YouVersion Logo
Search Icon

Mathew 7

7
1Na fernwch, fel na’ch barner: 2Canys â pha farn y barnoch, y’ch bernir; ac â pha fesur y mesuroch, yr adfesurir i chwithau. 3A phaham yr wyt yn edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd, ac nad ydwyt yn ystyried y trawst sydd yn dy lygad dy hun? 4Neu pa fodd y dywedi wrth dy frawd, Gad imi fwrw allan y brycheuyn o’th lygad; ac wele drawst yn dy lygad dy hun? 5O ragrithiwr, bwrw allan yn gyntaf y trawst o’th lygad dy hun; ac yna y gweli’n eglur fwrw y brycheuyn allan o lygad dy frawd.
6Na roddwch y peth sydd sanctaidd i’r cŵn, ac na theflwch eich gemau o flaen y moch; rhag iddynt eu sathru dan eu traed, a throi a’ch rhwygo chwi.
7Gofynnwch, a rhoddir i chwi; ceisiwch, a chwi a gewch; curwch, ac fe agorir i chwi: 8Canys pob un sydd yn gofyn, sydd yn derbyn; a’r neb sydd yn ceisio, sydd yn cael; ac i’r hwn sydd yn curo, yr agorir. 9Neu a oes un dyn ohonoch, yr hwn os gofyn ei fab iddo fara, a rydd iddo garreg? 10Ac os gofyn efe bysgodyn, a ddyry efe sarff iddo? 11Os chwychwi gan hynny, a chwi yn ddrwg, a fedrwch roddi rhoddion da i’ch plant, pa faint mwy y rhydd eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd bethau da i’r rhai a ofynnant iddo? 12Am hynny pa bethau bynnag oll a ewyllysioch eu gwneuthur o ddynion i chwi, felly gwnewch chwithau iddynt hwy: canys hyn yw’r gyfraith a’r proffwydi.
13Ewch i mewn trwy’r porth cyfyng: canys eang yw’r porth, a llydan yw’r ffordd sydd yn arwain i ddistryw; a llawer yw’r rhai sydd yn myned i mewn trwyddi: 14Oblegid cyfyng yw’r porth, a chul yw’r ffordd, sydd yn arwain i’r bywyd; ac ychydig yw’r rhai sydd yn ei chael hi.
15Ymogelwch rhag gau broffwydi, y rhai a ddeuant atoch yng ngwisgoedd defaid, ond oddi mewn bleiddiaid rheibus ydynt hwy. 16Wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt. A gasgl rhai rawnwin oddi ar ddrain, neu ffigys oddi ar ysgall? 17Felly pob pren da sydd yn dwyn ffrwythau da; ond y pren drwg sydd yn dwyn ffrwythau drwg. 18Ni ddichon pren da ddwyn ffrwythau drwg, na phren drwg ddwyn ffrwythau da. 19Pob pren heb ddwyn ffrwyth da, a dorrir i lawr, ac a deflir yn tân. 20Oherwydd paham, wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt.
21Nid pob un sydd yn dywedyd wrthyf, Arglwydd, Arglwydd, a ddaw i mewn i deyrnas nefoedd; ond yr hwn sydd yn gwneuthur ewyllys fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd. 22Llawer a ddywedant wrthyf yn y dydd hwnnw, Arglwydd, Arglwydd, oni phroffwydasom yn dy enw di? ac oni fwriasom allan gythreuliaid yn dy enw di? ac oni wnaethom wyrthiau lawer yn dy enw di? 23Ac yna yr addefaf wrthynt, Nid adnabûm chwi erioed: ewch ymaith oddi wrthyf, chwi weithredwyr anwiredd.
24Gan hynny pwy bynnag sydd yn gwrando fy ngeiriau hyn, ac yn eu gwneuthur, mi a’i cyffelybaf ef i ŵr doeth, yr hwn a adeiladodd ei dŷ ar y graig: 25A’r glaw a ddisgynnodd, a’r llifeiriaint a ddaethant, a’r gwyntoedd a chwythasant, ac a ruthrasant ar y tŷ hwnnw; ac ni syrthiodd: oblegid sylfaenesid ef ar y graig. 26A phob un a’r sydd yn gwrando fy ngeiriau hyn, ac heb eu gwneuthur, a gyffelybir i ŵr ffôl, yr hwn a adeiladodd ei dŷ ar y tywod: 27A’r glaw a ddisgynnodd, a’r llifddyfroedd a ddaethant, a’r gwyntoedd a chwythasant, ac a gurasant ar y tŷ hwnnw; ac efe a syrthiodd, a’i gwymp a fu fawr. 28A bu, wedi i’r Iesu orffen y geiriau hyn, y torfeydd a synasant wrth ei ddysgeidiaeth ef: 29Canys yr oedd efe yn eu dysgu hwynt fel un ag awdurdod ganddo, ac nid fel yr ysgrifenyddion.

Currently Selected:

Mathew 7: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in