YouVersion Logo
Search Icon

Hosea 5

5
1Clywch hyn, chwi offeiriaid; gwrandewch, tŷ Israel; a thŷ y brenin, rhoddwch glust: canys y mae barn tuag atoch, am eich bod yn fagl ar Mispa, ac yn rhwyd wedi ei lledu ar Tabor. 2Y rhai a wyrant i ladd a ânt i’r dwfn, er i mi eu ceryddu hwynt oll. 3Myfi a adwaen Effraim, ac nid yw Israel guddiedig oddi wrthyf: canys yn awr ti, Effraim, a buteiniaist, ac Israel a halogwyd. 4Ni roddant eu gwaith ar droi at eu Duw; am fod ysbryd godineb o’u mewn, ac nid adnabuant yr Arglwydd. 5A balchder Israel a ddwg dystiolaeth yn ei wyneb: am hynny Israel ac Effraim a syrthiant yn eu hanwiredd; Jwda hefyd a syrth gyda hwynt. 6A’u defaid ac â’u gwartheg y deuant i geisio yr Arglwydd; ond nis cânt ef: ciliodd efe oddi wrthynt. 7Yn erbyn yr Arglwydd y buant anffyddlon: canys cenedlasant blant dieithr: mis bellach a’u difa hwynt ynghyd â’u rhannau. 8Cenwch y corn yn Gibea, yr utgorn yn Rama; bloeddiwch yn Beth-afen ar dy ôl di, Benjamin. 9Effraim fydd yn anrhaith yn nydd y cerydd: ymysg llwythau Israel y perais wybod yr hyn fydd yn sicr. 10Bu dywysogion Jwda fel symudwyr terfyn: am hynny y tywalltaf arnynt fy llid fel dwfr. 11Gorthrymwyd Effraim, drylliwyd ef mewn barn, am iddo yn ewyllysgar fyned ar ôl y gorchymyn. 12Am hynny y byddaf fel gwyfyn i Effraim, ac fel pydredd i dŷ Jwda. 13Pan welodd Effraim ei lesgedd, a Jwda ei archoll; yna yr aeth Effraim at yr Asyriad, ac a hebryngodd at frenin Jareb: eto ni allai efe eich meddyginiaethu, na’ch iacháu o’ch archoll. 14Canys mi a fyddaf i Effraim fel llew, ac i dŷ Jwda fel cenau llew: myfi a ysglyfaethaf, ac a af ymaith; dygaf ymaith, ac ni bydd a achubo.
15Af a dychwelaf i’m lle, hyd oni chydnabyddont eu bai, a cheisio fy wyneb: pan fyddo adfyd arnynt, y’m boregeisiant.

Currently Selected:

Hosea 5: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in