YouVersion Logo
Search Icon

Deuteronomium 32

32
1Gwrandewch, y nefoedd, a llefaraf; a chlywed y ddaear eiriau fy ngenau. 2Fy athrawiaeth a ddefnynna fel glaw: fy ymadrodd a ddifera fel gwlith; fel gwlithlaw ar irwellt, ac fel cawodydd ar laswellt. 3Canys enw yr Arglwydd a gyhoeddaf fi: rhoddwch fawredd i’n Duw ni. 4Efe yw y Graig; perffaith yw ei weithred; canys ei holl ffyrdd ydynt farn: Duw gwirionedd, a heb anwiredd, cyfiawn ac uniawn yw efe. 5Y genhedlaeth ŵyrog a throfaus a ymlygrodd yn ei erbyn trwy eu bai, heb fod yn blant iddo ef. 6Ai hyn a delwch i’r Arglwydd, bobl ynfyd ac angall? onid efe yw dy dad a’th brynwr? onid efe a’th wnaeth, ac a’th sicrhaodd?
7Cofia y dyddiau gynt; ystyriwch flynyddoedd cenhedlaeth a chenhedlaeth: gofyn i’th dad, ac efe a fynega i ti; i’th henuriaid, a hwy a ddywedant wrthyt. 8Pan gyfrannodd y Goruchaf etifeddiaeth y cenhedloedd, pan neilltuodd efe feibion Adda, y gosododd efe derfynau y bobloedd yn ôl rhifedi meibion Israel. 9Canys rhan yr Arglwydd yw ei bobl; Jacob yw rhan ei etifeddiaeth ef. 10Efe a’i cafodd ef mewn tir anial, ac mewn diffeithwch gwag erchyll: arweinioddef o amgylch, a pharodd iddo ddeall, a chadwodd ef fel cannwyll ei lygad. 11Fel y cyfyd eryr ei nyth, y castella dros ei gywion, y lleda ei esgyll, y cymer hwynt, ac a’u dwg ar ei adenydd; 12Felly yr Arglwydd yn unig a’i harweiniodd yntau, ac nid oedd duw dieithr gydag ef. 13Gwnaeth iddo farchogaeth ar uchelder y ddaear, a bwyta cnwd y maes, a sugno mêl o’r graig, ac olew o’r graig gallestr; 14Ymenyn gwartheg, a llaeth defaid, ynghyd â braster ŵyn, a hyrddod o rywogaeth Basan, a bychod, ynghyd â braster grawn gwenith, a phurwaed grawnwin a yfaist.
15A’r uniawn a aeth yn fras, ac a wingodd; braseaist, tewychaist, pwyntiaist: yna efe a wrthododd Dduw, yr hwn a’i gwnaeth, ac a ddiystyrodd Graig ei iachawdwriaeth. 16A dieithr dduwiau y gyrasant eiddigedd arno; â ffieidd-dra y digiasant ef. 17Aberthasant i gythreuliaid, nid i Dduw; i dduwiau nid adwaenent, i rai newydd diweddar, y rhai nid ofnodd eich tadau. 18Y Graig a’th genhedlodd a anghofiaist ti, a’r Duw a’th luniodd a ollyngaist ti dros gof. 19Yna y gwelodd yr Arglwydd, ac a’u ffieiddiodd hwynt; oherwydd ei ddigio gan ei feibion, a’i ferched. 20Ac efe a ddywedodd, Cuddiaf fy wyneb oddi wrthynt, edrychaf beth fydd eu diwedd hwynt: canys cenhedlaeth drofaus ydynt hwy, meibion heb ffyddlondeb ynddynt. 21Hwy a yrasant eiddigedd arnaf â’r peth nid oedd Dduw; digiasant fi â’u hoferedd: minnau a yrraf eiddigedd arnynt hwythau â’r rhai nid ydynt bobl; â chenedl ynfyd y digiaf hwynt. 22Canys tân a gyneuwyd yn fy nig, ac a lysg hyd uffern isod, ac a ddifa y tir a’i gynnyrch, ac a wna i sylfeini’r mynyddoedd ffaglu. 23Casglaf ddrygau arnynt; treuliaf fy saethau arnynt. 24Llosgedig fyddant gan newyn, ac wedi eu bwyta gan wres poeth, a chwerw ddinistr: anfonaf hefyd arnynt ddannedd bwystfilod, ynghyd â gwenwyn seirff y llwch. 25Y cleddyf oddi allan, a dychryn oddi fewn, a ddifetha y gŵr ieuanc a’r wyry hefyd, y plentyn sugno ynghyd â’r gŵr briglwyd. 