymhelaethu: ym mhob lle ac ym mhob peth y’m haddysgwyd, i fod yn llawn ac i fod yn newynog, i fod mewn helaethrwydd ac i fod mewn prinder. 13Yr wyf yn gallu pob peth trwy Grist, yr hwn sydd yn fy nerthu i. 14Er hynny, da y gwnaethoch gydgyfrannu â’m gorthrymder i. 15A chwithau, Philipiaid, hefyd a wyddoch yn nechreuad yr efengyl, pan euthum i ymaith o Facedonia, na chyfrannodd un eglwys â mi o ran rhoddi a derbyn, ond chwychwi yn unig. 16Oblegid yn Thesalonica hefyd yr anfonasoch i mi unwaith ac eilwaith wrth fy anghenraid. 17Nid oherwydd fy mod i yn ceisio rhodd: eithr yr ydwyf yn ceisio ffrwyth yn amlhau erbyn eich cyfrif chwi. 18Ond y mae gennyf bob peth, ac y mae gennyf helaethrwydd: mi a gyflawnwyd, wedi i mi dderbyn gan Epaffroditus y pethau a ddaethant oddi wrthych chwi; sef arogl peraidd, aberth cymeradwy, bodlon gan Dduw. 19A’m Duw i a gyflawna eich holl raid chwi yn ôl ei olud ef mewn gogoniant, yng Nghrist Iesu. 20Ond i Dduw a’n Tad ni y byddo gogoniant yn oes oesoedd. Amen. 21Anerchwch yr holl saint yng Nghrist Iesu. Y mae’r brodyr sydd gyda mi yn eich annerch. 22Y mae’r saint oll yn eich annerch chwi, ac yn bennaf y rhai sydd o deulu Cesar. 23Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi oll. Amen.
At y Philipiaid yr ysgrifennwyd o Rufain gydag Epaffroditus.
Currently Selected:
Philipiaid 4: BWM
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.