Actau’r Apostolion 17
17
1Gwedi iddynt dramwy trwy Amffipolis ac Apolonia, hwy a ddaethant i Thesalonica, lle yr oedd synagog i’r Iddewon. 2A Phaul, yn ôl ei arfer, a aeth i mewn atynt, a thros dri Saboth a ymresymodd â hwynt allan o’r ysgrythurau, 3Gan egluro a dodi ger eu bronnau, mai rhaid oedd i Grist ddioddef, a chyfodi oddi wrth y meirw; ac mai hwn yw’r Crist Iesu, yr hwn yr wyf fi yn ei bregethu i chwi. 4A rhai ohonynt a gredasant, ac a ymwasgasant â Phaul a Silas, ac o’r Groegwyr crefyddol liaws mawr, ac o’r gwragedd pennaf nid ychydig.
5Eithr yr Iddewon y rhai oedd heb gredu, gan genfigennu, a gymerasant atynt ryw ddynion drwg o grwydriaid; ac wedi casglu tyrfa, hwy a wnaethant gyffro yn y ddinas, ac a osodasant ar dŷ Jason, ac a geisiasant eu dwyn hwynt allan at y bobl. 6A phan na chawsant hwynt, hwy a lusgasant Jason, a rhai o’r brodyr, at benaethiaid y ddinas, gan lefain, Y rhai sydd yn aflonyddu’r byd, y rhai hynny a ddaethant yma hefyd; 7Y rhai a dderbyniodd Jason: ac y mae’r rhai hyn oll yn gwneuthur yn erbyn ordeiniadau Cesar, gan ddywedyd fod brenin arall, sef Iesu. 8A hwy a gyffroesant y dyrfa, a llywodraethwyr y ddinas hefyd, wrth glywed y pethau hyn. 9Ac wedi iddynt gael sicrwydd gan Jason a’r lleill, hwy a’u gollyngasant hwynt ymaith.
10A’r brodyr yn ebrwydd o hyd nos a anfonasant Paul a Silas i Berea: y rhai wedi eu dyfod yno, a aethant i synagog yr Iddewon. 11Y rhai hyn oedd foneddigeiddiach na’r rhai oedd yn Thesalonica, y rhai a dderbyniasant y gair gyda phob parodrwydd meddwl, gan chwilio beunydd yr ysgrythurau, a oedd y pethau hyn felly. 12Felly llawer ohonynt a gredasant, ac o’r Groegesau parchedig, ac o wŷr, nid ychydig. 13A phan wybu’r Iddewon o Thesalonica fod gair Duw yn ei bregethu gan Paul yn Berea hefyd, hwy a ddaethant yno hefyd, gan gyffroi’r dyrfa. 14Ac yna yn ebrwydd y brodyr a anfonasant Paul ymaith, i fyned megis i’r môr: ond Silas a Thimotheus a arosasant yno. 15A chyfarwyddwyr Paul a’i dygasant ef hyd Athen; ac wedi derbyn gorchymyn at Silas a Thimotheus, ar iddynt ddyfod ato ar ffrwst, hwy a aethant ymaith.
16A thra ydoedd Paul yn aros amdanynt yn Athen, ei ysbryd a gynhyrfwyd ynddo, wrth weled y ddinas wedi ymroi i eilunod. 17Oherwydd hynny yr ymresymodd efe yn y synagog â’r Iddewon, ac â’r rhai crefyddol, ac yn y farchnad beunydd â’r rhai a gyfarfyddent ag ef. 18A rhai o’r philosophyddion o’r Epicuriaid, ac o’r Stoiciaid, a ymddadleuasant ag ef; a rhai a ddywedasant, Beth a fynnai’r siaradwr hwn ei ddywedyd? a rhai, Tebyg yw ei fod ef yn mynegi duwiau dieithr: am ei fod yn pregethu’r Iesu, a’r atgyfodiad, iddynt. 19A hwy a’i daliasant ef, ac a’i dygasant i Areopagus, gan ddywedyd, A allwn ni gael gwybod beth yw’r ddysg newydd hon, a draethir gennyt? 20Oblegid yr wyt ti yn dwyn rhyw bethau dieithr i’n clustiau ni: am hynny ni a fynnem wybod beth a allai’r pethau hyn fod. 21(A’r holl Atheniaid, a’r dieithriaid y rhai oedd yn ymdeithio yno, nid oeddynt yn cymryd hamdden i ddim arall, ond i ddywedyd neu i glywed rhyw newydd.)
22Yna y safodd Paul yng nghanol Areopagus, ac a ddywedodd, Ha wŷr Atheniaid, mi a’ch gwelaf chwi ym mhob peth yn dra choelgrefyddol: 23Canys wrth ddyfod heibio, ac edrych ar eich defosiynau, mi a gefais allor yn yr hon yr ysgrifenasid, I’R DUW NID ADWAENIR. Yr hwn gan hynny yr ydych chwi heb ei adnabod yn ei addoli, hwnnw yr wyf fi yn ei fynegi i chwi. 24Y Duw a wnaeth y byd, a phob peth sydd ynddo, gan ei fod yn Arglwydd nef a daear, nid yw yn trigo mewn temlau o waith dwylo: 25Ac nid â dwylo dynion y gwasanaethir ef, fel pe bai arno eisiau dim; gan ei fod ef yn rhoddi i bawb fywyd, ac anadl, a phob peth oll. 26Ac efe a wnaeth o un gwaed bob cenedl o ddynion, i breswylio ar holl wyneb y ddaear, ac a bennodd yr amseroedd rhagosodedig, a therfynau eu preswylfod hwynt; 27Fel y ceisient yr Arglwydd, os gallent ymbalfalu amdano ef, a’i gael, er nad yw efe yn ddiau nepell oddi wrth bob un ohonom: 28Oblegid ynddo ef yr ydym ni yn byw, yn symud, ac yn bod; megis y dywedodd rhai o’ch poëtau chwi eich hunain, Canys ei hiliogaeth ef hefyd ydym ni. 29Gan ein bod ni gan hynny yn hiliogaeth Duw, ni ddylem ni dybied fod y Duwdod yn debyg i aur, neu arian, neu faen, o gerfiad celfyddyd a dychymyg dyn. 30A Duw, wedi esgeuluso amseroedd yr anwybodaeth hon, sydd yr awron yn gorchymyn i bob dyn ym mhob man edifarhau: 31Oherwydd iddo osod diwrnod yn yr hwn y barna efe y byd mewn cyfiawnder, trwy y gŵr a ordeiniodd efe; gan roddi ffydd i bawb, oherwydd darfod iddo ei gyfodi ef oddi wrth y meirw.
32A phan glywsant sôn am atgyfodiad y meirw, rhai a watwarasant; a rhai a ddywedasant, Ni a’th wrandawn drachefn am y peth hwn. 33Ac felly Paul a aeth allan o’u plith hwynt. 34Eithr rhai gwŷr a lynasant wrtho, ac a gredasant: ymhlith y rhai yr oedd Dionysius yr Areopagiad, a gwraig a’i henw Damaris, ac eraill gyda hwynt.
Currently Selected:
Actau’r Apostolion 17: BWM
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.