26Dywedais, Gwasgaraf hwynt i gonglau, paraf i’w coffadwriaeth ddarfod o fysg dynion; 27Oni bai i mi ofni dig y gelyn, rhag i’w gwrthwynebwyr ymddwyn yn ddieithr, a rhag dywedyd ohonynt, Ein llaw uchel ni, ac nid yr Arglwydd, a wnaeth hyn oll. 28Canys cenedl heb gyngor ydynt hwy, ac heb ddeall ynddynt. 29O na baent ddoethion, na ddeallent hyn, nad ystyrient eu diwedd! 30Pa fodd yr ymlidiai un fil, ac y gyrrai dau ddengmil i ffoi, onid am werthu o’u Craig hwynt, a chau o’r Arglwydd arnynt? 31Canys nid fel ein Craig ni y mae eu craig hwynt; a bydded ein gelynion yn farnwyr. 32Canys o winwydden Sodom, ac o feysydd Gomorra, y mae eu gwinwydden hwynt: eu grawnwin hwynt sydd rawnwin bustlaidd; grawnsypiau chwerwon sydd iddynt. 33Gwenwyn dreigiau yw eu gwin hwynt, a chreulon wenwyn asbiaid. 34Onid yw hyn yng nghudd gyda myfi, wedi ei selio ymysg fy nhrysorau? 35I mi y perthyn dial, a thalu’r pwyth; mewn pryd y llithr eu troed hwynt: canys agos yw dydd eu trychineb, a phrysuro y mae yr hyn a baratowyd iddynt. 36Canys yr Arglwydd a farna ei bobl, ac a edifarha am ei weision; pan welo ymado o’u nerth, ac nad oes na gwarchaeëdig, na gweddilledig. 37Ac efe a ddywed, Pa le y mae eu duwiau hwynt, a’r graig yr ymddiriedasant ynddi, 38Y rhai a fwytasant fraster eu haberthau, ac a yfasant win eu diod-offrwm? codant a chynorthwyant chwi, a byddant loches i chwi. 39Gwelwch bellach mai myfi, myfi yw efe; ac nad oes duw ond myfi: myfi sydd yn lladd, ac yn bywhau; myfi a archollaf, ac mi a feddyginiaethaf: ac ni bydd a achubo o’m llaw. 40Canys codaf fy llaw i’r nefoedd, a dywedaf, Mi a fyddaf fyw byth. 41Os hogaf fy nghleddyf disglair, ac ymaflyd o’m llaw mewn barn; dychwelaf ddial ar fy ngelynion, a thalaf y pwyth i’m caseion. 42Meddwaf fy saethau â gwaed, (a’m cleddyf a fwyty gig,) â gwaed y lladdedig a’r caeth, o ddechrau dial ar y gelyn. 43Y cenhedloedd, llawenhewch gyda’i bobl ef: canys efe a ddial waed ei weision, ac a ddychwel ddial ar ei elynion, ac a drugarha wrth ei dir a’i bobl ei hun.
44A daeth Moses ac a lefarodd holl eiriau y gân hon lle y clybu’r bobl, efe a Josua mab Nun. 45A darfu i Moses lefaru yr holl eiriau hyn wrth holl Israel: 46A dywedodd wrthynt, Meddyliwch yn eich calonnau am yr holl eiriau yr ydwyf yn eu tystiolaethu wrthych heddiw; y rhai a orchmynnwch i’ch plant, i edrych am wneuthur holl eiriau y gyfraith hon. 47Canys nid gair ofer yw hwn i chwi: oherwydd eich einioes chwi yw efe; a thrwy y gair hwn yr estynnwch ddyddiau yn y tir yr ydych yn myned iddo dros yr Iorddonen i’w feddiannu.
48A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses yng nghorff y dydd hwnnw, gan ddywedyd, 49Esgyn i’r mynydd Abarim hwn, sef mynydd Nebo, yr hwn sydd yn nhir Moab, ar gyfer Jericho; ac edrych ar wlad Canaan, yr hon yr ydwyf fi yn ei rhoddi i feibion Israel yn etifeddiaeth. 50A bydd farw yn y mynydd yr esgynni iddo, a chasgler di at dy bobl, megis y bu farw Aaron dy frawd ym mynydd Hor, ac y casglwyd ef at ei bobl: 51Oherwydd gwrthryfelasoch i’m herbyn ymysg meibion Israel, wrth ddyfroedd cynnen Cades, yn anialwch Sin; oblegid ni’m sancteiddiasoch ymhlith meibion Israel. 52Canys y wlad a gei di ei gweled ar dy gyfer; ond yno nid ei, i’r tir yr ydwyf fi yn ei roddi i feibion Israel.

Currently Selected:

Deuteronomium 32: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in