YouVersion Logo
Search Icon

Numeri 26

26
1A bu, wedi’r pla, lefaru o’r Arglwydd wrth Moses, ac wrth Eleasar mab Aaron yr offeiriad, gan ddywedyd, 2Cymerwch nifer holl gynulleidfa meibion Israel, o fab ugain mlwydd ac uchod, trwy dŷ eu tadau, pob un a allo fyned i ryfel yn Israel. 3A llefarodd Moses ac Eleasar yr offeiriad wrthynt yn rhosydd Moab, wrth yr Iorddonen, ar gyfer Jericho, gan ddywedyd 4Rhifwch y bobl, o fab ugain mlwydd ac uchod; megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses, a meibion Israel, y rhai a ddaethant allan o dir yr Aifft.
5Reuben, cyntaf-anedig Israel. Meibion Reuben; o Hanoch, tylwyth yr Hanochiaid: o Phalu, tylwyth y Phaluiaid: 6O Hesron, tylwyth yr Hesroniaid: o Carmi, tylwyth y Carmiaid. 7Dyma dylwyth y Reubeniaid: a’u rhifedigion oedd dair mil a deugain a saith cant a deg ar hugain. 8A meibion Phalu oedd Elïab. 9A meibion Elïab; Nemuel, a Dathan, ac Abiram. Dyma y Dathan ac Abiram, rhai enwog yn y gynulleidfa, y rhai a ymgynenasant yn erbyn Moses ac yn erbyn Aaron yng nghynulleidfa Cora, pan ymgynenasant yn erbyn yr Arglwydd. 10Ac agorodd y ddaear ei safn, ac a’u llyncodd hwynt, a Cora hefyd, pan fu farw y gynulleidfa, pan ddifaodd y tân ddengwr a deugain a dau cant: a hwy a aethant yn arwydd. 11Ond meibion Cora ni buant feirw.
12Meibion Simeon, wrth eu tylwythau. O Nemuel, tylwyth y Nemueliaid: o Jamin, tylwyth y Jaminiaid: o Jachin, tylwyth y Jachiniaid: 13O Sera, tylwyth y Serahiaid: o Saul, tylwyth y Sauliaid. 14Dyma dylwyth y Simeoniaid; dwy fil ar hugain a dau cant.
15Meibion Gad, wrth eu tylwythau. O Seffon, tylwyth y Seffoniaid: o Haggi, tylwyth yr Haggiaid: o Suni, tylwyth y Suniaid: 16O Osni, tylwyth yr Osniaid: o Eri, tylwyth yr Eriaid: 17O Arod, tylwyth yr Arodiaid: o Areli, tylwyth yr Areliaid. 18Dyma deuluoedd meibion Gad, dan eu rhif; deugain mil a phum cant.
19Meibion Jwda oedd, Er ac Onan: a bu farw Er ac Onan yn nhir Canaan. 20A meibion Jwda, wrth eu teuluoedd. O Sela, tylwyth y Selaniaid: o Phares, tylwyth y Pheresiaid: o Sera, tylwyth y Serahiaid. 21A meibion Phares oedd; o Hesron, tylwyth yr Hesroniaid: o Hamul, tylwyth yr Hamuliaid. 22Dyma dylwyth Jwda, dan eu rhif; onid pedair mil pedwar ugain mil a phum cant.
23Meibion Issachar, wrth eu tylwythau oedd; o Tola, tylwyth y Tolaiaid: o Pua, tylwyth y Puhiaid: 24O Jasub, tylwyth y Jasubiaid: o Simron, tylwyth y Simroniaid. 25Dyma deuluoedd Issachar, dan eu rhif; pedair mil a thrigain mil a thri chant.
26Meibion Sabulon, wrth eu teuluoedd, oedd; o Sered, tylwyth y Sardiaid: o Elon, tylwyth yr Eloniaid: o Jahleel, tylwyth y Jahleeliaid. 27Dyma deuluoedd y Sabuloniaid, dan eu rhif; trigain mil a phum cant.
28Meibion Joseff, wrth eu teuluoedd, oedd; Manasse ac Effraim. 29Meibion Manasse oedd; o Machir, tylwyth y Machiriaid: a Machir a genhedlodd Gilead: o Gilead y mae tylwyth y Gileadiaid. 30Dyma feibion Gilead. O Jeeser, tylwyth Jeeseriaid: o Helec, tylwyth yr Heleciaid: 31Ac o Asriel, tylwyth yr Asrieliaid: ac o Sechem, tylwyth y Sechemiaid: 32Ac o Semida, tylwyth y Semidiaid: ac o Heffer, tylwyth yr Hefferiaid.
33A Salffaad mab Heffer nid oedd iddo feibion, ond merched: ac enwau merched Salffaad oedd, Mala, a Noa, Hogla, Milca, a Tirsa. 34Dyma dylwyth Manasse: a’u rhifedigion oedd ddeuddeng mil a deugain a saith cant.
