YouVersion Logo
Search Icon

Job 34

34
1Ac Elihu a lefarodd ac a ddywedodd, 2Ha wŷr doethion, gwrandewch fy ymadroddion; a chwychwi y rhai ydych yn gwybod, clustymwrandewch. 3Canys y glust a farn ymadroddion, fel yr archwaetha y genau fwyd. 4Dewiswn i ni farn, gwybyddwn rhyngom pa beth sydd dda. 5Canys dywedodd Job, Cyfiawn ydwyf: a Duw a ddug ymaith fy marn. 6A ddywedaf fi gelwydd yn erbyn fy mater fy hun? anaele yw fy archoll heb gamwedd. 7Pa ŵr sydd fel Job, yr hwn a yf watwargerdd fel dwfr? 8Ac a rodio yng nghymdeithas gyda gweithredwyr anwiredd, ac sydd yn myned gyda dynion annuwiol. 9Canys dywedodd, Ni fuddia i ŵr ymhyfrydu â Duw. 10Am hynny chwychwi wŷr calonnog, gwrandewch arnaf. Pell oddi wrth Dduw fyddo gwneuthur annuwioldeb, ac oddi wrth yr Hollalluog weithredu anwiredd. 11Canys efe a dâl i ddyn ei waith; ac efe a wna i ŵr gael yn ôl ei ffyrdd ei hun. 12Diau hefyd na wna Duw yn annuwiol; ac na ŵyra yr Hollalluog farn. 13Pwy a roddes iddo ef lywodraethu y ddaear? a phwy a osododd yr holl fyd? 14Os gesyd ei galon ar ddyn, os casgl efe ato ei hun ei ysbryd a’i anadl ef; 15Pob cnawd a gyd-drenga, a dyn a ddychwel i’r pridd. 16Ac od oes ddeall ynot, gwrando hyn: clustymwrando â llef fy ymadroddion. 17A gaiff yr hwn sydd yn casáu barn, lywodraethu? ac a ferni di yr hwn sydd gyfiawn odiaeth, yn annuwiol? 18A ddywedir wrth frenin, Drygionus ydwyt? ac, Annuwiol ydych, wrth dywysogion? 19Pa faint llai wrth yr hwn ni dderbyn wynebau tywysogion, ac nid edwyn y goludog o flaen y tlawd? canys gwaith ei ddwylo ef ydynt oll. 20Hwy a fyddant feirw mewn moment, a hanner nos y cynhyrfa y bobl, ac yr ânt ymaith: a’r cadarn a symudir heb waith llaw. 21Canys ei lygaid ef sydd ar ffyrdd dyn ac efe a wêl ei holl gamre ef. 22Nid oes dywyllwch, na chysgod angau, lle y gall y rhai sydd yn gweithio anwiredd, ymguddio. 23Canys ni esyd Duw ar ddyn ychwaneg nag a haeddo; fel y gallo efe fyned i gyfraith â Duw. 24Efe a ddryllia rai cedyrn yn aneirif, ac a esyd eraill yn eu lle hwynt. 25Am hynny efe a edwyn eu gweithredoedd hwy: a phan newidio efe y nos, hwy a ddryllir. 26Efe a’u tery hwynt, megis rhai annuwiol, yn amlwg: 27Am iddynt gilio oddi ar ei ôl ef, ac nad ystyrient ddim o’i ffyrdd ef: 28Gan ddwyn gwaedd y tlawd ato ef, ac efe a wrendy waedd y cystuddiol. 29Pan esmwythao efe, pwy a anesmwytha? a phan guddio efe ei wyneb, pwy a edrych arno? pa un bynnag ai yn erbyn cenedl, ai yn erbyn dyn yn unig: 30Fel na theyrnasai dyn ffuantus, ac na rwyder y bobl. 31Ond wrth Dduw, yr hwn a ddywed, Mi a faddeuais, nid anrheithiaf, y dylid dywedyd; 32Heblaw a welaf, dysg di fi: o gwneuthum anwiredd, ni wnaf fi mwy. 33Ai wrth dy feddwl di y byddai? efe a’i tâl, pa un bynnag a wnelych ai gwrthod, ai dewis; ac nid myfi: am hynny dywed yr hyn a wyddost. 34Gwŷr call, dywedant i mi; a’r gŵr doeth, clywed fi. 35Job a ddywedodd yn annoeth; a’i eiriau ydynt heb ddoethineb. 36Fy Nhad, profer Job hyd y diwedd, am roddi atebion dros ddynion anwir. 37Canys efe a chwanegodd ysgelerder at ei bechod; efe a gurodd ei ddwylo yn ein plith ni, ac a amlhaodd ei eiriau yn erbyn Duw.

Currently Selected:

Job 34: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in