YouVersion Logo
Search Icon

2 Samuel 14

14
1Yna Joab mab Serfia a wybu fod calon y brenin tuag at Absalom. 2A Joab a anfonodd i Tecoa, ac a gyrchodd oddi yno wraig ddoeth, ac a ddywedodd wrthi, Cymer arnat, atolwg, alaru, a gwisg yn awr alarwisg, ac nac ymira ag olew, eithr bydd fel gwraig yn galaru er ys llawer o ddyddiau am y marw: 3A thyred at y brenin, a llefara wrtho yn ôl yr ymadrodd hyn. A Joab a osododd yr ymadroddion yn ei genau hi.
4A’r wraig o Tecoa, pan ddywedodd wrth y brenin, a syrthiodd i lawr ar ei hwyneb, ac a ymgrymodd, ac a ddywedodd, Cynorthwya, O frenin. 5A dywedodd y brenin wrthi hi, Beth a ddarfu i ti? A hi a ddywedodd, Yn wir gwraig weddw ydwyf fi, a’m gŵr a fu farw. 6Ac i’th lawforwyn yr oedd dau fab, a hwynt ill dau a ymrysonasant yn y maes; ond nid oedd athrywynwr rhyngddynt hwy; ond y naill a drawodd y llall, ac a’i lladdodd ef. 7Ac wele, yr holl dylwyth a gyfododd yn erbyn dy lawforwyn, a hwy a ddywedasant, Dyro yr hwn a drawodd ei frawd, fel y lladdom ni ef, am einioes ei frawd a laddodd efe; ac y difethom hefyd yr etifedd: felly y diffoddent fy marworyn, yr hwn a adawyd, heb adael i’m gŵr nac enw nac epil ar wyneb y ddaear. 8A’r brenin a ddywedodd wrth y wraig, Dos i’th dŷ; a mi a roddaf orchymyn o’th blegid di. 9A’r wraig o Tecoa a ddywedodd wrth y brenin, Bydded y camwedd hwn arnaf fi, fy arglwydd frenin, ac ar dŷ fy nhad i, a’r brenin a’i orseddfainc ef yn ddieuog. 10A’r brenin a ddywedodd, Dwg ataf fi yr hwn a yngano wrthyt, ac ni chaiff mwyach gyffwrdd â thi. 11Yna hi a ddywedodd, Cofied, atolwg, y brenin dy Arglwydd Dduw, rhag amlhau dialwyr y gwaed i ddistrywio, a rhag difetha ohonynt hwy fy mab i. Ac efe a ddywedodd, Fel mai byw yr Arglwydd, ni syrth un o wallt pen dy fab di i lawr. 12Yna y dywedodd y wraig, Atolwg, gad i’th lawforwyn ddywedyd gair wrth fy arglwydd frenin. Yntau a ddywedodd, Dywed. 13A’r wraig a ddywedodd, Paham gan hynny y meddyliaist fel hyn yn erbyn pobl Dduw? canys y mae’r brenin yn llefaru y gair hwn megis un beius, gan na ddug y brenin adref ei herwr. 14Canys gan farw yr ydym ni yn marw, ac ydym fel dyfroedd wedi eu tywallt ar y ddaear, y rhai ni chesglir: gan na ddug Duw ei einioes, efe a feddyliodd foddion, fel na yrrer ymaith ei herwr oddi wrtho. 15Ac yn awr mi a ddeuthum i ymddiddan â’m harglwydd frenin am y peth hyn, oblegid i’r bobl fy nychrynu i: am hynny y dywedodd dy lawforwyn, Ymddiddanaf yn awr â’r brenin; ond odid fe a wna y brenin ddymuniad ei lawforwyn. 16Canys y brenin a wrendy, fel y gwaredo efe ei lawforwyn o law y gŵr a fynnai fy nifetha i a’m mab hefyd o etifeddiaeth Dduw. 17A’th lawforwyn a ddywedodd, Bydded, atolwg, gair fy arglwydd frenin yn gysur: canys fel angel Duw yw fy Arglwydd frenin, i wrando’r da a’r drwg: a’r Arglwydd dy Dduw fydd gyda thi. 18Yna yr atebodd y brenin, ac y dywedodd wrth y wraig, Na chela, atolwg, oddi wrthyf fi y peth yr ydwyf yn ei ofyn i ti. A dywedodd y wraig, Llefared yn awr fy arglwydd frenin. 