YouVersion Logo
Search Icon

Josua 8

8
1A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Josua, Nac ofna, ac nac arswyda: cymer gyda thi yr holl bobl o ryfel, a chyfod, dos i fyny i Ai: gwêl, mi a roddais yn dy law di frenin Ai, a’i bobl, ei ddinas hefyd, a’i wlad. 2A thi a wnei i Ai a’i brenin, megis y gwnaethost i Jericho ac i’w brenin: eto ei hanrhaith a’i hanifeiliaid a ysglyfaethwch i chwi eich hunain: gosod gynllwyn yn erbyn y ddinas, o’r tu cefn iddi.
3Yna Josua a gyfododd, a’r holl bobl o ryfel, i fyned i fyny i Ai: a Josua a ddetholodd ddeng mil ar hugain o wŷr cedyrn nerthol, ac a’u hanfonodd ymaith liw nos: 4Ac efe a orchmynnodd iddynt, gan ddywedyd, Gwelwch, chwi a gynllwynwch yn erbyn y ddinas, o’r tu cefn i’r ddinas: nac ewch ymhell iawn oddi wrth y ddinas, ond byddwch bawb oll yn barod. 5Minnau hefyd, a’r holl bobl sydd gyda mi, a nesawn at y ddinas: a phan ddelont allan i’n cyfarfod ni, megis y waith gyntaf, yna ni a ffown o’u blaen hwynt, 6(Canys hwy a ddeuant allan ar ein hôl ni,) nes i ni eu tynnu hwynt allan o’r ddinas; oblegid hwy a ddywedant, Ffoi y maent o’n blaen ni, fel y waith gyntaf: felly y ffown o’u blaen hwynt. 7Yna chwi a godwch o’r cynllwyn, ac a oresgynnwch y ddinas: canys yr Arglwydd eich Duw a’i dyry hi yn eich llaw chwi. 8A phan enilloch y ddinas, llosgwch y ddinas â thân: gwnewch yn ôl gair yr Arglwydd. Gwelwch, mi a orchmynnais i chwi.
9Felly Josua a’u hanfonodd; a hwy a aethant i gynllwyn, ac a arosasant rhwng Bethel ac Ai, o du’r gorllewin i Ai: a Josua a letyodd y noson honno ymysg y bobl. 10A Josua a gyfododd yn fore, ac a gyfrifodd y bobl; ac a aeth i fyny, efe a henuriaid Israel, o flaen y bobl, tuag at Ai. 11A’r holl bobl o ryfel, y rhai oedd gydag ef, a aethant i fyny, ac a nesasant; daethant hefyd gyferbyn â’r ddinas, a gwersyllasant o du’r gogledd i Ai: a glyn oedd rhyngddynt hwy ac Ai. 12Ac efe a gymerth ynghylch pum mil o wŷr, ac a’u gosododd hwynt i gynllwyn rhwng Bethel ac Ai, o du’r gorllewin i’r ddinas. 13A’r bobl a osodasant yr holl wersyllau, y rhai oedd o du’r gogledd i’r ddinas, a’r cynllwynwyr o du’r gorllewin i’r ddinas: a Josua a aeth y noson honno i ganol y dyffryn.
14A phan welodd brenin Ai hynny, yna gwŷr y ddinas a frysiasant, ac a foregodasant, ac a aethant allan i gyfarfod Israel i ryfel, efe a’i holl bobl, ar amser nodedig, ar hyd wyneb y gwastadedd: canys ni wyddai efe fod cynllwyn iddo, o’r tu cefn i’r ddinas. 15A Josua a holl Israel, fel pe trawsid hwy o’u blaen hwynt, a ffoesant ar hyd yr anialwch. 16A’r holl bobl, y rhai oedd yn y ddinas, a alwyd ynghyd, i erlid ar eu hôl hwynt: a hwy a erlidiasant ar ôl Josua, ac a dynnwyd oddi wrth y ddinas. 17Ac ni adawyd gŵr yn Ai, nac yn Bethel, a’r nad aethant allan ar ôl Israel: a gadawsant y ddinas yn agored, ac erlidiasant ar ôl Israel. 18A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Josua, Estyn y waywffon sydd yn dy law tuag at Ai: canys yn dy law di y rhoddaf hi. A Josua a estynnodd y waywffon oedd yn ei law tua’r ddinas. 