YouVersion Logo
Search Icon

Eseciel 28

28
1Daeth gair yr Arglwydd ataf drachefn, gan ddywedyd, 2Ha fab dyn, dywed wrth dywysog Tyrus, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Am falchïo dy galon, a dywedyd ohonot, Duw ydwyf fi, eistedd yr ydwyf yn eisteddfa Duw yng nghanol y moroedd; a thi yn ddyn, ac nid yn Dduw, er gosod ohonot dy galon fel calon Duw: 3Wele di yn ddoethach na Daniel; ni chuddir dim dirgelwch oddi wrthyt: 4Trwy dy ddoethineb a’th ddeallgarwch y cefaist gyfoeth i ti, ie, y cefaist aur ac arian i’th drysorau: 5Trwy dy fawr ddoethineb ac wrth dy farchnadaeth yr amlheaist dy gyfoeth, a’th galon a falchïodd oherwydd dy gyfoeth: 6Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Am osod ohonot dy galon fel calon Duw, 7Oherwydd hynny wele fi yn dwyn i’th erbyn ddieithriaid, y trawsaf o’r cenhedloedd; a thynnant eu cleddyfau ar degwch dy ddoethineb, a halogant dy loywder. 8Disgynnant di i’r ffos, a byddi farw o farwolaeth yr archolledig yng nghanol y môr. 9Gan ddywedyd a ddywedi di o flaen dy leiddiad, Duw ydwyf fi? a thi a fyddi yn ddyn, ac nid yn Dduw, yn llaw dy leiddiad. 10Byddi farw o farwolaeth y dienwaededig, trwy law dieithriaid: canys myfi a’i dywedais, medd yr Arglwydd Dduw.
11Gair yr Arglwydd a ddaeth ataf drachefn, gan ddywedyd, 12Cyfod, fab dyn, alarnad am frenin Tyrus, a dywed wrtho, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Ti seliwr nifer, llawn o ddoethineb, a chyflawn o degwch, 13Ti a fuost yn Eden, gardd Duw: pob maen gwerthfawr a’th orchuddiai, sardius, topas, ac adamant, beryl, onics, a iasbis, saffir, rubi, a smaragdus, ac aur: gwaith dy dympanau a’th bibellau a baratowyd ynot ar y dydd y’th grewyd. 14Ceriwb eneiniog ydwyt yn gorchuddio; ac felly y’th roddaswn; oeddit ar sanctaidd fynydd Duw: ymrodiaist yng nghanol y cerrig tanllyd. 15Perffaith oeddit ti yn dy ffyrdd er y dydd y’th grewyd, hyd oni chaed ynot anwiredd. 16Yn amlder dy farchnadaeth y llanwasant dy ganol â thrais, a thi a bechaist: am hynny y’th halogaf allan o fynydd Duw, ac y’th ddifethaf di, geriwb yn gorchuddio, o ganol y cerrig tanllyd. 17Balchïodd dy galon yn dy degwch, llygraist dy ddoethineb oherwydd dy loywder: bwriaf di i’r llawr; o flaen brenhinoedd y’th osodaf, fel yr edrychont arnat. 18Trwy amlder dy anwiredd, ag anwiredd dy farchnadaeth, yr halogaist dy gysegroedd: am hynny y dygaf dân allan o’th ganol, hwnnw a’th ysa; a gwnaf di yn lludw ar y ddaear yng ngolwg pawb a’th welant. 19Y rhai a’th adwaenant oll ymysg y bobloedd, a synnant o’th achos: dychryn fyddi, ac ni byddi byth.
20Yna gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd, 21Gosod, fab dyn, dy wyneb yn erbyn Sidon, a phroffwyda yn ei herbyn hi, 22A dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi i’th erbyn, Sidon; fel y’m gogonedder yn dy ganol, ac y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd, pan wnelwyf ynddi farnedigaethau, ac y’m sancteiddier ynddi. 23Canys anfonaf iddi haint, a gwaed i’w heolydd; a bernir yr archolledig o’i mewn â’r cleddyf, yr hwn fydd arni oddi amgylch; a chânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd.
24Ac ni bydd mwy i dŷ Israel, o’r holl rai o’u hamgylch a’r a’u dirmygasant, ysbyddaden bigog, na draenen ofidus; a chânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd Dduw. 25Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Pan gasglwyf dŷ Israel o fysg y bobloedd y rhai y gwasgarwyd hwy yn eu plith, ac yr ymsancteiddiwyf ynddynt yng ngolwg y cenhedloedd; yna y trigant yn eu gwlad a roddais i’m gwas Jacob. 26Ie, trigant ynddi yn ddiogel, ac adeiladant dai, a phlannant winllannoedd; a phreswyliant mewn diogelwch, pan wnelwyf farnedigaethau â’r rhai oll a’u dirmygant hwy o’u hamgylch; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd eu Duw.

Currently Selected:

Eseciel 28: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in