YouVersion Logo
Search Icon

Josua 14

14
1Dyma hefyd y gwledydd a etifeddodd meibion Israel yng ngwlad Canaan, y rhai a rannodd Eleasar yr offeiriad, a Josua mab Nun, a phennau-cenedl llwythau meibion Israel, iddynt hwy i’w hetifeddu. 2Wrth goelbren yr oedd eu hetifeddiaeth hwynt; fel y gorchmynasai yr Arglwydd trwy law Moses eu rhoddi i’r naw llwyth, ac i’r hanner llwyth. 3Canys Moses a roddasai etifeddiaeth i ddau lwyth, ac i hanner llwyth, o’r tu hwnt i’r Iorddonen; ond i’r Lefiaid ni roddasai efe etifeddiaeth yn eu mysg hwynt; 4Canys meibion Joseff oedd ddau lwyth, Manasse ac Effraim: am hynny ni roddasant ran i’r Lefiaid yn y tir, ond dinasoedd i drigo, a’u meysydd pentrefol i’w hanifeiliaid, ac i’w golud. 5Fel y gorchmynasai yr Arglwydd i Moses, felly y gwnaeth meibion Israel, a hwy a ranasant y wlad.
6Yna meibion Jwda a ddaethant at Josua yn Gilgal: a Chaleb mab Jeffunne y Cenesiad a ddywedodd wrtho ef, Tydi a wyddost y gair a lefarodd yr Arglwydd wrth Moses gŵr Duw o’m plegid i, ac o’th blegid dithau, yn Cades-barnea. 7Mab deugain mlwydd oeddwn i pan anfonodd Moses gwas yr Arglwydd fi o Cades-barnea, i edrych ansawdd y wlad; a mi a ddygais air iddo ef drachefn, fel yr oedd yn fy nghalon. 8Ond fy mrodyr, y rhai a aethant i fyny gyda mi, a ddigalonasant y bobl: eto myfi a gyflawnais fyned ar ôl yr Arglwydd fy Nuw. 9A Moses a dyngodd y diwrnod hwnnw, gan ddywedyd, Diau y bydd y wlad y sathrodd dy droed arni, yn etifeddiaeth i ti, ac i’th feibion hyd byth; am i ti gyflawni myned ar ôl yr Arglwydd fy Nuw. 10Ac yn awr, wele yr Arglwydd a’m cadwodd yn fyw, fel y llefarodd efe, y pum mlynedd a deugain hyn, er pan lefarodd yr Arglwydd y gair hwn wrth Moses, tra y rhodiodd Israel yn yr anialwch: ac yn awr, wele fi heddiw yn fab pum mlwydd a phedwar ugain. 11Yr ydwyf eto mor gryf heddiw â’r dydd yr anfonodd Moses fi: fel yr oedd fy nerth i y pryd hwnnw, felly y mae fy nerth i yn awr, i ryfela, ac i fyned allan, ac i ddyfod i mewn. 12Yn awr gan hynny dyro i mi y mynydd yma, am yr hwn y llefarodd yr Arglwydd y dwthwn hwnnw, (canys ti a glywaist y dwthwn hwnnw fod yr Anaciaid yno, a dinasoedd mawrion caerog;) ond odid yr Arglwydd fydd gyda mi, fel y gyrrwyf hwynt allan, megis y llefarodd yr Arglwydd. 13A Josua a’i bendithiodd ef, ac a roddodd Hebron i Caleb mab Jeffunne yn etifeddiaeth. 14Am hynny mae Hebron yn etifeddiaeth i Caleb mab Jeffunne y Cenesiad hyd y dydd hwn: oherwydd iddo ef gwblhau myned ar ôl Arglwydd Dduw Israel. 15Ac enw Hebron o’r blaen oedd Caer-arba: yr Arba hwnnw oedd ŵr mawr ymysg yr Anaciaid. A’r wlad a orffwysodd heb ryfel.

Currently Selected:

Josua 14: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in