YouVersion Logo
Search Icon

Mathew 14

14
1Y pryd hwnnw y clybu Herod y tetrarch sôn am yr Iesu; 2Ac efe a ddywedodd wrth ei weision, Hwn yw Ioan Fedyddiwr: efe a gyfododd o feirw; ac am hynny y mae nerthoedd yn gweithio ynddo ef.
3Canys Herod a ddaliasai Ioan, ac a’i rhwymasai, ac a’i dodasai yng ngharchar, oblegid Herodias, gwraig Phylip ei frawd ef. 4Canys Ioan a ddywedodd wrtho, Nid cyfreithlon i ti ei chael hi. 5Ac efe yn ewyllysio ei roddi ef i farwolaeth, a ofnodd y dyrfa; canys hwy a’i cymerent ef megis proffwyd. 6Eithr pan gadwyd dydd genedigaeth Herod, y dawnsiodd merch Herodias ger eu bron hwy, ac a ryngodd fodd Herod. 7O ba herwydd efe a addawodd, trwy lw, roddi iddi beth bynnag a ofynnai. 8A hithau, wedi ei rhagddysgu gan ei mam, a ddywedodd, Dyro i mi yma ben Ioan Fedyddiwr mewn dysgl. 9A’r brenin a fu drist ganddo: eithr oherwydd y llw, a’r rhai a eisteddent gydag ef wrth y ford, efe a orchmynnodd ei roi ef iddi. 10Ac efe a anfonodd, ac a dorrodd ben Ioan yn y carchar. 11A ducpwyd ei ben ef mewn dysgl, ac a’i rhoddwyd i’r llances: a hi a’i dug ef i’w mam. 12A’i ddisgyblion ef a ddaethant, ac a gymerasant ei gorff ef, ac a’i claddasant; ac a aethant, ac a fynegasant i’r Iesu.
13A phan glybu’r Iesu, efe a ymadawodd oddi yno mewn llong i anghyfanheddle o’r neilltu: ac wedi clywed o’r torfeydd, hwy a’i canlynasant ef ar draed allan o’r dinasoedd. 14A’r Iesu a aeth allan, ac a welodd dyrfa fawr, ac a dosturiodd wrthynt; ac efe a iachaodd eu cleifion hwynt.
15Ac wedi ei myned hi yn hwyr, daeth ei ddisgyblion ato, gan ddywedyd, Y lle sydd anghyfannedd, a’r awr a aeth weithian heibio: gollwng y dyrfa ymaith, fel yr elont i’r pentrefi, ac y prynont iddynt fwyd. 16A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid rhaid iddynt fyned ymaith: rhoddwch chwi iddynt beth i’w fwyta. 17A hwy a ddywedasant wrtho, Nid oes gennym ni yma ond pum torth, a dau bysgodyn. 18Ac efe a ddywedodd, Dygwch hwynt yma i mi. 19Ac wedi gorchymyn i’r torfeydd eistedd ar y gwelltglas, a chymryd y pum torth a’r ddau bysgodyn, efe a edrychodd i fyny tua’r nef, ac a fendithiodd, ac a dorrodd; ac a roddes y torthau i’r disgyblion, a’r disgyblion i’r torfeydd. 20A hwynt oll a fwytasant, ac a gawsant eu digon: ac a godasant o’r briwfwyd oedd yng ngweddill, ddeuddeg basgedaid yn llawn. 21A’r rhai a fwytasent oedd ynghylch pum mil o wŷr, heblaw gwragedd a phlant.
22Ac yn y fan y gyrrodd yr Iesu ei ddisgyblion i fyned i’r llong, ac i fyned i’r lan arall o’i flaen ef, tra fyddai efe yn gollwng y torfeydd ymaith. 23Ac wedi iddo ollwng y torfeydd ymaith, efe a esgynnodd i’r mynydd wrtho ei hun, i weddïo: ac wedi ei hwyrhau hi, yr oedd efe yno yn unig. 24A’r llong oedd weithian yng nghanol y môr, yn drallodus gan donnau: canys gwynt gwrthwynebus ydoedd. 25Ac yn y bedwaredd wylfa o’r nos yr aeth yr Iesu atynt, gan rodio ar y môr. 26A phan welodd y disgyblion ef yn rhodio ar y môr, dychrynasant, gan ddywedyd, Drychiolaeth ydyw. A hwy a waeddasant rhag ofn. 27Ac yn y man y llefarodd yr Iesu wrthynt, gan ddywedyd, Cymerwch gysur: myfi ydyw; nac ofnwch. 28A Phedr a’i hatebodd, ac a ddywedodd, O Arglwydd, os tydi yw, arch i mi ddyfod atat ar y dyfroedd. 29Ac efe a ddywedodd, Tyred. Ac wedi i Pedr ddisgyn o’r llong, efe a rodiodd ar y dyfroedd, i ddyfod at yr Iesu. 30Ond pan welodd ef y gwynt yn gryf, efe a ofnodd: a phan ddechreuodd suddo, efe a lefodd, gan ddywedyd, Arglwydd, cadw fi. 31Ac yn y man yr estynnodd yr Iesu ei law, ac a ymaflodd ynddo ef, ac a ddywedodd wrtho, Tydi o ychydig ffydd, paham y petrusaist? 32A phan aethant hwy i mewn i’r llong, peidiodd y gwynt. 33A daeth y rhai oedd yn y llong, ac a’i haddolasant ef, gan ddywedyd, Yn wir Mab Duw ydwyt ti.
34Ac wedi iddynt fyned trosodd, hwy a ddaethant i dir Gennesaret. 35A phan adnabu gwŷr y fan honno ef, hwy a anfonasant i’r holl wlad honno o amgylch, ac a ddygasant ato y rhai oll oedd mewn anhwyl; 36Ac a atolygasant iddo gael cyffwrdd yn unig ag ymyl ei wisg ef: a chynifer ag a gyffyrddodd, a iachawyd.

Currently Selected:

Mathew 14: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in