YouVersion Logo
Search Icon

Job 25

25
1Yna Bildad y Suhiad a atebodd ac a ddywedodd, 2Arglwyddiaeth ac ofn sydd gydag ef: y mae efe yn gwneuthur heddwch yn ei uchelfannau. 3A oes gyfrif o’i luoedd ef? ac ar bwy ni chyfyd ei oleuni? 4Pa fodd y cyfiawnheir dyn gyda Duw? neu pa fodd y bydd yr hwn a aned o wraig yn lân? 5Wele hyd yn oed y lleuad, ac ni lewyrcha hi; a’r sêr nid ydynt bur yn ei olwg ef: 6Pa faint llai dyn, yr hwn sydd bryf; a mab dyn, yr hwn sydd abwydyn?

Currently Selected:

Job 25: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in