YouVersion Logo
Search Icon

Numeri 15

15
1A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, 2Llefara wrth feibion, Israel, a dywed wrthynt, Pan ddeloch i dir eich preswylfod, yr hwn yr ydwyf fi yn ei roddi i chwi, 3Ac offrymu ohonoch aberth tanllyd i’r Arglwydd, offrwm poeth, neu aberth, wrth dalu adduned, neu mewn offrwm gwirfodd, neu ar eich gwyliau gosodedig, gan wneuthur arogl peraidd i’r Arglwydd, o’r eidionau, neu o’r praidd: 4Yna offrymed yr hwn a offrymo ei rodd i’r Arglwydd, o beilliaid ddegfed ran, wedi ei gymysgu trwy bedwaredd ran hin o olew, yn fwyd-offrwm. 5Ac offrwm di gyda’r offrwm poeth, neu yr aberth, bedwaredd ran hin o win am bob oen, yn ddiod-offrwm. 6A thi a offrymi yn fwyd-offrwm gyda hwrdd, o beilliaid ddwy ddegfed ran, wedi ei gymysgu trwy drydedd ran hin o olew. 7A thrydedd ran hin o win yn ddiod-offrwm a offrymi yn arogl peraidd i’r Arglwydd. 8A phan ddarperych lo buwch yn offrwm poeth, neu yn aberth yn talu adduned, neu aberth hedd i’r Arglwydd; 9Yna offrymed yn fwyd-offrwm gyda llo y fuwch, o beilliaid dair degfed ran wedi ei gymysgu trwy hanner hin o olew. 10Ac offrwm hanner hin o win yn ddiod-offrwm, yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd. 11Felly y gwneir am bob ych, neu am bob hwrdd, neu am oen, neu am fyn. 12Yn ôl y rhifedi a ddarparoch, felly y gwnewch i bob un, yn ôl eu rhifedi. 13Pob priodor a wna’r pethau hyn felly, wrth offrymu aberth tanllyd o arogl peraidd i’r Arglwydd. 14A phan ymdeithio dieithrddyn, neu yr hwn sydd yn eich plith trwy eich cenedlaethau, a darparu aberth tanllyd o arogl peraidd i’r Arglwydd; fel y gwneloch chwi, felly gwnaed yntau. 15Yr un ddeddf fydd i chwi o’r dyrfa, ac i’r ymdeithydd dieithr; deddf dragwyddol yw trwy eich cenedlaethau: megis yr ydych chwi, felly y bydd y dieithr gerbron yr Arglwydd. 16Un gyfraith, ac un ddefod, fydd i chwi, ac i’r ymdeithydd a ymdeithio gyda chwi.
17A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 18Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan ddeloch i’r tir yr ydwyf yn eich dwyn chwi iddo; 19Yna pan fwytaoch o fara’r tir, y dyrchefwch offrwm dyrchafael i’r Arglwydd. 20O flaenion eich toes yr offrymwch deisen yn offrwm dyrchafael: fel offrwm dyrchafael y llawr dyrnu, felly y dyrchefwch hithau. 21O ddechrau eich toes y rhoddwch i’r Arglwydd offrwm dyrchafael trwy eich cenedlaethau.
22A phan eloch dros y ffordd, ac na wneloch yr holl orchmynion hyn, y rhai a lefarodd yr Arglwydd wrth Moses, 23Sef yr hyn oll a orchmynnodd yr Arglwydd i chwi trwy law Moses, o’r dydd y gorchmynnodd yr Arglwydd, ac o hynny allan, trwy eich cenedlaethau; 24Yna bydded, os allan o olwg y gynulleidfa y gwnaed dim trwy anwybod, i’r holl gynulleidfa ddarparu un bustach ieuanc yn offrwm poeth, i fod yn arogl peraidd i’r Arglwydd, â’i fwyd-offrwm, a’i ddiod-offrwm, wrth y ddefod, ac un bwch geifr yn bech-aberth. 25A gwnaed yr offeiriad gymod dros holl gynulleidfa meibion Israel, a maddeuir iddynt; canys anwybodaeth yw: a dygant eu hoffrwm, aberth tanllyd i’r Arglwydd, a’u pech-aberth, gerbron yr Arglwydd, am eu hanwybodaeth. 26A maddeuir i holl gynulleidfa meibion Israel, ac i’r dieithr a ymdeithio yn eu mysg; canys digwyddodd i’r holl bobl trwy anwybod.
27Ond os un dyn a becha trwy amryfusedd; yna offrymed afr flwydd yn offrwm dros bechod. 28A gwnaed yr offeiriad gymod dros y dyn a becho yn amryfus, pan becho trwy amryfusedd gerbron yr Arglwydd, gan wneuthur cymod drosto; a maddeuir iddo. 29Yr hwn a aned o feibion Israel, a’r dieithr a ymdeithio yn eu mysg, un gyfraith fydd i chwi am wneuthur pechod trwy amryfusedd.
30Ond y dyn a wnêl bechod mewn rhyfyg, o briodor, neu o ddieithr; cablu yr Arglwydd y mae: torrer ymaith y dyn hwnnw o fysg ei bobl. 31Oherwydd iddo ddiystyru gair yr Arglwydd, a thorri ei orchymyn ef; llwyr dorrer ymaith y dyn hwnnw: ei anwiredd fydd arno.
32Fel yr ydoedd meibion Israel yn y diffeithwch, cawsant ŵr yn cynuta ar y dydd Saboth. 33A’r rhai a’i cawsant ef, a’i dygasant ef, sef y cynutwr, at Moses, ac at Aaron, ac at yr holl gynulleidfa. 34Ac a’i dodasant ef mewn dalfa, am nad oedd hysbys beth a wneid iddo. 35A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Lladder y gŵr yn farw: llabyddied yr holl gynulleidfa ef â meini o’r tu allan i’r gwersyll. 36A’r holl gynulleidfa a’i dygasant ef i’r tu allan i’r gwersyll, ac a’i llabyddiasant ef â meini, fel y bu efe farw; megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses.
37A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 38Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, am wneuthur iddynt eddi ar odre eu dillad, trwy eu cenedlaethau, a rhoddant bleth o sidan glas ar eddi y godre. 39A bydded i chwi yn rhidens, i edrych arno, ac i gofio holl orchmynion yr Arglwydd, ac i’w gwneuthur hwynt; ac na chwiliwch yn ôl eich calonnau eich hunain, nac yn ôl eich llygaid eich hunain, y rhai yr ydych yn puteinio ar eu hôl: 40Fel y cofioch ac y gwneloch fy holl orchmynion i, ac y byddoch sanctaidd i’ch Duw. 41Myfi ydyw yr Arglwydd eich Duw, yr hwn a’ch dygais chwi allan o dir yr Aifft, i fod i chwi yn Dduw: myfi yw yr Arglwydd eich Duw.

Currently Selected:

Numeri 15: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in