YouVersion Logo
Search Icon

Genesis 32

32
1A Jacob a gerddodd i’w daith yntau: ac angylion Duw a gyfarfu ag ef. 2A Jacob a ddywedodd, pan welodd hwynt, Dyma wersyll Duw: ac a alwodd enw y lle hwnnw Mahanaim. 3A Jacob a anfonodd genhadau o’i flaen at ei frawd Esau, i wlad Seir, i wlad Edom: 4Ac a orchmynnodd iddynt, gan ddywedyd, Fel hyn y dywedwch wrth fy arglwydd Esau; Fel hyn y dywed dy was di Jacob; Gyda Laban yr ymdeithiais, ac y trigais hyd yn hyn. 5Ac y mae i mi eidionau, ac asynnod, defaid, a gweision, a morynion: ac anfon a wneuthum i fynegi i’m harglwydd, i gael ffafr yn dy olwg.
6A’r cenhadau a ddychwelasant at Jacob, gan ddywedyd, Daethom at dy frawd Esau; ac y mae efe yn dyfod i’th gyfarfod di, a phedwar cant o wŷr gydag ef. 7Yna Jacob a ofnodd yn fawr, a chyfyng oedd arno: ac efe a rannodd y bobl oedd gydag ef, a’r defaid, a’r eidionau, a’r camelod, yn ddwy fintai; 8Ac a ddywedodd, Os daw Esau at y naill fintai, a tharo honno, yna y fintai arall a fydd ddihangol.
9A dywedodd Jacob, O Dduw fy nhad Abraham, a Duw fy nhad Isaac, O Arglwydd, yr hwn a ddywedaist wrthyf, Dychwel i’th wlad, ac at dy genedl, a mi a wnaf ddaioni i ti! 10Ni ryglyddais y lleiaf o’th holl drugareddau di, nac o’r holl wirionedd a wnaethost â’th was: oblegid â’m ffon y deuthum dros yr Iorddonen hon; ond yn awr yr ydwyf yn ddwy fintai. 11Achub fi, atolwg, o law fy mrawd, o law Esau: oblegid yr ydwyf fi yn ei ofni ef, rhag dyfod ohono a’m taro, a’r fam gyda’r plant. 12A thydi a ddywedaist, Gwnaf ddaioni i ti yn ddiau; a’th had di a wnaf fel tywod y môr, yr hwn o amlder ni ellir ei rifo.
13Ac yno y lletyodd efe y noson honno: ac o’r hyn a ddaeth i’w law ef y cymerth efe anrheg i’w frawd Esau; 14Dau gant o eifr, ac ugain o fychod, dau gant o ddefaid, ac ugain o hyrddod, 15Deg ar hugain o gamelod blithion a’u llydnod, deugain o wartheg, a deg o deirw, ugain o asennod, a deg o ebolion. 16Ac efe a roddes yn llaw ei weision bob gyr o’r neilltu; ac a ddywedodd wrth ei weision, Ewch trosodd o’m blaen i, a gosodwch encyd rhwng pob gyr a’i gilydd. 17Ac efe a orchmynnodd i’r blaenaf, gan ddywedyd, Os Esau fy mrawd a’th gyferfydd di, ac a ymofyn â thydi, gan ddywedyd, I bwy y perthyni di? ac i ba le yr ei? ac eiddo pwy yw y rhai hyn o’th flaen di? 18Yna y dywedi, Eiddo dy was Jacob; anrheg yw wedi ei hanfon i’m harglwydd Esau: ac wele yntau hefyd ar ein hôl ni. 19Felly y gorchmynnodd hefyd i’r ail, ac i’r trydydd, ac i’r rhai oll oedd yn canlyn y gyrroedd, gan ddywedyd, Yn y modd hwn y dywedwch wrth Esau, pan gaffoch afael arno. 20A dywedwch hefyd, Wele dy was Jacob ar ein hôl ni. Oblegid (eb efe) bodlonaf ei wyneb ef â’r anrheg sydd yn myned o’m blaen: ac wedi hynny edrychaf yn ei wyneb ef; ond antur efe a dderbyn fy wyneb innau. 21Felly yr anrheg a aeth trosodd o’i flaen ef: ac efe a letyodd y noson honno yn y gwersyll. 22Ac efe a gyfododd y noson honno, ac a gymerth ei ddwy wraig, a’i ddwy lawforwyn, a’i un mab ar ddeg, ac a aeth dros ryd Jabboc. 23Ac a’u cymerth hwynt, ac a’u trosglwyddodd trwy’r afon: felly efe a drosglwyddodd yr hyn oedd ganddo.
24A Jacob a adawyd ei hunan: yna yr ymdrechodd gŵr ag ef nes codi’r wawr. 25A phan welodd na byddai drech nag ef, efe a gyffyrddodd â chyswllt ei forddwyd ef; fel y llaesodd cyswllt morddwyd Jacob, wrth ymdrech ohono ag ef. 26A’r angel a ddywedodd, Gollwng fi ymaith; oblegid y wawr a gyfododd. Yntau a atebodd, Ni’th ollyngaf, oni’m bendithi. 27Hefyd efe a ddywedodd wrtho, Beth yw dy enw? Ac efe a atebodd, Jacob. 28Yntau a ddywedodd, Mwyach ni elwir dy enw di Jacob, ond Israel: oblegid cefaist nerth gyda Duw fel tywysog, a chyda dynion, ac a orchfygaist. 29A Jacob a ymofynnodd, ac a ddywedodd, Mynega, atolwg, dy enw. Ac yntau a atebodd, I ba beth y gofynni hyn am fy enw i? Ac yno efe a’i bendithiodd ef. 30A Jacob a alwodd enw y fan Peniel: oblegid gwelais Dduw wyneb yn wyneb, a dihangodd fy einioes. 31A’r haul a gyfodasai arno fel yr oedd yn myned dros Penuel, ac yr oedd efe yn gloff o’i glun. 32Am hynny plant Israel ni fwytânt y gewyn a giliodd, yr hwn sydd o fewn cyswllt y forddwyd, hyd y dydd hwn: oblegid cyffwrdd â chyswllt morddwyd Jacob ar y gewyn a giliodd.

Currently Selected:

Genesis 32: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in