YouVersion Logo
Search Icon

Hebreaid 8

8
1A phen ar y pethau a ddywedwyd yw hyn: Y mae gennym y fath Archoffeiriad, yr hwn a eisteddodd ar ddeheulaw gorseddfainc y Mawredd yn y nefoedd; 2Yn Weinidog y gysegrfa, a’r gwir dabernacl, yr hwn a osododd yr Arglwydd, ac nid dyn. 3Canys pob archoffeiriad a osodir i offrymu rhoddion ac aberthau: oherwydd paham rhaid oedd bod gan hwn hefyd yr hyn a offrymai. 4Canys yn wir pe bai efe ar y ddaear, ni byddai yn offeiriad chwaith; gan fod offeiriaid y rhai sydd yn offrymu rhoddion yn ôl y ddeddf: 5Y rhai sydd yn gwasanaethu i siampl a chysgod y pethau nefol, megis y rhybuddiwyd Moses gan Dduw, pan oedd efe ar fedr gorffen y babell: canys, Gwêl, medd efe, ar wneuthur ohonot bob peth yn ôl y portreiad a ddangoswyd i ti yn y mynydd. 6Ond yn awr efe a gafodd weinidogaeth mwy rhagorol, o gymaint ag y mae yn Gyfryngwr cyfamod gwell, yr hwn sydd wedi ei osod ar addewidion gwell. 7Oblegid yn wir pe buasai’r cyntaf hwnnw yn ddifeius, ni cheisiasid lle i’r ail. 8Canys yn beio arnynt hwy y dywed efe, Wele, y mae’r dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, ac mi a wnaf â thŷ Israel ac â thŷ Jwda gyfamod newydd: 9Nid fel y cyfamod a wneuthum â’u tadau hwynt, yn y dydd yr ymeflais yn eu llaw hwynt i’w dwyn hwy o dir yr Aifft: oblegid ni thrigasant hwy yn fy nghyfamod i, minnau a’u hesgeulusais hwythau, medd yr Arglwydd. 10Oblegid hwn yw’r cyfamod a amodaf fi â thŷ Israel ar ôl y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd; Myfi a ddodaf fy nghyfreithiau yn eu meddwl, ac yn eu calonnau yr ysgrifennaf hwynt: a mi a fyddaf iddynt hwy yn Dduw, a hwythau a fyddant i minnau yn bobl: 11Ac ni ddysgant bob un ei gymydog, a phob un ei frawd, gan ddywedyd, Adnebydd yr Arglwydd: oblegid hwynt-hwy oll a’m hadnabyddant i, o’r lleiaf ohonynt hyd y mwyaf ohonynt. 12Canys trugarog fyddaf wrth eu hanghyfiawnderau, a’u pechodau hwynt a’u hanwireddau ni chofiaf ddim ohonynt mwyach. 13Wrth ddywedyd, Cyfamod newydd, efe a farnodd y cyntaf yn hen. Eithr yr hwn a aeth yn hen ac yn oedrannus, sydd agos i ddiflannu.

Currently Selected:

Hebreaid 8: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in