YouVersion Logo
Search Icon

Marc 2

2
1Ac efe a aeth drachefn i Gapernaum, wedi rhai dyddiau; a chlybuwyd ei fod ef yn tŷ. 2Ac yn y man llawer a ymgasglasant ynghyd, hyd na annent hyd yn oed yn y lleoedd ynghylch y drws: ac efe a bregethodd y gair iddynt hwy. 3A daethant ato, gan ddwyn un claf o’r parlys, yr hwn a ddygid gan bedwar. 4A chan na allent nesáu ato gan y dyrfa, didoi’r to a wnaethant lle yr oedd efe: ac wedi iddynt dorri trwodd, hwy a ollyngasant i waered y gwely yn yr hwn y gorweddai’r claf o’r parlys. 5A phan welodd yr Iesu eu ffydd hwynt, efe a ddywedodd wrth y claf o’r parlys, Ha fab, maddeuwyd i ti dy bechodau. 6Ac yr oedd rhai o’r ysgrifenyddion yn eistedd yno, ac yn ymresymu yn eu calonnau, 7Beth a wna hwn fel hyn yn dywedyd cabledd? pwy a all faddau pechodau, ond Duw yn unig? 8Ac yn ebrwydd, pan wybu’r Iesu yn ei ysbryd eu bod hwy yn ymresymu felly ynddynt eu hunain, efe a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn ymresymu am y pethau hyn yn eich calonnau? 9Pa un sydd hawsaf, ai dywedyd wrth y claf o’r parlys, Maddeuwyd i ti dy bechodau; ai dywedyd, Cyfod, a chymer i fyny dy wely, a rhodia? 10Eithr fel y gwypoch fod gan Fab y dyn awdurdod i faddau pechodau ar y ddaear, (eb efe wrth y claf o’r parlys,) 11Wrthyt ti yr wyf yn dywedyd, Cyfod, a chymer i fyny dy wely, a dos i’th dŷ. 12Ac yn y man y cyfododd efe, ac y cymerth i fyny ei wely, ac a aeth allan yn eu gŵydd hwynt oll; hyd oni synnodd pawb, a gogoneddu Duw, gan ddywedyd, Ni welsom ni erioed fel hyn. 13Ac efe a aeth allan drachefn wrth lan y môr: a’r holl dyrfa a ddaeth ato; ac efe a’u dysgodd hwynt.
14Ac efe yn myned heibio, efe a ganfu Lefi fab Alffeus yn eistedd wrth y dollfa, ac a ddywedodd wrtho, Canlyn fi. Ac efe a gododd, ac a’i canlynodd ef. 15A bu, a’r Iesu yn eistedd i fwyta yn ei dŷ ef, i lawer hefyd o bublicanod a phechaduriaid eistedd gyda’r Iesu a’i ddisgyblion; canys llawer oeddynt, a hwy a’i canlynasent ef. 16A phan welodd yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid ef yn bwyta gyda’r publicanod a’r pechaduriaid, hwy a ddywedasant wrth ei ddisgyblion ef, Paham y mae efe yn bwyta ac yn yfed gyda’r publicanod a’r pechaduriaid? 17A’r Iesu, pan glybu, a ddywedodd wrthynt, Y rhai sydd iach nid rhaid iddynt wrth y meddyg, ond y rhai cleifion: ni ddeuthum i alw y rhai cyfiawn, ond pechaduriaid, i edifeirwch.
18A disgyblion Ioan a’r Phariseaid oeddynt yn ymprydio. A hwy a ddaethant ac a ddywedasant wrtho, Paham y mae disgyblion Ioan a’r Phariseaid yn ymprydio, ond dy ddisgyblion di nid ydynt yn ymprydio? 19A dywedodd yr Iesu wrthynt, A all plant yr ystafell briodas ymprydio, tra fyddo’r priodasfab gyda hwynt? tra fyddo ganddynt y priodasfab gyda hwynt, ni allant ymprydio. 20Eithr y dyddiau a ddaw, pan ddyger y priodasfab oddi arnynt; ac yna yr ymprydiant yn y dyddiau hynny. 21Hefyd ni wnïa neb ddernyn o frethyn newydd ar ddilledyn hen: os amgen, ei gyflawniad newydd ef a dynn oddi wrth yr hen, a gwaeth fydd y rhwyg. 22Ac ni rydd neb win newydd mewn hen gostrelau: os amgen, y gwin newydd a ddryllia’r costrelau, a’r gwin a red allan, a’r costrelau a gollir: eithr gwin newydd sydd raid ei roi mewn costrelau newyddion.
23A bu iddo fyned trwy’r ŷd ar y Saboth; a’i ddisgyblion a ddechreuasant ymdaith gan dynnu’r tywys. 24A’r Phariseaid a ddywedasant wrtho, Wele, paham y gwnânt ar y Saboth yr hyn nid yw gyfreithlon? 25Ac efe a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch erioed beth a wnaeth Dafydd, pan oedd angen a chwant bwyd arno, efe a’r rhai oedd gydag ef? 26Pa fodd yr aeth efe i dŷ Dduw, dan Abiathar yr archoffeiriad, ac y bwytaodd y bara gosod, y rhai nid cyfreithlon eu bwyta, ond i’r offeiriaid yn unig, ac a’u rhoddes hefyd i’r rhai oedd gydag ef 27Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y Saboth a wnaethpwyd er mwyn dyn, ac nid dyn er mwyn y Saboth: 28Am hynny y mae Mab y dyn yn Arglwydd hefyd ar y Saboth.

Currently Selected:

Marc 2: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy