YouVersion Logo
Search Icon

2 Pedr 2

2
1Eithr bu gau broffwydi hefyd ymhlith y bobl, megis ag y bydd gau athrawon yn eich plith chwithau; y rhai yn ddirgel a ddygant i mewn heresïau dinistriol, a chan wadu’r Arglwydd yr hwn a’u prynodd hwynt, ydynt yn tynnu arnynt eu hunain ddinistr buan. 2A llawer a ganlynant eu distryw hwynt, oherwydd y rhai y ceblir ffordd y gwirionedd. 3Ac mewn cybydd-dod, trwy chwedlau gwneuthur, y gwnânt farsiandïaeth ohonoch: barnedigaeth y rhai er ys talm nid yw segur, a’u colledigaeth hwy nid yw yn hepian. 4Canys onid arbedodd Duw yr angylion a bechasent, eithr eu taflu hwynt i uffern, a’u rhoddi i gadwynau tywyllwch, i’w cadw i farnedigaeth; 5Ac onid arbedodd efe yr hen fyd, eithr Noe, pregethwr cyfiawnder, a gadwodd efe ar ei wythfed, pan ddug efe y dilyw ar fyd y rhai anwir; 6A chan droi dinasoedd Sodom a Gomorra yn lludw, a’u damniodd hwy â dymchweliad, gan eu gosod yn esampl i’r rhai a fyddent yn annuwiol; 7Ac a waredodd Lot gyfiawn, yr hwn oedd mewn gofid trwy anniwair ymarweddiad yr anwiriaid: 8(Canys y cyfiawn hwnnw yn trigo yn eu mysg hwynt, yn gweled ac yn clywed, ydoedd yn poeni ei enaid cyfiawn o ddydd i ddydd trwy eu hanghyfreithlon weithredoedd hwynt:) 9Yr Arglwydd a fedr wared y rhai duwiol rhag profedigaeth, a chadw y rhai anghyfiawn i ddydd y farn i’w poeni: 10Ac yn bennaf y rhai sydd yn rhodio ar ôl y cnawd mewn chwant aflendid, ac yn diystyru llywodraeth. Rhyfygus ydynt, cyndyn; nid ydynt yn arswydo cablu urddas: 11Lle nid yw’r angylion, y rhai sydd fwy mewn gallu a nerth, yn rhoddi cablaidd farn yn eu herbyn hwynt gerbron yr Arglwydd. 12Eithr y rhai hyn, megis anifeiliaid anrhesymol anianol, y rhai a wnaed i’w dal ac i’w difetha, a gablant y pethau ni wyddant oddi wrthynt, ac a ddifethir yn eu llygredigaeth eu hunain; 13Ac a dderbyniant gyflog anghyfiawnder, a hwy yn cyfrif moethau beunydd yn hyfrydwch. Brychau a meflau ydynt, yn ymddigrifo yn eu twyll eu hunain, gan wledda gyda chwi; 14A llygaid ganddynt yn llawn godineb, ac heb fedru peidio â phechod; yn llithio eneidiau anwadal: a chanddynt galon wedi ymgynefino â chybydd-dra; plant y felltith: 15Wedi gadael y ffordd union, hwy a aethant ar gyfeiliorn, gan ganlyn ffordd Balaam mab Bosor, yr hwn a garodd wobr anghyfiawnder; 16Ond efe a gafodd gerydd am ei gamwedd: asen fud arferol â’r iau, gan ddywedyd â llef ddynol, a waharddodd ynfydrwydd y proffwyd. 17Y rhai hyn ydynt ffynhonnau di-ddwfr, cymylau a yrrid gan dymestl; i’r rhai y mae niwl tywyllwch yng nghadw yn dragywydd. 18Canys gan ddywedyd chwyddedig eiriau gorwagedd, y maent hwy, trwy chwantau’r cnawd, a thrythyllwch, yn llithio’r rhai a ddianghasai yn gwbl oddi wrth y rhai sydd yn byw ar gyfeiliorn. 19Gan addo rhyddid iddynt, a hwythau eu hunain yn wasanaethwyr llygredigaeth: canys gan bwy bynnag y gorchfygwyd neb, i hwnnw hefyd yr aeth efe yn gaeth. 20Canys os, wedi iddynt ddianc oddi wrth halogedigaeth y byd, trwy adnabyddiaeth yr Arglwydd a’r Achubwr Iesu Grist, y rhwystrir hwy drachefn â’r pethau hyn, a’u gorchfygu; aeth diwedd y rhai hynny yn waeth na’u dechreuad. 21Canys gwell fuasai iddynt fod heb adnabod ffordd cyfiawnder, nag, wedi ei hadnabod, troi oddi wrth y gorchymyn sanctaidd yr hwn a draddodwyd iddynt. 22Eithr digwyddodd iddynt yn ôl y wir ddihareb, Y ci a ymchwelodd at ei chwydiad ei hun; a’r hwch wedi ei golchi, i’w hymdreiglfa yn y dom.

Currently Selected:

2 Pedr 2: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy