YouVersion Logo
Search Icon

Luc 7

7
1Ac wedi iddo orffen ei holl ymadroddion lle y clywai’r bobl, efe a aeth i mewn i Gapernaum. 2A gwas rhyw ganwriad, yr hwn oedd annwyl ganddo, oedd yn ddrwg ei hwyl, ymron marw. 3A phan glybu efe sôn am yr Iesu, efe a ddanfonodd ato henuriaid yr Iddewon, gan atolwg iddo ddyfod a iacháu ei was ef. 4Y rhai pan ddaethant at yr Iesu, a atolygasant arno yn daer, gan ddywedyd, Oblegid y mae efe yn haeddu cael gwneuthur ohonot hyn iddo; 5Canys y mae yn caru ein cenedl ni, ac efe a adeiladodd i ni synagog. 6A’r Iesu a aeth gyda hwynt. Ac efe weithian heb fod nepell oddi wrth y tŷ, y canwriad a anfonodd gyfeillion ato, gan ddywedyd wrtho, Arglwydd, na phoena; canys nid wyf fi deilwng i ddyfod ohonot dan fy nghronglwyd: 7Oherwydd paham ni’m tybiais fy hun yn deilwng i ddyfod atat: eithr dywed y gair, a iach fydd fy ngwas. 8Canys dyn wyf finnau wedi fy ngosod dan awdurdod, a chennyf filwyr danaf: ac meddaf wrth hwn, Dos, ac efe a â; ac wrth arall, Tyred, ac efe a ddaw; ac wrth fy ngwas, Gwna hyn, ac efe a’i gwna. 9Pan glybu’r Iesu y pethau hyn, efe a ryfeddodd wrtho, ac a drodd, ac a ddywedodd wrth y bobl oedd yn ei ganlyn, Yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Ni chefais gymaint ffydd, naddo yn yr Israel. 10A’r rhai a anfonasid, wedi iddynt ddychwelyd i’r tŷ, a gawsant y gwas a fuasai glaf, yn holliach.
11A bu drannoeth, iddo ef fyned i ddinas a elwid Nain; a chydag ef yr aeth llawer o’i ddisgyblion, a thyrfa fawr. 12A phan ddaeth efe yn agos at borth y ddinas, wele, un marw a ddygid allan, yr hwn oedd unig fab ei fam, a honno yn weddw: a bagad o bobl y ddinas oedd gyda hi. 13A’r Arglwydd pan welodd hi, a gymerodd drugaredd arni, ac a ddywedodd wrthi, Nac wyla. 14A phan ddaeth atynt, efe a gyffyrddodd â’r elor: a’r rhai oedd yn ei dwyn, a safasant. Ac efe a ddywedodd, Y mab ieuanc, yr wyf yn dywedyd wrthyt, Cyfod. 15A’r marw a gyfododd yn ei eistedd, ac a ddechreuodd lefaru. Ac efe a’i rhoddes i’w fam. 16Ac ofn a ddaeth ar bawb: a hwy a ogoneddasant Dduw, gan ddywedyd, Proffwyd mawr a gyfododd yn ein plith; ac, Ymwelodd Duw â’i bobl. 17A’r gair hwn a aeth allan amdano trwy holl Jwdea, a thrwy gwbl o’r wlad oddi amgylch. 18A’i ddisgyblion a fynegasant i Ioan hyn oll.
19Ac Ioan, wedi galw rhyw ddau o’i ddisgyblion ato, a anfonodd at yr Iesu, gan ddywedyd, Ai ti yw’r hwn sydd yn dyfod? ai un arall yr ŷm yn ei ddisgwyl? 20A’r gwŷr pan ddaethant ato, a ddywedasant, Ioan Fedyddiwr a’n danfonodd ni atat ti, gan ddywedyd, Ai ti yw’r hwn sydd yn dyfod? ai arall yr ŷm yn ei ddisgwyl? 21A’r awr honno efe a iachaodd lawer oddi wrth glefydau, a phlâu, ac ysbrydion drwg; ac i lawer o ddeillion y rhoddes efe eu golwg. 22A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Ewch, a mynegwch i Ioan y pethau a welsoch ac a glywsoch; fod y deillion yn gweled eilwaith, y cloffion yn rhodio, y gwahanglwyfus wedi eu glanhau, y byddariaid yn clywed, y meirw yn cyfodi, y tlodion yn derbyn yr efengyl. 23A gwyn ei fyd y neb ni rwystrir ynof fi.
