YouVersion Logo
Search Icon

Deuteronomium 34

34
1A Moses a esgynnodd o rosydd Moab, i fynydd Nebo, i ben Pisga, yr hwn sydd ar gyfer Jericho: a’r Arglwydd a ddangosodd iddo holl wlad Gilead, hyd Dan, 2A holl Nafftali, a thir Effraim a Manasse, a holl dir Jwda, hyd y môr eithaf, 3Y deau hefyd, a gwastadedd dyffryn Jericho, a dinas y palmwydd, hyd Soar. 4A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Dyma’r tir a fynegais i Abraham, i Isaac, ac i Jacob, gan ddywedyd, I’th had di y rhoddaf ef; perais i ti ei weled â’th lygaid, ond nid ei di drosodd yno.
5A Moses gwas yr Arglwydd a fu farw yno, yn nhir Moab, yn ôl gair yr Arglwydd. 6Ac efe a’i claddodd ef mewn glyn yn nhir Moab, gyferbyn â Beth-peor: ac nid edwyn neb ei fedd ef hyd y dydd hwn.
7A Moses ydoedd fab ugain mlwydd a chant pan fu efe farw: ni thywyllasai ei lygad, ac ni chiliasai ei ireidd-dra ef.
8A meibion Israel a wylasant am Moses yn rhosydd Moab ddeng niwrnod ar hugain: a chyflawnwyd dyddiau wylofain galar am Moses.
9A Josua mab Nun oedd gyflawn o ysbryd doethineb; oherwydd Moses a roddasai ei ddwylo arno: a meibion Israel a wrandawsant arno, ac a wnaethant fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.
10Ac ni chododd proffwyd eto yn Israel megis Moses, yr hwn a adnabu yr Arglwydd wyneb yn wyneb; 11Ym mhob rhyw arwyddion a rhyfeddodau, y rhai yr anfonodd yr Arglwydd ef i’w gwneuthur yn nhir yr Aifft, ar Pharo, ac ar ei holl weision, ac ar ei holl dir ef, 12Ac yn yr holl law gadarn, ac yn yr holl ofn mawr, y rhai a wnaeth Moses yng ngolwg holl Israel.

Currently Selected:

Deuteronomium 34: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in