35Dyma feibion Effraim, wrth eu teuluoedd. O Suthela, tylwyth y Sutheliaid; o Becher, tylwyth y Becheriaid: o Tahan, tylwyth y Tahaniaid. 36A dyma feibion Suthela: o Eran, tylwyth yr Eraniaid. 37Dyma dylwyth meibion Effraim, trwy eu rhifedigion; deuddeng mil ar hugain a phum cant. Dyma feibion Joseff, wrth eu teuluoedd.
38Meibion Benjamin, wrth eu teuluoedd oedd; o Bela, tylwyth y Belaiaid: o Asbel, tylwyth yr Asbeliaid: o Ahiram, tylwyth yr Ahiramiaid: 39O Seffuffam, tylwyth y Seffuffamiaid: o Huffam, tylwyth yr Huffamiaid. 40A meibion Bela oedd, Ard a Naaman: o Ard yr ydoedd tylwyth yr Ardiaid: o Naaman, tylwyth y Naamaniaid. 41Dyma feibion Benjamin, yn ôl eu teuluoedd: dan eu rhif yr oeddynt yn bum mil a deugain a chwe chant.
42Dyma feibion Dan, yn ôl eu teuluoedd. O Suham, tylwyth y Suhamiaid. Dyma dylwyth Dan, yn ôl eu teuluoedd. 43A holl dylwyth y Suhamiaid oedd, yn ôl eu rhifedigion, bedair mil a thrigain a phedwar cant.
44Meibion Aser, wrth eu teuluoedd, oedd; o Jimna, tylwyth y Jimniaid: o Jesui, tylwyth y Jesuiaid: o Bereia tylwyth y Bereiaid. 45O feibion Bereia, yr oedd; o Heber, tylwyth yr Heberiaid: o Malciel, tylwyth y Malcieliaid. 46Ac enw merch Aser ydoedd Sara. 47Dyma deuluoedd meibion Aser, yn ôl eu rhifedigion; tair mil ar ddeg a deugain a phedwar cant.
48Meibion Nafftali, wrth eu teuluoedd, oedd; o Jahseel, tylwyth y Jahseeliaid: o Guni, tylwyth y Guniaid: 49O Jeser, tylwyth y Jeseriaid: o Silem, tylwyth y Silemiaid. 50Dyma dylwyth Nafftali, yn ôl eu teuluoedd, dan eu rhif; pum mil a deugain a phedwar cant. 51Dyma rifedigion meibion Israel; chwe chan mil, a mil saith gant a deg ar hugain.
52A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 53I’r rhai hyn y rhennir y tir yn etifeddiaeth, yn ôl rhifedi yr enwau. 54I lawer y chwanegi yr etifeddiaeth, ac i ychydig prinha yr etifeddiaeth: rhodder i bob un ei etifeddiaeth yn ôl ei rifedigion. 55Eto wrth goelbren y rhennir y tir: wrth enwau llwythau eu tadau yr etifeddant 56Wrth farn y coelbren y rhennir ei etifeddiaeth, rhwng llawer ac ychydig.
57A dyma rifedigion y Lefiaid, wrth eu teuluoedd. O Gerson, tylwyth y Gersoniaid: o Cohath, tylwyth y Cohathiaid: o Merari, tylwyth y Merariaid. 58Dyma dylwythau y Lefiaid. Tylwyth y Libniaid, tylwyth yr Hebroniaid, tylwyth y Mahliaid, tylwyth y Musiaid, tylwyth y Corathiaid: Cohath hefyd a genhedlodd Amram. 59Ac enw gwraig Amram oedd Jochebed, merch Lefi, yr hon a aned i Lefi yn yr Aifft: a hi a ddug i Amram, Aaron a Moses, a Miriam eu chwaer hwynt. 60A ganed i Aaron, Nadab ac Abihu, Eleasar ac Ithamar. 61A bu farw Nadab ac Abihu, pan offrymasant dân dieithr gerbron yr Arglwydd. 62A’u rhifedigion oedd dair mil ar hugain; sef pob gwryw o fab misyriad ac uchod: canys ni chyfrifwyd hwynt ymysg meibion Israel, am na roddwyd iddynt etifeddiaeth ymhlith meibion Israel.
63Dyma rifedigion Moses ac Eleasar yr offeiriad, y rhai a rifasant feibion Israel yn rhosydd Moab, wrth yr Iorddonen, ar gyfer Jericho. 64Ac yn y rhai hyn nid oedd un o rifedigion Moses ac Aaron yr offeiriad, pan rifasant feibion Israel yn anialwch Sinai. 65Canys dywedasai yr Arglwydd amdanynt, Gan farw y byddant feirw yn yr anialwch. Ac ni adawsid ohonynt un, ond Caleb mab Jeffunne, a Josua mab Nun.

Currently Selected:

Numeri 26: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in