24Ac wedi i genhadau Ioan fyned ymaith, efe a ddechreuodd ddywedyd wrth y bobloedd am Ioan. Beth yr aethoch allan i’r diffeithwch i’w weled? Ai corsen yn siglo gan wynt? 25Ond pa beth yr aethoch allan i’w weled? Ai dyn wedi ei ddilladu â dillad esmwyth? Wele, y rhai sydd yn arfer dillad anrhydeddus, a moethau, mewn palasau brenhinoedd y maent. 26Eithr beth yr aethoch allan i’w weled? Ai proffwyd? Yn ddiau meddaf i chwi, a llawer mwy na phroffwyd. 27Hwn yw efe am yr un yr ysgrifennwyd, Wele, yr wyf fi yn anfon fy nghennad o flaen dy wyneb, yr hwn a baratoa dy ffordd o’th flaen. 28Canys meddaf i chwi, Ymhlith y rhai a aned o wragedd, nid oes broffwyd mwy nag Ioan Fedyddiwr: eithr yr hwn sydd leiaf yn nheyrnas Dduw, sydd fwy nag ef. 29A’r holl bobl a’r oedd yn gwrando, a’r publicanod, a gyfiawnhasant Dduw, gwedi eu bedyddio â bedydd Ioan. 30Eithr y Phariseaid a’r cyfreithwyr yn eu herbyn eu hunain a ddiystyrasant gyngor Duw, heb eu bedyddio ganddo.
31A dywedodd yr Arglwydd, I bwy gan hynny y cyffelybaf ddynion y genhedlaeth hon? ac i ba beth y maent yn debyg? 32Tebyg ydynt i blant yn eistedd yn y farchnad, ac yn llefain wrth ei gilydd, ac yn dywedyd, Canasom bibau i chwi, ac ni ddawnsiasoch; cwynfanasom i chwi, ac nid wylasoch. 33Canys daeth Ioan Fedyddiwr heb na bwyta bara, nac yfed gwin; a chwi a ddywedwch, Y mae cythraul ganddo. 34Daeth Mab y dyn yn bwyta ac yn yfed; ac yr ydych yn dywedyd, Wele ddyn glwth, ac yfwr gwin, cyfaill publicanod a phechaduriaid. 35A doethineb a gyfiawnhawyd gan bawb o’i phlant.
36Ac un o’r Phariseaid a ddymunodd arno fwyta gydag ef: ac yntau a aeth i dŷ’r Pharisead, ac a eisteddodd i fwyta. 37Ac wele, gwraig yn y ddinas, yr hon oedd bechadures, pan wybu hi fod yr Iesu yn eistedd ar y bwrdd yn nhŷ’r Pharisead, a ddug flwch o ennaint: 38A chan sefyll wrth ei draed ef o’r tu ôl, ac wylo, hi a ddechreuodd olchi ei draed ef â dagrau, ac a’u sychodd â gwallt ei phen: a hi a gusanodd ei draed ef, ac a’u hirodd â’r ennaint. 39A phan welodd y Pharisead, yr hwn a’i gwahoddasai, efe a ddywedodd ynddo ei hun, gan ddywedyd, Pe bai hwn broffwyd, efe a wybuasai pwy, a pha fath wraig yw’r hon sydd yn cyffwrdd ag ef: canys pechadures yw hi. 40A’r Iesu gan ateb a ddywedodd wrtho, Simon, y mae gennyf beth i’w ddywedyd wrthyt. Yntau a ddywedodd, Athro, dywed. 41Dau ddyledwr oedd i’r un echwynnwr: y naill oedd arno bum can ceiniog o ddyled, a’r llall ddeg a deugain. 42A phryd nad oedd ganddynt ddim i dalu, efe a faddeuodd iddynt ill dau. Dywed gan hynny, pwy o’r rhai hyn a’i câr ef yn fwyaf? 43A Simon a atebodd ac a ddywedodd, Yr wyf fi’n tybied mai’r hwn y maddeuodd efe iddo fwyaf. Yntau a ddywedodd wrtho, Uniawn y bernaist. 44Ac efe a drodd at y wraig, ac a ddywedodd wrth Simon, A weli di’r wraig hon? mi a ddeuthum i’th dŷ di, ac ni roddaist i mi ddwfr i’m traed: ond hon a olchodd fy nhraed â dagrau, ac a’u sychodd â gwallt ei phen. 45Ni roddaist i mi gusan: ond hon, er pan ddeuthum i mewn, ni pheidiodd â chusanu fy nhraed. 46Fy mhen ag olew nid iraist: ond hon a irodd fy nhraed ag ennaint. 47Oherwydd paham y dywedaf wrthyt, Maddeuwyd ei haml bechodau hi; oblegid hi a garodd yn fawr: ond y neb y maddeuer ychydig iddo, a gâr ychydig. 48Ac efe a ddywedodd wrthi, Maddeuwyd i ti dy bechodau. 49A’r rhai oedd yn cydeistedd i fwyta a ddechreuasant ddywedyd ynddynt eu hunain, Pwy yw hwn sydd yn maddau pechodau hefyd? 50Ac efe a ddywedodd wrth y wraig, Dy ffydd a’th gadwodd; dos mewn tangnefedd.

Currently Selected:

Luc 7: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in