Jeremeia 34
34
1Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd, pan oedd Nebuchodonosor brenin Babilon, a’i holl lu, a holl deyrnasoedd y ddaear y rhai oedd dan lywodraeth ei law ef, a’r holl bobloedd, yn rhyfela yn erbyn Jerwsalem, ac yn erbyn ei holl ddinasoedd hi, gan ddywedyd, 2Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw Israel; Dos, a llefara wrth Sedeceia brenin Jwda, a dywed wrtho, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Wele fi yn rhoddi y ddinas hon i law brenin Babilon, ac efe a’i llysg hi â thân: 3Ac ni ddihengi dithau o’i law ef, canys diau y’th ddelir, ac y’th roddir i’w law ef; a’th lygaid di a gânt weled llygaid brenin Babilon, a’i enau ef a ymddiddan â’th enau di, a thithau a ei i Babilon. 4Er hynny, O Sedeceia brenin Jwda, gwrando air yr Arglwydd; Fel hyn y dywed yr Arglwydd amdanat ti, Ni byddi di farw trwy y cleddyf: 5Mewn heddwch y byddi farw: a hwy a losgant beraroglau i ti, fel y llosgwyd i’th dadau, y brenhinoedd gynt, y rhai a fu o’th flaen di: a hwy a alarant amdanat ti, gan ddywedyd, O arglwydd! canys myfi a ddywedais y gair, medd yr Arglwydd. 6Yna Jeremeia y proffwyd a lefarodd wrth Sedeceia brenin Jwda yr holl eiriau hyn yn Jerwsalem, 7Pan oedd llu brenin Babilon yn rhyfela yn erbyn Jerwsalem, ac yn erbyn holl ddinasoedd Jwda y rhai a adawsid, yn erbyn Lachis, ac yn erbyn Aseca: canys y dinasoedd caerog hyn a adawsid o ddinasoedd Jwda.
8Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd, wedi i’r brenin Sedeceia wneuthur cyfamod â’r holl bobl oedd yn Jerwsalem, am gyhoeddi iddynt ryddid; 9I ollwng o bob un ei wasanaethwr, a phob un ei wasanaethferch, y rhai fyddent Hebread neu Hebrees, yn rhyddion; ac na cheisiai neb wasanaeth ganddynt, sef gan ei frawd o Iddew. 10A phan glybu yr holl benaethiaid, a’r holl bobl y rhai a aethent i’r cyfamod, am ollwng o bob un ei wasanaethwr a phob un ei wasanaethferch yn rhyddion, fel na cheisient wasanaeth ganddynt mwyach, yna hwy a wrandawsant, ac a’u gollyngasant ymaith. 11Ond wedi hynny yr edifarhaodd arnynt, a hwy a ddygasant yn eu hôl eu gweision a’u morynion, y rhai a ollyngasent yn rhyddion, ac a’u caethiwasant hwy yn weision ac yn forynion.
12Am hynny y daeth gair yr Arglwydd at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd, gan ddywedyd, 13Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel, Mi a wneuthum gyfamod â’ch tadau chwi, y dydd y dygais hwynt allan o dir yr Aifft, o dŷ y caethiwed, gan ddywedyd, 14Ymhen saith mlynedd gollyngwch bob un ei frawd o Hebread, yr hwn a werthwyd i ti, ac a’th wasanaethodd chwe blynedd; gollwng ef yn rhydd oddi wrthyt: ond ni wrandawodd eich tadau arnaf, ac ni ogwyddasant eu clustiau. 15A chwithau a gymerasech edifeirwch heddiw, ac a wnaethech yr hyn oedd uniawn yn fy ngolwg, am gyhoeddi rhyddid bob un i’w gymydog; a chwi a wnaethech gyfamod yn fy ngŵydd i, yn y tŷ y gelwir fy enw arno: 16Ond chwi a ddychwelasoch, ac a halogasoch fy enw, ac a ddygasoch yn eu hôl bob un ei wasanaethwr, a phob un ei wasanaethferch, y rhai a ollyngasech yn rhyddion wrth eu hewyllys eu hun: caethiwasoch hwynt hefyd i fod yn weision ac yn forynion i chwi. 17Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd, Ni wrandawsoch arnaf fi, gan gyhoeddi rhyddid bob un i’w frawd, a phob un i’w gymydog: wele fi yn cyhoeddi i’ch erbyn, medd yr Arglwydd, ryddid i’r cleddyf, i’r haint, ac i’r newyn, ac mi a wnaf eich symud chwi i holl deyrnasoedd y ddaear. 18A mi a roddaf y dynion a droseddodd fy nghyfamod, y rhai ni chwblhasant eiriau y cyfamod a wnaethant ger fy mron, wedi iddynt fyned rhwng rhannau y llo, yr hwn a holltasent yn ddau; 19Tywysogion Jwda, a thywysogion Jerwsalem, yr ystafellyddion, a’r offeiriaid, a holl bobl y wlad y rhai a aethant rhwng rhannau y llo; 20Ie, mi a’u rhoddaf hwynt yn llaw eu gelynion, ac yn llaw y rhai sydd yn ceisio eu heinioes: a’u celain fydd yn fwyd i ehediaid y nefoedd, ac i anifeiliaid y ddaear. 21A mi a roddaf Sedeceia brenin Jwda, a’i dywysogion, i law eu gelynion, ac i law y rhai sydd yn ceisio eu heinioes, ac yn llaw llu brenin Babilon, y rhai a aethant i fyny oddi wrthych. 22Wele, mi a orchmynnaf, medd yr Arglwydd, ac a wnaf iddynt droi yn ôl at y ddinas hon, a hwy a ryfelant yn ei herbyn hi, ac a’i goresgynnant hi, ac a’i llosgant hi â thân: ac mi a wnaf ddinasoedd Jwda yn anghyfannedd heb breswylydd.
Currently Selected:
Jeremeia 34: BWM
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.