YouVersion Logo
Search Icon

Genesis 31

31
1Ac efe a glybu eiriau meibion Laban yn dywedyd, Jacob a ddug yr hyn oll oedd i’n tad ni, ac o’r hyn ydoedd i’n tad ni y cafodd efe yr holl anrhydedd hyn. 2Hefyd Jacob a welodd wynepryd Laban, ac wele nid ydoedd tuag ato ef megis cynt. 3A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Jacob, Dychwel i wlad dy dadau, ac at dy genedl; a mi a fyddaf gyda thi. 4A Jacob a anfonodd, ac a alwodd Rahel a Lea i’r maes, at ei braidd, 5Ac a ddywedodd wrthynt, Myfi a welaf wynepryd eich tad chwi, nad yw fel cynt tuag ataf fi: a Duw fy nhad a fu gyda myfi. 6A chwi a wyddoch mai â’m holl allu y gwasanaethais eich tad. 7A’ch tad a’m twyllodd i, ac a newidiodd fy nghyflog i ddengwaith: ond ni ddioddefodd Duw iddo wneuthur i mi ddrwg. 8Os fel hyn y dywedai; Y mân-frithion a fydd dy gyflog di, yna yr holl braidd a epilient fân-frithion: ond os fel hyn y dywedai; Y cylch-frithion a fydd dy gyflog di, yna yr holl braidd a epilient rai cylch-frithion. 9Felly Duw a ddug anifeiliaid eich tad chwi, ac a’u rhoddes i mi. 10Bu hefyd yn amser cyfebru o’r praidd, ddyrchafu ohonof fy llygaid, ac mewn breuddwyd y gwelais, ac wele yr hyrddod, (y rhai oedd yn llamu’r praidd,) yn glych-frithion, yn fân-frithion, ac yn fawr-frithion. 11Ac angel Duw a ddywedodd wrthyf mewn breuddwyd, Jacob. Minnau a atebais, Wele fi. 12Yntau a ddywedodd, Dyrchafa weithian dy lygaid, a gwêl yr holl hyrddod y rhai ydynt yn llamu’r praidd yn gylch-frithion, yn fân-frithion, ac yn fawr-frithion; oblegid gwelais yr hyn oll y mae Laban yn ei wneuthur i ti. 13Myfi yw Duw Bethel, lle yr eneiniaist y golofn, a lle yr addunaist adduned i mi: cyfod bellach, dos allan o’r wlad hon, dychwel i wlad dy genedl dy hun. 14A Rahel a Lea a atebasant, ac a ddywedasant wrtho, A oes eto i ni ran, neu etifeddiaeth yn nhŷ ein tad? 15Onid yn estronesau y cyfrifodd efe nyni? oblegid efe a’n gwerthodd; a chan dreulio a dreuliodd hefyd ein harian ni. 16Canys yr holl olud yr hwn a ddug Duw oddi ar ein tad ni, nyni a’n plant a’i piau: ac yr awr hon yr hyn oll a ddywedodd Duw wrthyt, gwna.
17Yna Jacob a gyfododd, ac a osododd ei feibion a’i wragedd ar gamelod; 18Ac a ddug ymaith ei holl anifeiliaid, a’i holl gyfoeth yr hwn a enillasai, sef ei anifeiliaid meddiannol, y rhai a enillasai efe ym Mesopotamia, i fyned at Isaac ei dad, i wlad Canaan. 19Laban hefyd a aethai i gneifio ei ddefaid: a Rahel a ladratasai’r delwau oedd gan ei thad hi. 20A Jacob a aeth ymaith yn lladradaidd, heb wybod i Laban y Syriad: canys ni fynegodd iddo mai ffoi yr oedd. 21Felly y ffodd efe â’r hyn oll oedd ganddo, ac a gyfododd ac a aeth dros yr afon, ac a gyfeiriodd at fynydd Gilead. 22A mynegwyd i Laban, ar y trydydd dydd, ffoi o Jacob. 23Ac efe a gymerth ei frodyr gydag ef, ac a erlidiodd ar ei ôl ef daith saith niwrnod; ac a’i goddiweddodd ef ym mynydd Gilead. 24A Duw a ddaeth at Laban y Syriad, liw nos, mewn breuddwyd, ac a ddywedodd wrtho, Cadw arnat rhag yngan ohonot wrth Jacob na da na drwg.
25Yna Laban a oddiweddodd Jacob: a Jacob a osododd ei babell yn y mynydd; Laban hefyd a wersyllodd ynghyd â’i frodyr ym mynydd Gilead. 26A Laban a ddywedodd wrth Jacob, Pa beth a wnaethost? oblegid ti a aethost yn lladradaidd oddi wrthyf fi, ac a ddygaist fy merched fel caethion cleddyf. 27Am ba beth y ffoaist yn ddirgel, ac y lladrateaist oddi wrthyf fi, ac ni fynegaist i mi, fel yr hebryngaswn dydi â llawenydd, ac â chaniadau, â thympan, ac â thelyn? 28Ac na adewaist i mi gusanu fy meibion a’m merched? Gwnaethost yr awr hon yn ffôl, gan wneuthur hyn. 29Mae ar fy llaw i wneuthur i chwi ddrwg; ond Duw eich tad a lefarodd wrthyf neithiwr, gan ddywedyd, Cadw arnat rhag yngan wrth Jacob na da na drwg. 30Weithian gan hynny, ti a fynnit fyned ymaith, oblegid gan hiraethu yr hiraethaist am dŷ dy dad. Ond paham y lladrateaist fy nuwiau i? 31A Jacob a atebodd ac a ddywedodd wrth Laban, Am ofni ohonof; oblegid dywedais, Rhag dwyn ohonot dy ferched oddi arnaf trwy drais. 