YouVersion Logo
Search Icon

Eseciel 41

41
1Ac efe a’m dug i i’r deml, ac a fesurodd y pyst yn chwe chufydd o led o’r naill du, ac yn chwe chufydd o led o’r tu arall, fel yr oedd lled y babell. 2Lled y drws hefyd oedd ddeg cufydd; ac ystlysau y drws yn bum cufydd o’r naill du, ac yn bum cufydd o’r tu arall: ac efe a fesurodd ei hyd ef yn ddeugain cufydd, a’r lled yn ugain cufydd. 3Ac efe a aeth tuag i mewn, ac a fesurodd bost y drws yn ddau gufydd, a’r drws yn chwe chufydd, a lled y drws yn saith gufydd. 4Ac efe a fesurodd ei hyd ef yn ugain cufydd; a’r lled yn ugain cufydd o flaen y deml: ac efe a ddywedodd wrthyf, Dyma y cysegr sancteiddiolaf. 5Ac efe a fesurodd bared y tŷ yn chwe chufydd; a lled pob ystlysgell yn bedwar cufydd o amgylch ogylch i’r tŷ. 6A’r celloedd oedd dair, cell ar gell, ac yn ddeg ar hugain o weithiau: ac yr oeddynt yn cyrhaeddyd at bared y tŷ yr hwn oedd i’r ystafelloedd o amgylch ogylch, fel y byddent ynglŷn; ac nid oeddynt ynglŷn o fewn pared y tŷ. 7Ac fe a ehangwyd, ac oedd yn myned ar dro uwch uwch i’r celloedd: oherwydd tro y tŷ oedd yn myned i fyny o amgylch y tŷ: am hynny y tŷ oedd ehangach oddi arnodd; ac felly y dringid o’r isaf i’r uchaf trwy y ganol. 8Gwelais hefyd uchder y tŷ o amgylch ogylch: seiliau y celloedd oedd gorsen helaeth o chwe chufydd mawrion. 9A thewder y mur yr hwn oedd i’r gell o’r tu allan, oedd bum cufydd; a’r gweddill oedd le i’r celloedd y rhai oedd o fewn. 10A rhwng yr ystafelloedd yr oedd lled ugain cufydd ynghylch y tŷ o amgylch ogylch. 11A drysau yr ystlysgell oedd tua’r llannerch weddill; un drws tua’r gogledd, ac un drws tua’r deau: a lled y fan a weddillasid oedd bum cufydd o amgylch ogylch. 12A’r adeiladaeth yr hon oedd o flaen y llannerch neilltuol, ar y cwr tua’r gorllewin, oedd ddeg cufydd a thrigain o led; a mur yr adeiladaeth oedd bum cufydd o dewder o amgylch ogylch, a’i hyd oedd ddeg cufydd a phedwar ugain. 13Ac efe a fesurodd y tŷ, yn gan cufydd o hyd; a’r llannerch neilltuol, a’r adeiladaeth, a’i pharwydydd, yn gan cufydd o hyd. 14A lled wyneb y tŷ, a’r llannerch neilltuol tua’r dwyrain, oedd gan cufydd. 15Ac efe a fesurodd hyd yr adeiladaeth ar gyfer y llannerch neilltuol yr hon oedd o’r tu cefn iddo, a’i ystafelloedd o’r naill du, ac o’r tu arall, yn gan cufydd, gyda’r deml oddi fewn, a drysau y cyntedd. 16Y gorsingau, a’r ffenestri cyfyng, a’r ystafelloedd o amgylch ar eu tri uchder, ar gyfer y rhiniog a ystyllenasid â choed o amgylch ogylch, ac o’r llawr hyd y ffenestri, a’r ffenestri hefyd a ystyllenasid; 17Hyd uwchben y drws, a hyd y tŷ o fewn ac allan, ac ar yr holl bared o amgylch ogylch o fewn ac allan, wrth fesurau. 18A cheriwbiaid hefyd ac â phalmwydd y gweithiasid ef, palmwydden rhwng pob dau geriwb: a dau wyneb oedd i bob ceriwb. 19Canys wyneb dyn oedd tua’r balmwydden o’r naill du, ac wyneb llew tua’r balmwydden o’r tu arall: yr oedd wedi ei weithio ar hyd y tŷ o amgylch ogylch. 20Ceriwbiaid a phalmwydd a weithiasid o’r ddaear hyd oddi ar y drws, ac ar bared y deml. 21Pedwar ochrog oedd pyst y deml, ac wyneb y cysegr; gwelediad y naill fel gwelediad y llall. 22Yr allor bren oedd dri chufydd ei huchder, a’i hyd yn ddau gufydd: a’i chonglau, a’i huchder, a’i pharwydydd, oedd o bren. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Dyma y bwrdd sydd gerbron yr Arglwydd. 23Ac yr ydoedd dau ddrws i’r deml ac i’r cysegr: 24A dwy ddôr i’r drysau, sef dwy ddôr blygedig; dwy ddôr i’r naill ddrws, a dwy ddôr i’r llall. 25A gwnaethid arnynt, ar ddrysau y deml, geriwbiaid a phalmwydd, fel y gwnaethid ar y parwydydd: ac yr oedd trawstiau coed ar wyneb y cyntedd o’r tu allan. 26Ffenestri cyfyng hefyd a phalmwydd oedd o bob tu, ar ystlysau y porth, ac ar ystafelloedd y tŷ, a’r trawstiau.

Currently Selected:

Eseciel 41: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in