19A’r cynllwynwyr a gyfodasant yn ebrwydd o’u lle, ac a redasant, pan estynnodd efe ei law: daethant hefyd i’r ddinas, ac enillasant hi; ac a frysiasant, ac a losgasant y ddinas â thân. 20A gwŷr Ai a droesant yn eu hôl, ac a edrychasant; ac wele, mwg y ddinas a ddyrchafodd hyd y nefoedd; ac nid oedd ganddynt hwy nerth i ffoi yma nac acw: canys y bobl y rhai a ffoesent i’r anialwch, a ddychwelodd yn erbyn y rhai oedd yn erlid. 21A phan welodd Josua a holl Israel i’r cynllwynwyr ennill y ddinas, a dyrchafu o fwg y ddinas, yna hwy a ddychwelasant, ac a drawsant wŷr Ai. 22A’r lleill a aethant allan o’r ddinas i’w cyfarfod; felly yr oeddynt yng nghanol Israel, y rhai hyn o’r tu yma, a’r lleill o’r tu acw: a thrawsant hwynt, fel na adawyd un yng ngweddill nac yn ddihangol ohonynt. 23A brenin Ai a ddaliasant hwy yn fyw; a dygasant ef at Josua. 24Pan ddarfu i Israel ladd holl breswylwyr Ai yn y maes, yn yr anialwch lle yr erlidiasent hwynt, a phan syrthiasent hwy oll gan fin y cleddyf, nes eu darfod; yna holl Israel a ddychwelasant i Ai, a thrawsant hi â min y cleddyf. 25A chwbl a’r a syrthiasant y dwthwn hwnnw, yn wŷr ac yn wragedd, oeddynt ddeuddeng mil; sef holl wŷr Ai. 26Canys ni thynnodd Josua ei law yn ei hôl, yr hon a estynasai efe gyda’r waywffon, nes difetha holl drigolion Ai. 27Yn unig yr anifeiliaid, ac anrhaith y ddinas, a ysglyfaethodd yr Israeliaid iddynt eu hun; yn ôl gair yr Arglwydd, yr hwn a orchmynasai efe i Josua. 28A Josua a losgodd Ai, ac a’i gwnaeth hi yn garnedd dragywydd, ac yn ddiffeithwch hyd y dydd hwn. 29Ac efe a grogodd frenin Ai ar bren hyd yr hwyr: ac wedi machlud haul, y gorchmynnodd Josua iddynt ddisgyn ei gelain ef oddi ar y pren, a’i bwrw i ddrws porth y ddinas; a gosodasant garnedd fawr o gerrig arni hyd y dydd hwn.
30Yna Josua a adeiladodd allor i Arglwydd Dduw Israel ym mynydd Ebal, 31Megis y gorchmynasai Moses gwas yr Arglwydd i feibion Israel, fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr cyfraith Moses, allor o gerrig cyfain, y rhai ni ddyrchafasid haearn arnynt: a hwy a offrymasant arni boethoffrymau i’r Arglwydd, ac a aberthasant ebyrth hedd. 32Ac efe a ysgrifennodd yno ar y meini o gyfraith Moses, yr hon a ysgrifenasai efe yng ngŵydd meibion Israel. 33A holl Israel, a’u henuriaid, eu swyddogion hefyd, a’u barnwyr, oedd yn sefyll oddeutu yr arch, gerbron yr offeiriaid y Lefiaid, y rhai oedd yn dwyn arch cyfamod yr Arglwydd, yn gystal yr estron a’r priodor: eu hanner oedd ar gyfer mynydd Garisim, a’u hanner ar gyfer mynydd Ebal; fel y gorchmynasai Moses gwas yr Arglwydd o’r blaen fendithio pobl Israel. 34Wedi hynny efe a ddarllenodd holl eiriau y gyfraith, y fendith a’r felltith, yn ôl y cwbl sydd ysgrifenedig yn llyfr y gyfraith. 35Nid oedd air o’r hyn oll a orchmynasai Moses, a’r nas darllenodd Josua gerbron holl gynulleidfa Israel, a’r gwragedd, a’r plant, a’r dieithr yr hwn oedd yn rhodio yn eu mysg hwynt.

Currently Selected:

Josua 8: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in