YouVersion Logo
Search Icon

Josua 16

16
1A rhandir meibion Joseff oedd yn myned o’r Iorddonen wrth Jericho, i ddyfroedd Jericho o du y dwyrain, i’r anialwch sydd yn myned i fyny o Jericho i fynydd Bethel; 2Ac yn myned o Bethel i Lus, ac yn myned rhagddo i derfyn Arci i Ataroth; 3Ac yn disgyn tua’r gorllewin i ardal Jaffleti, hyd derfyn Beth-horon isaf, ac hyd Geser: a’i gyrrau eithaf sydd hyd y môr. 4Felly meibion Joseff, Manasse ac Effraim, a gymerasant eu hetifeddiaeth.
5A therfyn meibion Effraim oedd yn ôl eu teuluoedd; a therfyn eu hetifeddiaeth hwynt o du y dwyrain, oedd Ataroth-adar, hyd Beth-horon uchaf. 6A’r terfyn sydd yn myned tua’r môr, i Michmethath o du y gogledd; a’r terfyn sydd yn amgylchu o du y dwyrain i Taanath-seilo, ac yn myned heibio iddo o du y dwyrain i Janoha: 7Ac yn myned i waered o Janoha, i Ataroth, a Naarath; ac yn cyrhaeddyd i Jericho, ac yn myned allan i’r Iorddonen. 8O Tappua y mae y terfyn yn myned tua’r gorllewin i afon Cana; a’i gyrrau eithaf sydd wrth y môr. Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Effraim, yn ôl eu teuluoedd. 9A dinasoedd neilltuedig meibion Effraim oedd ymysg etifeddiaeth meibion Manasse; yr holl ddinasoedd, a’u pentrefydd. 10Ond ni oresgynasant hwy y Canaaneaid, y rhai oedd yn trigo yn Geser: am hynny y trigodd y Canaaneaid ymhlith yr Effraimiaid hyd y dydd hwn, ac y maent yn gwasanaethu dan dreth.

Currently Selected:

Josua 16: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in