YouVersion Logo
Search Icon

Genesis 5

5
1Dyma lyfr cenedlaethau Adda: yn y dydd y creodd Duw ddyn, ar lun Duw y gwnaeth efe ef. 2Yn wryw ac yn fenyw y creodd efe hwynt: ac efe a’u bendithiodd hwynt, ac a alwodd eu henw hwynt Adda, ar y dydd y crewyd hwynt.
3Ac Adda a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain a chant, ac a genhedlodd fab ar ei lun a’i ddelw ei hun, ac a alwodd ei enw ef Seth. 4A dyddiau Adda, wedi iddo genhedlu Seth, oedd wyth gan mlynedd, ac efe a genhedlodd feibion a merched. 5A holl ddyddiau Adda, y rhai y bu efe fyw, oedd naw can mlynedd a deng mlynedd ar hugain; ac efe a fu farw.
6Seth hefyd a fu fyw bum mlynedd a chan mlynedd, ac a genhedlodd Enos. 7A Seth a fu fyw wedi iddo genhedlu Enos, saith mlynedd ac wyth gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 8A holl ddyddiau Seth oedd ddeuddeng mlynedd a naw can mlynedd; ac efe a fu farw.
9Ac Enos a fu fyw ddeng mlynedd a phedwar ugain, ac a genhedlodd Cenan. 10Ac Enos a fu fyw wedi iddo genhedlu Cenan, bymtheng mlynedd ac wyth gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 11A holl ddyddiau Enos oedd bum mlynedd a naw can mlynedd; ac efe a fu farw.
12Cenan hefyd a fu fyw ddeng mlynedd a thrigain, ac a genhedlodd Mahalaleel. 13A bu Cenan fyw wedi iddo genhedlu Mahalaleel ddeugain mlynedd ac wyth gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 14A holl ddyddiau Cenan oedd ddeng mlynedd a naw can mlynedd; ac efe a fu farw.
15A Mahalaleel a fu fyw bum mlynedd a thrigain mlynedd, ac a genhedlodd Jered. 16A Mahalaleel a fu fyw wedi iddo genhedlu Jered, ddeng mlynedd ar hugain ac wyth gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 17A holl ddyddiau Mahalaleel oedd bymtheng mlynedd a phedwar ugain ac wyth gan mlynedd; ac efe a fu farw.
18A Jered a fu fyw ddwy flynedd a thrigain a chan mlynedd, ac a genhedlodd Enoch. 19A Jered a fu fyw wedi iddo genhedlu Enoch wyth gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 20A holl ddyddiau Jered oedd ddwy flynedd a thrigain a naw can mlynedd; ac efe a fu farw.
21Enoch hefyd a fu fyw bum mlynedd a thrigain, ac a genhedlodd Methwsela. 22Ac Enoch a rodiodd gyda Duw wedi iddo genhedlu Methwsela, dri chant o flynyddoedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 23A holl ddyddiau Enoch oedd bum mlynedd a thrigain a thri chant o flynyddoedd. 24A rhodiodd Enoch gyda Duw, ac ni welwyd ef; canys Duw a’i cymerodd ef.
25Methwsela hefyd a fu fyw saith mlynedd a phedwar ugain a chant, ac a genhedlodd Lamech. 26A Methwsela a fu fyw wedi iddo genhedlu Lamech, ddwy flynedd a phedwar ugain a saith gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 27A holl ddyddiau Methwsela oedd naw mlynedd a thrigain a naw can mlynedd; ac efe a fu farw.
28Lamech hefyd a fu fyw ddwy flynedd a phedwar ugain a chan mlynedd, ac a genhedlodd fab; 29Ac a alwodd ei enw ef Noa, gan ddywedyd, Hwn a’n cysura ni am ein gwaith, a llafur ein dwylo, oherwydd y ddaear yr hon a felltigodd yr Arglwydd. 30A Lamech a fu fyw wedi iddo genhedlu Noa, bymtheng mlynedd a phedwar ugain a phum can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 31A holl ddyddiau Lamech oedd ddwy flynedd ar bymtheg a thrigain a saith gan mlynedd; ac efe a fu farw. 32A Noa ydoedd fab pum can mlwydd; a Noa a genhedlodd Sem, Cham, a Jaffeth.

Currently Selected:

Genesis 5: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in