32Gyda’r hwn y ceffych dy dduwiau, na chaffed fyw: gerbron ein brodyr myn wybod pa beth o’r eiddot ti sydd gyda myfi, a chymer i ti: ac nis gwyddai Jacob mai Rahel a’u lladratasai hwynt. 33A Laban a aeth i mewn i babell Jacob, ac i babell Lea, ac i babell y ddwy lawforwyn, ac nis cafodd hwynt: yna yr aeth allan o babell Lea, ac y daeth i babell Rahel. 34A Rahel a gymerasai’r delwau, ac a’u gosodasai hwynt yn offer y camel, ac a eisteddasai arnynt; a Laban a chwiliodd yr holl babell, ac nis cafodd. 35A hi a ddywedodd wrth ei thad, Na ddigied fy arglwydd, am nas gallaf gyfodi ger dy fron di; canys arfer gwragedd a ddigwyddodd i mi: ac efe a chwiliodd, ac ni chafodd y delwau.
36A Jacob a ddigiodd, ac a roes sen i Laban: a Jacob a atebodd ac a ddywedodd wrth Laban, Pa beth yw fy nghamwedd i? pa beth yw fy mhechod, gan erlid ohonot ar fy ôl? 37Gan i ti chwilio fy holl ddodrefn i, pa beth a gefaist o holl ddodrefn dy dŷ di? gosod ef yma gerbron fy mrodyr i a’th frodyr dithau, fel y barnont rhyngom ni ein dau. 38Myfi bellach a fûm ugain mlynedd gyda thi; dy ddefaid a’th eifr ni erthylasant, ac ni fwyteais hyrddod dy braidd. 39Ni ddygais ysglyfaeth atat ti: myfi a’i gwnawn ef yn dda; o’m llaw i y gofynnit hynny, yr hyn a ladrateid y dydd, a’r hyn a ladrateid y nos. 40Bûm y dydd, y gwres a’m treuliodd, a rhew y nos; a’m cwsg a giliodd oddi wrth fy llygaid. 41Felly y bûm i ugain mlynedd yn dy dŷ di: pedair blynedd ar ddeg y gwasanaethais di am dy ddwy ferch, a chwe blynedd am dy braidd; a thi a newidiaist fy nghyflog ddeg o weithiau. 42Oni buasai fod Duw fy nhad, Duw Abraham, ac arswyd Isaac gyda mi, diau yr awr hon y gollyngasit fi ymaith yn waglaw. Duw a welodd fy nghystudd a llafur fy nwylo, ac a’th geryddodd di neithiwr.
43Laban a atebodd ac a ddywedodd wrth Jacob, Y merched hyn ydynt fy merched i, a’r meibion hyn ŷnt fy meibion i, a’r praidd yw fy mhraidd i; a’r hyn oll a weli, eiddo fi yw: a heddiw pa beth a wnaf i’m merched hyn, ac i’w meibion hwynt y rhai a esgorasant? 44Tyred gan hynny yn awr, gwnawn gyfamod, mi a thi; a bydded yn dystiolaeth rhyngof fi a thithau. 45A Jacob a gymerth garreg, ac a’i cododd hi yn golofn. 46Hefyd Jacob a ddywedodd wrth ei frodyr, Cesglwch gerrig: a hwy a gymerasant gerrig, ac a wnaethant garnedd, ac a fwytasant yno ar y garnedd. 47A Laban a’i galwodd hi Jeger-sahadwtha: a Jacob a’i galwodd hi Galeed. 48A Laban a ddywedodd, Y garnedd hon sydd dyst rhyngof fi a thithau heddiw: am hynny y galwodd Jacob ei henw hi Galeed, 49A Mispa; oblegid efe a ddywedodd, Gwylied yr Arglwydd rhyngof fi a thithau, pan fôm ni bob un o olwg ein gilydd. 50Os gorthrymi di fy merched, neu os cymeri wragedd heblaw fy merched i; nid oes neb gyda ni; edrych, Duw sydd dyst rhyngof fi a thithau. 51Dywedodd Laban hefyd wrth Jacob, Wele y garnedd hon, ac wele y golofn hon a osodais rhyngof fi a thi: 52Tyst a fydd y garnedd hon, a thyst a fydd y golofn, na ddeuaf fi dros y garnedd hon atat ti, ac na ddeui dithau dros y garnedd hon na’r golofn hon ataf fi, er niwed. 53Duw Abraham, a Duw Nachor, a farno rhyngom ni, Duw eu tadau hwynt. A Jacob a dyngodd i ofn ei dad Isaac. 54Hefyd Jacob a aberthodd aberth yn y mynydd, ac a alwodd ar ei frodyr i fwyta bara: a hwy a fwytasant fara, ac a drigasant dros nos yn y mynydd. 55A Laban a gyfododd yn fore, ac a gusanodd ei feibion a’i ferched, ac a’u bendithiodd hwynt: felly Laban a aeth ymaith, ac a ddychwelodd i’w fro ei hun.

Currently Selected:

Genesis 31: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in