19A’r brenin a ddywedodd, A ydyw llaw Joab gyda thi yn hyn oll? A’r wraig a atebodd ac a ddywedodd, Fel mai byw dy enaid di, fy arglwydd frenin, nid gwiw troi ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy oddi wrth yr hyn oll a ddywedodd fy arglwydd frenin: canys dy was Joab a orchmynnodd i mi, ac a osododd yr holl eiriau hyn yng ngenau dy lawforwyn: 20Ar fedr troi’r chwedl y gwnaeth dy was Joab y peth hyn: ond fy arglwydd sydd ddoeth, fel doethineb angel Duw, i wybod yr hyn oll sydd ar y ddaear.
21A’r brenin a ddywedodd wrth Joab, Wele yn awr, gwneuthum y peth hyn: dos, a dwg y llanc Absalom yn ei ôl. 22A Joab a syrthiodd i lawr ar ei wyneb, ac a ymgrymodd, ac a fendithiodd y brenin. A Joab a ddywedodd, Heddiw y gwybu dy was di gael ohonof ffafr yn dy olwg di, fy arglwydd frenin, am i’r brenin gyflawni dymuniad ei was. 23A Joab a gyfododd, ac a aeth i Gesur, ac a ddug Absalom i Jerwsalem. 24A’r brenin a ddywedodd, Troed i’w dŷ ei hun; ac nac edryched yn fy wyneb i. Felly Absalom a drodd i’w dŷ ei hun, ac ni welodd wyneb y brenin.
25Ac nid oedd ŵr mor glodfawr am ei degwch ag Absalom o fewn holl Israel: o wadn ei droed hyd ei gorun nid oedd wrthuni ynddo ef. 26A phan gneifiai efe ei ben, (canys un waith yn y flwyddyn y torrai efe ei wallt: oherwydd ei fod yn drwm arno, am hynny efe a’i torrai ef;) efe a bwysai wallt ei ben yn ddau can sicl, wrth bwys y brenin. 27A thri mab a anwyd i Absalom, ac un ferch, a’i henw hi oedd Tamar: yr oedd hi yn wraig deg yr olwg.
28Felly Absalom a drigodd ddwy flynedd gyfan yn Jerwsalem, ac ni welodd wyneb y brenin. 29Am hynny Absalom a ddanfonodd am Joab, i’w anfon ef at y brenin; ond ni ddeuai efe ato ef: ac efe a anfonodd eto yr ail waith, ond ni ddeuai efe ddim. 30Am hynny efe a ddywedodd wrth ei weision, Gwelwch randir Joab ger fy llaw i, a haidd sydd ganddo ef yno; ewch a llosgwch hi â thân. A gweision Absalom a losgasant y rhandir â thân. 31Yna Joab a gyfododd, ac a ddaeth at Absalom i’w dŷ, ac a ddywedodd wrtho, Paham y llosgodd dy weision di fy rhandir i â thân? 32Ac Absalom a ddywedodd wrth Joab, Wele, mi a anfonais atat ti, gan ddywedyd, Tyred yma, fel y’th anfonwyf at y brenin, i ddywedyd, I ba beth y deuthum i o Gesur? gwell fuasai i mi fy mod yno eto: ac yn awr gadawer i mi weled wyneb y brenin; ac od oes gamwedd ynof, lladded fi. 33Yna Joab a ddaeth at y brenin, ac a fynegodd iddo ef. Ac efe a alwodd am Absalom. Yntau a ddaeth at y brenin, ac a ymgrymodd iddo i lawr ar ei wyneb gerbron y brenin. A’r brenin a gusanodd Absalom.

Currently Selected:

2 Samuel 14: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in